Y sawl sy'n rhodio'n gyfiawn ac yn dweud y gwir,
sy'n gwrthod elw trawster,
sy'n cau ei ddwrn rhag derbyn llwgrwobr,
sy'n cau ei glustiau rhag clywed am lofruddio,
sy'n cau ei lygaid rhag edrych ar anfadwaith.
Y mae ef yn trigo yn yr uchelder,
a'i loches yn amddiffynfeydd y creigiau,
a'i fara'n dod iddo, a'i ddŵr yn sicr.