YouVersion Logo
Search Icon

Actau 21

21
Taith Paul i Jerwsalem
1Wedi i ni ymadael â hwy a chodi angor, daethom ar union hynt i Cos, a thrannoeth i Rhodos, ac oddi yno i Patara. 2Cawsom long yn croesi i Phoenicia, ac aethom arni a hwylio ymaith. 3Wedi dod i olwg Cyprus, a'i gadael ar y chwith, hwyliasom ymlaen i Syria, a glanio yn Tyrus, oherwydd yno yr oedd y llong yn dadlwytho. 4Daethom o hyd i'r disgyblion, ac aros yno saith diwrnod; a dywedodd y rhain wrth Paul trwy'r Ysbryd am beidio â mynd ymlaen i Jerwsalem. 5Ond pan ddaeth ein dyddiau yno i ben, ymadawsom ar ein taith, a phawb ohonynt, ynghyd â'u gwragedd a'u plant, yn ein hebrwng i'r tu allan i'r ddinas. Aethom ar ein gliniau ar y traeth, a gweddïo, 6a ffarwelio â'n gilydd. Yna dringasom ar fwrdd y llong, a dychwelsant hwythau adref.
7Daeth ein mordaith o Tyrus i ben wrth inni gyrraedd Ptolemais. Cyfarchasom y credinwyr yno ac aros un diwrnod gyda hwy. 8Trannoeth, aethom ymaith a dod i Gesarea; ac aethom i mewn i dŷ Philip yr efengylwr, un o'r Saith, ac aros gydag ef. 9Yr oedd gan hwn bedair merch ddibriod, a dawn proffwydo ganddynt. 10Yn ystod y dyddiau lawer y buom gydag ef, daeth dyn i lawr o Jwdea, proffwyd o'r enw Agabus. 11Daeth atom, a chymryd gwregys Paul, a rhwymo'i draed a'i ddwylo ei hun, a dweud, “Dyma eiriau'r Ysbryd Glân: ‘Y gŵr biau'r gwregys hwn, fel hyn y rhwyma'r Iddewon ef yn Jerwsalem, a'i draddodi i ddwylo'r Cenhedloedd.’ ” 12Pan glywsom hyn, dechreusom ni a phobl y lle erfyn arno i beidio â mynd i fyny i Jerwsalem. 13Yna atebodd Paul, “Beth yr ydych yn ei wneud, yn wylo ac yn torri fy nghalon? Oherwydd yr wyf fi'n barod, nid yn unig i gael fy rhwymo, ond hyd yn oed i farw, yn Jerwsalem, er mwyn enw'r Arglwydd Iesu.” 14A chan nad oedd modd cael perswâd arno, tawsom gan ddweud, “Gwneler ewyllys yr Arglwydd.”
15Wedi'r dyddiau hyn, gwnaethom ein paratoadau a chychwyn i fyny i Jerwsalem; 16ac fe ddaeth rhai o'r disgyblion o Gesarea gyda ni, gan ddod â ni i dŷ'r gŵr yr oeddem i letya gydag ef, Mnason o Cyprus, un oedd wedi bod yn ddisgybl o'r dechrau.
Paul yn Ymweld â Iago
17Wedi inni gyrraedd Jerwsalem, cawsom groeso llawen gan y credinwyr. 18A thrannoeth, aeth Paul gyda ni at Iago, ac yr oedd yr henuriaid i gyd yno. 19Ar ôl eu cyfarch, adroddodd yn fanwl y pethau yr oedd Duw wedi eu gwneud ymhlith y Cenhedloedd trwy ei weinidogaeth. 20O glywed hyn, rhoesant ogoniant i Dduw. Yna meddent wrth Paul, “Yr wyt yn gweld, frawd, fod credinwyr dirifedi ymhlith yr Iddewon, ac y maent i gyd yn selog dros y Gyfraith; 21a chawsant wybodaeth amdanat ti, dy fod yn dysgu'r holl Iddewon sydd ymysg y Cenhedloedd i wrthgilio oddi wrth Moses, gan ddweud wrthynt am beidio ag enwaedu ar eu plant na byw yn ôl ein defodau. 