YouVersion Logo
Search Icon

Ecclesiasticus 43

43
PEN. XLIII.
Godidawgrwydd amryw creaturiaid Duw.
1Gogoniant yr vchelder yw ’r furfafen hyfryd, yn yr olwg ar ei ogoniant ef y mae tegwch y nefoedd.
2Y mae yr haul hefyd wrth ymddangos yn mynegu am [Dduw gogoneddus] mai offeryn rhyfedd yw gwaith y Goruchaf.
3Ar hanner dydd fe a lysc y wlad, a phwy a ddichon aros ar gyfer ei wrês ef:
4Y mae vn yn cadw ffwrn yn boeth, tri mwy y llysc yr haul y mynyddoedd: gan chwythu allan angerdd tanllyd, a discleirio, âi belydr y mae efe yn dallu y llygaid.
5Mawr yw yr Arglwydd yr hwn ai gwnaeth ef, ac wrth ei orchymyn ef, efe a beidiodd ai daith.
6Y lleuad hefyd a wnaeth efe i sefyll yn ei hamser: i fod yn egluro yr amser, ac yn arwydd i’r byd:
7 # Deut.12.2. Wrth y lleuad y ceir gŵybod yr ŵyl, sef goleuni yn lleihau tu ar diwedd.
8Ar ei henw hi y mae y mis, ac efe a gynydda yn rhyfedd yn y cyfnewid.
9Y mae llu gwersyllol yn yr vchelder yn llewyrchu yn ffurafen y nefoedd.
10Disclairdeb y sêr sydd yn degwch i’r nefoedd, ac yn harddwch yn discleirio yn vchelder yr Arglwydd.
11Wrth y gorchymyn sanctaidd y maent hwy yn sefydlu coll-farn yn eu defod, ac nid ydynt yn llosci yn eu gwiliadwriaeth.
12 # Gen.9.13. Gwêl yr enfys a chlodfora yr hwn ai gwnaeth hi, têg odieth yw hi yn ei disclaereb.
13Y mae #Esa.40.12.hi yn amgylchu y nefoedd â chylch gogoneddus, dwylo yr Arglwydd ai hannelodd hi.
14Y mae efe wrth ei orchymyn yn gwneuthur i’r eira beidio, ac i daranau ei farn ef bryssuro.
15Am hynny yr ymegyr y tryssorau, ac yr hêd y cwmmylau fel adar.
16Yn ei fawredd y cadarnhaodd efe y cwmylau, ac y drylliwyd cerrig y cenllysc.
17Y mae twrwf ei daran ef yn cystuddio y ddaiar: a’r mynyddoedd a symmudant rhag ei olwg ef.
18Wrth ei ewyllys ef y chwyth y gwynt, a themhestl y gogledd wynt a’r trô-wynt.
19Y mae efe yn tanu eira fel adar yn ehedeg, ac fel locustiaid dinistriol y descyn efe.
20Rhyfedd gan lygad [weled] tegwch ei wynder ef: a [phob] calon a ofna ei gafod ef.
21Efe a dywallt rew ar y ddaiar fel halen, ac wedi iddo ef rewi, y mae efe yn bîg llym.
22Pan chwytho y gogleddwynt oer y rhewa [megis] grisial o’r dwfr, ac a orphywys ar bob llyn dwfr, ac a wisc y dyfroedd megis lluric.
23Y mae efe yn difa y mynyddoedd, ac yn llosci y diffaethwch, ac yn diffoddi pob gwyrdd­lesni fel tân.
24Meddiginiaeth rhag y cwbl yw cwmwl a ddelo ar frŷs, a gwlith a ddelo yn erbyn gwrês ac ai llawenycha hwynt.
25Wrth yr hyn a ddychymygodd efe y llonyddodd efe y dyfnder, ac efe a blannodd ynysoedd yno.
26Y rhai a hwyliant ar y môr a fynegant mor enbyd yw efe, a phan glywom ninnau a’n clustiau, nyni a ryfeddwn.
27Yno y mae dieithr weithredoedd rhyfedd: pob amryw anifail a’r mor-feirch.
28Trwyddo ef y mae ei angel ef yn cael hyffordd: a thrwy ei air ef y cyfāsoddwyd pob peth.
29Nyni a ddywedwn lawer, er hynny ni chyrhaeddwn ni berffeithrwydd ymadrodd: efe yw ’r cwbl.
30Pa fodd y gallwn ni ei ogoneddu ef, canys y mae efe o’r tu hwynt iw holl waith:
31Ofnadwy yw ’r Arglwydd #Psal.96.4.a mawr o­diaeth, a rhyfedd yw ei allu ef.
32Pan ogoneddoch chwi yr Arglwydd derchefwch ef fwyaf ac y galloch, ac efe a ragora ar hynny.
33A phan dderchafoch ef rhoddwch lawer o egni.
34Na flinwch, canys ni chyrrheddwch chwi: #Ioan.1.18. Psal.106.2.pwy ai gwelodd ef, ac a fynega: a phwy ai mawryga ef megis y mae efe:
35Y mae llawer peth mwy na hyn yn gudi­eddic: ychydic a welsom ni oi weithredoedd ef.
36O blegit yr Arglwydd a wnaeth bob peth: ac i’r rhai duwiol y roddes efe ddoethineb.

Currently Selected:

Ecclesiasticus 43: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in