YouVersion Logo
Search Icon

Actau 23

23
1Syllodd Paul ar y Sanhedrin, ac meddai, “Frodyr, yr wyf fi wedi byw â chydwybod lân gerbron Duw hyd y dydd hwn.” 2Ond gorchmynnodd Ananias yr archoffeiriad i'r rhai oedd yn sefyll yn ei ymyl ei daro ar ei geg. 3Yna dywedodd Paul wrtho, “Y mae Duw yn mynd i'th daro di, tydi bared gwyngalchog. A wyt ti'n eistedd i'm barnu i yn ôl y Gyfraith, ac yna'n torri'r Gyfraith trwy orchymyn fy nharo?” 4Ond dywedodd y rhai oedd yn sefyll yn ei ymyl, “A wyt ti'n beiddio sarhau archoffeiriad Duw?” 5Ac meddai Paul, “Ni wyddwn, frodyr, mai'r archoffeiriad ydoedd; oherwydd y mae'n ysgrifenedig, ‘Paid â dweud yn ddrwg am bennaeth dy bobl.’ ”
6Sylweddolodd Paul fod y naill ran yn Sadwceaid, a'r llall yn Phariseaid, a dechreuodd lefaru'n uchel yn y Sanhedrin: “Frodyr, Pharisead wyf fi, a mab i Pharisead. Ynghylch gobaith am atgyfodiad y meirw yr wyf ar fy mhrawf.” 7Wedi iddo ddweud hyn, aeth yn ddadl rhwng y Phariseaid a'r Sadwceaid, a rhannwyd y cynulliad. 8Oherwydd y mae'r Sadwceaid yn dweud nad oes nac atgyfodiad nac angel nac ysbryd, ond y mae'r Phariseaid yn eu cydnabod i gyd. 9Bu gweiddi mawr, a chododd rhai o'r ysgrifenyddion oedd yn perthyn i blaid y Phariseaid, a dadlau'n daer, gan ddweud, “Nid ydym yn cael dim drwg yn y dyn hwn; a beth os llefarodd ysbryd wrtho, neu angel?” 10Ac wrth i'r ddadl boethi, daeth ofn ar y capten rhag i Paul gael ei dynnu'n ddarnau ganddynt, a gorchmynnodd i'r milwyr ddod i lawr i'w gipio ef o'u plith hwy, a mynd ag ef i'r pencadlys.
11Y noson honno, safodd yr Arglwydd yn ei ymyl a dweud, “Cod dy galon! Oherwydd fel y tystiolaethaist amdanaf fi yn Jerwsalem, felly y mae'n rhaid iti dystiolaethu yn Rhufain hefyd.”
Y Cynllwyn i Ladd Paul
12Pan ddaeth yn ddydd, gwnaeth yr Iddewon gynllwyn: aethant ar eu llw i beidio â bwyta nac yfed dim nes y byddent wedi lladd Paul. 13Yr oedd mwy na deugain wedi gwneud y cydfwriad hwn. 14Aethant at y prif offeiriaid a'r henuriaid, a dweud, “Yr ydym wedi mynd ar ein llw mwyaf difrifol i beidio â phrofi dim bwyd nes y byddwn wedi lladd Paul. 15Rhowch chwi, felly, ynghyd â'r Sanhedrin, rybudd yn awr i'r capten, iddo ddod ag ef i lawr atoch, ar yr esgus eich bod am ymchwilio yn fanylach i'w achos. Ac yr ydym ninnau yn barod i'w ladd ef cyn iddo gyrraedd.” 16Ond fe glywodd mab i chwaer Paul am y cynllwyn, ac aeth i'r pencadlys, a mynd i mewn ac adrodd yr hanes wrth Paul. 17Galwodd Paul un o'r canwriaid ato, ac meddai, “Dos â'r llanc yma at y capten; y mae ganddo rywbeth i'w ddweud wrtho.” 18Felly cymerodd y canwriad ef, a mynd ag ef at y capten, ac meddai, “Galwodd y carcharor Paul fi, a gofyn imi ddod â'r llanc hwn atat ti, am fod ganddo rywbeth i'w ddweud wrthyt.” 19Cymerodd y capten afael yn ei law, a mynd ag ef o'r neilltu a holi, “Beth yw'r hyn sydd gennyt i'w ddweud wrthyf?” 20Meddai yntau, “Cytunodd yr Iddewon i ofyn i ti fynd â Paul i lawr yfory i'r Sanhedrin, ar yr esgus fod y rheini am holi yn fanylach yn ei gylch. 21Yn awr, paid â gwrando arnynt, oherwydd y mae mwy na deugain o'u dynion yn aros i ymosod arno; y maent wedi mynd ar eu llw i beidio â bwyta nac yfed nes y byddant wedi ei ladd ef, ac y maent yn barod yn awr, yn disgwyl am dy ganiatâd di.” 22Yna anfonodd y capten y llanc ymaith, ar ôl gorchymyn iddo, “Paid â dweud wrth neb dy fod wedi rhoi gwybod imi am hyn.”
Anfon Paul at Ffelix, y Rhaglaw
23Yna galwodd ato ddau ganwriad arbennig, a dweud wrthynt, “Paratowch ddau gant o filwyr i fynd i Gesarea, a saith deg o wŷr meirch a dau gan picellwr, erbyn naw o'r gloch y nos. 24Darparwch hefyd anifeiliaid, iddynt osod Paul arnynt a mynd ag ef yn ddiogel at Ffelix, y rhaglaw.” 25Ac ysgrifennodd lythyr i'r perwyl hwn: 26“Clawdius Lysias at yr Ardderchocaf Raglaw Ffelix, cyfarchion. 27Daliwyd y dyn hwn gan yr Iddewon, ac yr oedd ar fin cael ei ladd ganddynt, ond deuthum ar eu gwarthaf gyda'm milwyr ac achubais ef, wedi imi ddeall ei fod yn ddinesydd Rhufeinig. 28Gan fy mod yn awyddus i gael gwybod pam yr oeddent yn ei gyhuddo, euthum ag ef i lawr gerbron eu Sanhedrin. 29Cefais ei fod yn cael ei gyhuddo ynglŷn â materion dadleuol yn eu Cyfraith hwy, ond nad oedd yn wynebu cyhuddiad oedd yn haeddu marwolaeth neu garchar. 30A chan imi gael ar ddeall y byddai cynllwyn yn erbyn y dyn, yr wyf fi ar unwaith#23:30 Yn ôl darlleniad arall, cynllwyn ganddynt yn erbyn y dyn, yr wyf fi. yn ei anfon atat ti, wedi gorchymyn i'w gyhuddwyr hefyd gyflwyno ger dy fron di eu hachos yn ei erbyn ef.#23:30 Yn ôl darlleniad arall ychwanegir Ffarwel.
31Felly cymerodd y milwyr Paul, yn ôl y gorchymyn a gawsent, a mynd ag ef yn ystod y nos i Antipatris. 32Trannoeth, dychwelsant i'r pencadlys, gan adael i'r gwŷr meirch fynd ymlaen gydag ef. 33Wedi i'r rhain fynd i mewn i Gesarea, rhoesant y llythyr i'r rhaglaw, a throsglwyddo Paul iddo hefyd. 34Darllenodd yntau'r llythyr, a holi o ba dalaith yr oedd yn dod. Pan ddeallodd ei fod o Cilicia, 35dywedodd, “Gwrandawaf dy achos pan fydd dy gyhuddwyr hefyd wedi cyrraedd.” A gorchmynnodd ei gadw dan warchodaeth yn Praetoriwm Herod.

Currently Selected:

Actau 23: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in