22Beth sydd i'w wneud, felly? Y maent yn siŵr o glywed dy fod wedi dod. 23Felly, gwna'r hyn a ddywedwn wrthyt. Y mae gennym bedwar dyn sydd dan lw. 24Cymer y rhain, a dos di gyda hwy trwy ddefod y pureiddio, a thâl y gost drostynt, iddynt gael eillio eu pennau; yna fe wêl pawb nad oes dim yn y wybodaeth a gawsant amdanat, ond dy fod tithau hefyd yn dilyn ac yn cadw'r Gyfraith. 25Ond am y credinwyr o blith y Cenhedloedd, yr ydym ni wedi ysgrifennu atynt a rhoi ein dyfarniad, eu bod i ymgadw rhag bwyta yr hyn a aberthwyd i eilunod, neu waed, neu'r hyn a dagwyd, a rhag anfoesoldeb rhywiol.#21:25 Yn ôl darlleniad arall, rhag bwyta yr hyn a aberthwyd i eilunod, a rhag gwaed, a rhag anfoesoldeb rhywiol.26Yna fe gymerodd Paul y gwŷr, a thrannoeth aeth trwy ddefod y pureiddio gyda hwy, ac aeth i mewn i'r deml, i roi rhybudd pa bryd y cyflawnid dyddiau'r pureiddio ac yr offrymid yr offrwm dros bob un ohonynt.
Dal Paul yn y Deml
27Ond pan oedd y saith diwrnod bron ar ben, gwelodd yr Iddewon o Asia ef yn y deml. Codasant gynnwrf yn yr holl dyrfa, a chymryd gafael ynddo, 28gan weiddi, “Chwi Israeliaid, helpwch ni. Hwn yw'r dyn sy'n dysgu pawb ym mhob man yn erbyn ein pobl a'r Gyfraith a'r lle hwn, ac sydd hefyd wedi dod â Groegiaid i mewn i'r deml, a halogi'r lle sanctaidd hwn.” 29Oherwydd yr oeddent cyn hynny wedi gweld Troffimus yr Effesiad yn y ddinas gydag ef, ac yr oeddent yn meddwl fod Paul wedi dod ag ef i mewn i'r deml. 30Cyffrowyd yr holl ddinas, a rhuthrodd y bobl ynghyd. Cymerasant afael yn Paul, a'i lusgo allan o'r deml, a chaewyd y drysau ar unwaith. 31Fel yr oeddent yn ceisio'i ladd ef, daeth neges at gapten y fintai fod Jerwsalem i gyd mewn cynnwrf. 32Cymerodd yntau filwyr a chanwriaid ar unwaith, a rhedeg i lawr atynt; a phan welsant hwy'r capten a'r milwyr, rhoesant y gorau i guro Paul. 33Yna daeth y capten atynt, a chymryd gafael yn Paul, a gorchymyn ei rwymo â dwy gadwyn. Dechreuodd holi pwy oedd, a beth yr oedd wedi ei wneud. 34Yr oedd rhai yn y dyrfa yn bloeddio un peth, ac eraill beth arall. A chan na allai ddod o hyd i'r gwir oherwydd y dwndwr, gorchmynnodd ei ddwyn i'r pencadlys. 35A phan ddaeth Paul at y grisiau, bu raid i'r milwyr ei gario oherwydd ffyrnigrwydd y dyrfa, 36oblegid yr oedd tyrfa o bobl yn canlyn dan weiddi, “Ymaith ag ef!”
Paul yn ei Amddiffyn ei Hun
37Pan oedd ar fin cael ei ddwyn i mewn i'r pencadlys, dyma Paul yn dweud wrth y capten, “A gaf fi ddweud gair wrthyt?” Meddai yntau, “A wyt ti yn medru Groeg? 38Nid tydi felly yw'r Eifftiwr a gododd derfysg beth amser yn ôl ac a arweiniodd allan i'r anialwch y pedair mil o derfysgwyr arfog?” 39Dywedodd Paul, “Iddew wyf fi, o Darsus yn Cilicia, dinesydd o ddinas nid dinod; ac rwy'n erfyn arnat, caniatâ imi lefaru wrth y bobl.” 40Ac wedi iddo gael caniatâd, safodd Paul ar y grisiau, a gwnaeth arwydd â'i law ar y bobl, ac ar ôl cael distawrwydd llwyr anerchodd hwy yn iaith yr Iddewon, gan ddweud:

Currently Selected:

Actau 21: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in