YouVersion Logo
Search Icon

Ecclesiasticus 42

42
PEN. XLII.
Chwaneg o’r pethau nid rhaid i ddyn mor cywilydd o honynt, 9 am ferch gwr ai wraig, 15 anfeidrol wybodaeth Duw.
1Nac ystyr berson i bechu, ac na fydded arnat gywilydd am y pethau hyn:
2Sef am gyfraith y Goruchaf, ai gyfammod, nac am y farn a wnêl i’r annuwiol fod yn gyfiawn:
3Am ystyried wrth dy gyfeillion, ac ymdeith-wŷr, nac am rannu etifeddiaeth rhwng cyfeillion:
4Am fod yn ofalus am gloriannau a phwysau, nac am feddiannu llawer neu ychydig:
5Am iniondeb yn prynu a gwerthu, nac am ddyscu llawer ar blant, nac am dynnu gwaed o ystlys gwâs drwg.
6Da yw selio rhag gwraig ddrwg, a chloi lle y byddo llawer o ddwylo.
7Pan roddech beth at arall, dod tann rif a phwys, dod a derbyn wrth scrifen.
8Trwy ddyscu yr anoeth a’r angall a’r cleiriach a ymrysono ag ieuenetid y byddi di wîr ddyscedic a chymeradwy ger bron pob dŷn byw.
9Merch a bair iw thâd wilied yn ddirgel, ai ofal ef am dani hi a luddia ei gwsc ef, rhag iddi nac yn ei hieuengtid flodeuo yn rhy fuan, na chael ei chasau wrth gyttal.
10Rhag ei halogi hi yn ei morwyndod, ai beichiogi yn nhŷ ei thâd, ac iddi wneuthur bai pan fyddo gyd â gŵr, ac er cyttal fod yn am­mhlantadwy.
11Cadw yn sicer ferch wammal rhag iddi wneuthur dy elynnion yn llawen, a pheri i’r ddinas sôn am danat, ac i’r bobl feio arnat, a’th wradwyddo ym mysc pobl lawer.
12 # Pen.25.23. Nac eyrych ar degwch pob dŷn, ac nac aros ym mysc gwragedd.
13O blegit o ddillad y daw gwyfyn: #Gen.3.6.a drygioni gwraig o wraig.
14Gwell yw gŵr drygionus na gwraig fuddiol, [sef] gwraig yr hon a wradwydda yn ddanodus.
15Mi a gofiaf weithredoedd yr Arglwydd, ac a fynegaf yr hyn a welais: yng-eiriau yr Arglwydd [y ceir] ei weithredoedd ef.
16Pan oleno yr haul efe a oleua ar bob peth: felly y mae gwaith yr Arglwydd yn llawn oi ogoniant ef.
17Oni wnaeth yr Arglwydd iw rai sanctaidd fynegu ei holl ryfeddodau ef, y rhai a siccr­haodd yr Holl-alluoc, fel y bydde pob peth yn siccr yn ei ogoniant ef:
18Y mae efe yn chwilio y dyfnder allan, a’r galon, ac yn deall eu cyfrwysdra hwynt y mae y Goruchaf.
19Canys y mae y Goruchaf yn gwybod gwybodaeth, ac yn gweled arwyddion yr amseroedd, y mae efe yn mynegu pethau a fuant a phethau a fyddant, ac yn dadcuddio ôl pethau dirgel.
20 # Iob.41.4. Esa.29.15. Nid aiff vn meddwl heibio iddo ef, ac ni bydd vn gair yn guddiedic oddi wrtho ef.
21Efe a harddodd fawredd ei ddoethineb, ac y mae efe o dragywyddoldeb i dragywyddoldeb.
22Ni ellir estyn etto ef na thynnu oddi wrtho ef: nid rhaid iddo ef wrth gyngor neb.
23Mor hyfryd yw ei holl wethredoedd ef, îe hyd yn oed gwreichionen fe a ellir gweled.
24Y mae y rhai hyn oll yn byw, ac yn parhau byth, a pha bryd bynnac y mae yn rhaid wrthynt hwy, y maent hwy yn vfyddhau oll.
25Y maent hwy oll yn ddau ddyblyg, y naill ar gyfer y llall, ac ni wnaeth efe ddim a diffic arno.
26Y mae y naill yn siccrhau daioni y llall, a phwy a gaiff ddigō o edrych ar ei ogoniant ef:

Currently Selected:

Ecclesiasticus 42: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in