YouVersion Logo
Search Icon

Numeri 15

15
PEN. XV.
Trefn y rhoddion a roddyd yng-hyd a’r aberthau. 24 am bechod a wneler heb wybod, 30 neu trwy ryfyg. 32 cosp yr hwn a gasclodd friwydd ar y Sabboth. 38 Gweltiau y gorchymynnion.
1A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd:
2Llefara wrth feibion Israel, a dywet wrthynt: #Lefit.23.10.pan ddeloch i dîr eich presswylfa, yr hwn yr ydwyfi yn ei roddi i chwi,
3Ac offrymmu o honoch aberth tanllyd i’r Arglwydd [o] offrwm poeth, neu aberth [arall,] gan #Leuit.22.2.neilltuo adduned, naill ai yn eich offrwm gwirfodd, ai ar eich gwyliau gosodedic, gan wneuthur #Exod.29.18.arogl esmwyth i’r Arglwydd o’r eidionnau, neu o’r praidd:
4Yna #Leuit.2.1.offrymmed yr hwn a offrymmo ei rodd i’r Arglwydd o beillied ddecfed ran Epha, wedi ei gymmyscu trwy bedwaredd ran Hin o olew yn fwyd offrwm.
5Ac offrwm di gyd a’r offrwm poeth, neu aberth [arall] bedwaredd ran Hin o wîn am bob oen yn ddiod offrwm.
6A thi a offrymmi yn fwyd offrwm gyd a hwrdd o beillied ddwy ddecfed rā [Epha,] wedi ei gymmyscu trwy drydedd ran Hin o olew.
7A thrydedd ran Hin o wîn yn ddiod offrwm: [felly] yr offrymmu arogl esmwyth i’r Arglwydd.
8A phan ddarperech lô buwch yn offrwm poeth, neu aberth [arall,] gan nalltuo adduned, neu [aberth] hedd i’r Arglwydd:
9Yna offrymmed yn fwyd offrwm gyd a llo y fuwch o beillied dair decfed ran [Epha,] wedi ei gymmyscu trwy haner Hin o olew.
10Ac offrwm haner Hin o wîn yn ddiod offrwm [dymma] aberth tanllyd, o arogl esmwyth i’r Arglwydd.
11Felly y gwneir am bob ŷch, neu am bob hwrdd, neu am oen, neu am fynn.
12Yn ol y rhifedi yr hwn a ddarparoch, felly y darperwch i [bob] vn yn ol eu rhifedi.
13Pob priodor a wna y pethau hyn felly, wrth offrymmu aberth tanllyd o arogl esmwyth i’r Arglwydd.
14A phan ymdeithio dieithr-ddyn, neu yr hwn [sydd] yn eich plith, drwy eich cenhedlaethau, a darparu aberth tanllyd o arogl esmwyth i’r Arglwydd, fel y gwnewch chwi, felly gwnaed yntef.
15O dyrfa, yr #Exod.12.49. Num.9.14.vn ddeddf [fydd] ichwi, ’ac i’r ymdaithydd dieithr: deddf dragywyddol [yw] drwy eich cenhedlaethau, [mai] megis chwi, felly y bydd y dieithr ger bron yn Arglwydd.
16Un gyfraith, ac vn ddefod fydd i chwi ac i’r ymdeithydd a ymdeithio gyd a chwi.
17A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses hefyd gan ddywedyd.
18Llefara wrth feibion Israel, a dywet wrthynt: pan ddeloch i’r tîr yr hwn yr ydwyf yn eich dwyn chwi iddo.
19Yna pan fwytaoch o fara y tîr, y derchefwch offrwm derchafel i’r Arglwydd.
20O flaenion eich toes yr offrymmwch deissen yn offrwm derchafel: fel offrwm derchafel y llawr dyrnu, felly y derchefwch hithe.
21O ddechreu eich toes y #Leuit.23.14rhoddwch i’r Arglwydd offrwm derchafel drwy eich cenhedlaethau.
22A phan #Leuit.4.2.eloch tros y ffordd, ac na wneloch yr holl orchymynion hyn, y rhai a lefarodd yr Arglwydd wrth Moses.
