YouVersion Logo
Search Icon

Ecclesiasticus 41

41
PEN. XLI.
Am ofn angeu, 8 ac am gospedigaeth y rhai annuwiol.
1Oh angeu mor chwerw yw meddwl am danat ti i’r dŷn a fyddo yn ceisio heddwch yn yr hyn a fyddo ganddo ef?
2I’r gŵr a fyddo dihelbul, ac yn llwyddian­nus ym mhob peth, ac i’r hwn a ddichon etto gymmeryd ei fwyd?
3Oh angeu mor dda yw dy farn di i’r ang­henus, ac i’r gwan:
4Ac i’r hen ddihenudd, ac i’r hwn sydd yn ofalus am bob peth, ac i’r anobeithiol, ac i’r anioeddefgar?
5Nac ofna angeu, cofia yr hyn a fu o’th flaen di, ac a fydd ar dy ôl di: dymma farn yr Arglwydd ar dy cnawd di.
6Pa ham y gwrthwynebi di ewyllys y Goruchaf: pa vn bynnac ai dec ai cant ai mîl o flynyddoedd [a roddo efe.]
7Nid oes cerydd yn vffern am fyw.
8Plant ffiaidd yw plant pechaduriaid: fel y mae y rhai a ydynt yn byw yn agos i’r annuwiol.
9Etifeddiaeth plant annuwiol a ddifethir, a chyd ai hiliogaeth hwynt yr erys gwradwydd yn wastad.
10Rhag tâd annuwiol yr achwyn y plant: o blegit hwy a wradwyddir oi achos ef.
11Gwae chwi wŷr annuwiol y rhai a adawsoch gyfraith y Duw goruchaf: o blegit er eich amlhau, chwi a ddifethir.
12A phan aner chwi a enir i felldith, ac os meirw fyddwch chwi, i felldith y rhoddir chwi yn rhan.
13 # Pen.40.11. Aiff pob peth i’r ddaiar a ddelo o’r ddaiar, felly yr aiff yr annuwiol i ddestruw.
14Galar dynion fydd am eu cyrph, ond enw dynion a ddeleuir pan nid yw efe dda.
15Bydd ofalus am enw da: canys hwnnw a erys gyd â thi yn hwy na mîl o dryssorau mawrion o aur.
16Buchedd dda a gaiff nifer o ddyddiau, ac enw da a beru byth.
17Fy meibion cedwch ddoethineb mewn heddwch.
18Am #Pen.20.29.ddoethineb wedi ei chuddio, a thryssor heb ei weled pa fudd sydd o’r ddau:
19Gwell yw ’r dŷn a guddio ei ffolineb na’r dyn a guddio ei ddoethineb.
20Gwladeiddied gan hynny o herwydd fyng-air i: o blegit nid da yw cadw pob gwla­deidd-dra, ac ni chymmer pawb fod pob peth yn ffyddlon.
21Cywilyddiwch yng-ŵydd tâd a mam am odineb, ac yng-ŵydd tywysog neu bendefig am gelwydd.
22Am fai o flaen yr ynad a’r tywysog, am anwiredd yng-wydd y gynnulleidfa a’r bobl,
23Ac am anghifiawnder yng-wydd cydymmaith a chyfaill.
24Felly am ledrad lle y byddech yn aros ond am wirionedd Duw ai gyfammod [na fydded arnat gywilydd, eithr cywilyddia am ben­lino ar y bara, a phan i’th gerydder di am roddi a derbyn.
25Yr vn modd am dewi wrth y rhai a’th gyfarchant, ac am edrych ar wraig butteinig ni byddo eiddo ti, ac am droi [dy] wyneb oddi wrth ŵr bonheddig:
26Am ddwyn rhodd neu ran [neb,] ac am roddi serch ar wraig gŵr priod, ac am arfer maswedd â morwyn, am hynny na saf wrth ei gwely hi,
27[Bydded yn gywilydd gennit] edliw i’th gydymmaith, ac na ddannod wedi rhoddi,
28Ac am adrodd drachefn yr hyn a glywech, a dadcuddio cyfrinach: felly y byddi di yn iawn gywilyddgar, ac y cei di ffafor gan bob dŷn.

Currently Selected:

Ecclesiasticus 41: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in