YouVersion Logo
Search Icon

Actau 22

22
1“Frodyr a thadau, gwrandewch ar f'amddiffyniad ger eich bron yn awr.” 2Pan glywsant mai yn iaith yr Iddewon yr oedd yn eu hannerch, rhoesant wrandawiad tawelach iddo. Ac meddai, 3“Iddew wyf fi, wedi fy ngeni yn Nharsus yn Cilicia, ac wedi fy nghodi yn y ddinas hon. Cefais fy addysg wrth draed Gamaliel yn ôl llythyren Cyfraith ein hynafiaid, ac yr wyf yn selog dros Dduw, fel yr ydych chwithau oll heddiw. 4Erlidiais y Ffordd hon hyd at ladd, gan rwymo a rhoi yng ngharchar wŷr a gwragedd, 5fel y mae'r archoffeiriad a holl Gyngor yr henuriaid yn dystion i mi; oddi wrthynt hwy yn wir y derbyniais lythyrau at ein cyd-Iddewon yn Namascus, a chychwyn ar daith i ddod â'r rhai oedd yno hefyd yn rhwym i Jerwsalem i'w cosbi.
Paul yn Sôn am ei Dröedigaeth
Act. 9:1–19; 26:12–18
6“Ond pan oeddwn ar fy nhaith ac yn agosáu at Ddamascus, yn sydyn tua chanol dydd fe fflachiodd goleuni mawr o'r nef o'm hamgylch. 7Syrthiais ar y ddaear, a chlywais lais yn dweud wrthyf, ‘Saul, Saul, pam yr wyt yn fy erlid i?’ 8Atebais innau, ‘Pwy wyt ti, Arglwydd?’ A dywedodd wrthyf, ‘Iesu o Nasareth wyf fi, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid.’ 9Gwelodd y rhai oedd gyda mi y goleuni, ond ni chlywsant lais y sawl oedd yn llefaru wrthyf. 10A dywedais, ‘Beth a wnaf, Arglwydd?’ Dywedodd yr Arglwydd wrthyf, ‘Cod a dos i Ddamascus, ac yno fe ddywedir wrthyt bopeth yr ordeiniwyd iti ei wneud.’ 11Gan nad oeddwn yn gweld dim oherwydd disgleirdeb y goleuni hwnnw, fe'm harweiniwyd gerfydd fy llaw gan y rhai oedd gyda mi, a deuthum i Ddamascus.
12“Daeth rhyw Ananias ataf, gŵr duwiol yn ôl y Gyfraith, a gair da iddo gan yr holl Iddewon oedd yn byw yno. 13Safodd hwn yn f'ymyl a dywedodd wrthyf, ‘Y brawd Saul, derbyn dy olwg yn ôl.’ Edrychais innau arno a derbyn fy ngolwg yn ôl y munud hwnnw. 14A dywedodd yntau: ‘Y mae Duw ein tadau wedi dy benodi di i wybod ei ewyllys, ac i weld yr Un Cyfiawn a chlywed llais o'i enau ef; 15oherwydd fe fyddi di'n dyst iddo, wrth yr holl ddynolryw, o'r hyn yr wyt wedi ei weld a'i glywed. 16Ac yn awr, pam yr wyt yn oedi? Tyrd i gael dy fedyddio a chael golchi ymaith dy bechodau, gan alw ar ei enw ef.’
Anfon Paul at y Cenhedloedd
17“Wedi imi ddychwelyd i Jerwsalem, dyma a ddigwyddodd pan oeddwn yn gweddïo yn y deml: euthum i lesmair, 18a'i weld ef yn dweud wrthyf, ‘Brysia ar unwaith allan o Jerwsalem, oherwydd ni dderbyniant dy dystiolaeth amdanaf fi.’ 19Dywedais innau, ‘Arglwydd, y maent hwy'n gwybod i mi fod o synagog i synagog yn carcharu ac yn fflangellu'r rhai oedd yn credu ynot ti. 20A phan oedd gwaed Steffan, dy dyst, yn cael ei dywallt, yr oeddwn innau hefyd yn sefyll yn ymyl, ac yn cydsynio, ac yn gwarchod dillad y rhai oedd yn ei ladd.’ 21A dywedodd wrthyf, ‘Dos, oherwydd yr wyf fi am dy anfon di ymhell at y Cenhedloedd.’ ”
Paul a'r Capten Rhufeinig
22Yr oeddent wedi gwrando arno hyd at y gair hwn, ond yna dechreusant weiddi, “Ymaith ag ef oddi ar y ddaear! Y mae'n warth fod y fath ddyn yn cael byw.” 23Fel yr oeddent yn gweiddi ac yn ysgwyd eu dillad ac yn taflu llwch i'r awyr, 24gorchmynnodd y capten ei ddwyn ef i mewn i'r pencadlys, a'i holi trwy ei chwipio, er mwyn cael gwybod pam yr oeddent yn bloeddio felly yn ei erbyn. 25Ond pan glymwyd ef i'w fflangellu, dywedodd Paul wrth y canwriad oedd yn sefyll gerllaw, “A oes gennych hawl i fflangellu dinesydd Rhufeinig, a hynny heb farnu ei achos?” 26Pan glywodd y canwriad hyn, aeth at y capten, a rhoi adroddiad iddo, gan ddweud, “Beth yr wyt ti am ei wneud? Y mae'r dyn yma yn ddinesydd Rhufeinig.” 27Daeth y capten ato, ac meddai, “Dywed i mi, a wyt ti'n ddinesydd Rhufeinig?” “Ydwyf,” meddai yntau. 28Atebodd y capten, “Mi delais i swm mawr i gael y ddinasyddiaeth hon.” Ond dywedodd Paul, “Cefais i fy ngeni iddi.” 29Ar hyn, ciliodd y rhai oedd ar fin ei holi oddi wrtho. Daeth ofn ar y capten hefyd pan ddeallodd mai dinesydd Rhufeinig ydoedd, ac yntau wedi ei rwymo ef.
Paul gerbron y Cyngor
30Trannoeth, gan fod y capten am wybod yn sicr beth oedd cyhuddiad yr Iddewon, fe ollyngodd Paul yn rhydd, a gorchymyn i'r prif offeiriaid a'r holl Sanhedrin ymgynnull. Yna daeth ag ef i lawr, a'i osod ger eu bron.

Currently Selected:

Actau 22: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in