23Sef yr hyn oll a orchymynnodd yr Arglwydd i chwi trwy law Moses, o’r dydd y gorchymynnodd yr Arglwydd, ac o hynny allan trwy eich cenhedlaethau:
24Yna bydded, #Leuit.4.13.os allan o olwg y gynnulleidfa y gwnaed [dim] trwy anwybod, i’r holl gynnulleidfa ddarparu vn bustach ieuangc yn offrwm poeth, i [fod] yn arogl esmwyth i’r Arglwydd, ai fwyd offrwm, ai ddiod offrwm wrth y ddefod, ac vn bwch geifr yn bech aberth.
25A gwnaed yr offeiriad iawn tros holl gynnulleidfa meibiō Israel, a maddeuir iddynt: canys anwybodaeth yw: a dygant eu hoffrymmau yn aherth tanllyd i’r Arglwydd, ai pech aberth ger bron yn Arglwydd am eu anhwybodaeth.
26A maddeuir i holl gynnulleidfa meibion Israel ac i’r dieithr a ymdeithio yn eu mysc: canys 62 [digwyddodd] i’r holl bobl trwy anwybod.
27Ond #Leuit.4.27.os vn dyu a becha trwy amryfusedd, yna offrymmed afr flwydd dros bechod.
28A gwnaed yr offeiriad iawn ger bron yr Arglwydd tros y dyn amryfusol, pan becho trwy amryfusedd, gan wneuthur iawn trosto fel y maddeuir iddo.
29Yr hwn a aned o feibion Israel, a’r dieithr a ymdeithio yn eu mysc, vn gyfiaith fydd i chwi am wneuthur [pechod] trwy amryfusedd.
30Ond y dyn a wnel bechod mewn rhyfyg o briodor, neu o ddieithr, cablu’r Arglwydd y mae, torrir ymmaith y dyn hwnnw o fysc ei bobl.
31O herwydd mai gair yr Arglwydd a ddiystyrodd efe, ai orchymyn a dorrodd efe, llwyr dorrer ymmaith y dyn hwnnw, ei anwiredd [sydd] ynddo.
32Fel yr ydoedd meibion Israel yn y diffaethwch, cawsant ŵr yn cynnytta ar y dydd Sabboth.
33A’r rhai ai cawsant ef, ai dugasant ef [sef] y cynnyttwr at Moses, ac at Aaron, ac at yr holl gynnulleidfa.
34A gosodasant ef mewn #Leuit.24.12.dal-fa, am nad oedd hysbys beth a wneid iddo.
35A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, lladder y gŵr yn farw, llabyddied yr holl gynnulleidfa ef a meini, o’r tu allan i’r gwerssyll.
36A’r holl gynnulleidfa ai dugasant ef i’r tu allan ir gwerssyll, ac ai llabyddiasant ef a meini, fel y bu efe farw, megis y gorchymynnodd yr Arglwydd wrth Moses.
37A llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses gan ddywedyd:
38Llefara wrth feibion Israel, a dywet wrthynt, #Deut.22.12. Matth.23.5.am wneuthur iddynt eddi ar odre eu dillad, drwy eu cenhedlaethau, a rhoddant bleth o sidan glâs ar eddi y godro.
39A bydded pan edrychoch chwi ar yr eddi, yna gofio o honoch holl orchymynnion yr Arglwydd, ai gwneuthur hwynt: ac na chwiliwch yn ôl eich calonnau eich hunain, nac yn ôl eich llygaid eich hunain, y rhai yr ydych yn putteinio ar eu hôl.
40Fel y cofioch, ac y gwneloch fy holl orchymynnion maufi, ac y byddoch yn sanctaidd i’ch Duw.
41Myfi ydwyf yr Arglwydd eich Duw chwi, yr hwn a’ch dygais chwi allan o dîr yr Aipht i fod i chwi yn Dduw: myfi [ydwyf] yr Arglwydd eich Duw chwi.

Currently Selected:

Numeri 15: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in