Numeri 16
16
PEN. XVI.
Gwrthryfel Corah, Dathan, ac Abiram, ai cospedigaeth. 37 Beth a wnaed ai thusserau hwynt. 41 Tuchan y bobl ai cospedigaeth.
1Yna [meddwl] a gymmerodd #Num.27.3. Eccles. 45.18.|SIR 45:18. Iud.16.Corah mab Isaar, mab Cehath, mab Lefi, a Dathan ac Abiram meibion Eliab, ac On mab Peleth mab Ruben.
2A chodasant o flaen Moses, yng-hyd a dau cant, a dec a deugain o wŷr [eraill] o feibion Israel: pennaethiaid y gynnulleidfa, #Num.26.9.pendefigion y gymmanfa, gwŷr enwoc.
3Ac ymgasclasant yn erbyn Moses, ac Aaron, a dywedasant wrthynt: digon i chwi [hyn] canys yr holl gynnulleidfa [sydd] santtaidd bob vn o honynt, ac y [mae]’r Arglwydd yn eu mysc: pa ham yr ymgodwch goruwch cynnulleidfa yr Arglwydd?
4A phan glybu Moses, efe a syrthiodd ar ei wyneb.
5A llefarodd wrth Corah, ac wrth ei holl gynnulleidfâ ef, gan ddywedyd, y boreu y dengys yr Arglwydd yr hwn [sydd] eiddo ef, a’r sanctaidd, a [phwy] a ddylu nessau atto ef: canys yr hwn a ddewisodd efe a nessa efe atto.
6Hyn a wnewch, cymmerwch i chwi [sef] Torah ai holl gynnulleidfa thusserau.
7A rhoddwch ynddynt dân, a gosodwch arnynt arogl-darth y foru ger bron yr Arglwydd: yna bydd i’r gŵr hwnnw fod yn fanttardd yr hwn a ddewiso’r Arglwydd: digon i chwi [hyn]meibion Lefi.
8A dywedodd Moses wrth Corah, gwrandewch attolwg meibion Lefi.
9Ai bychan gennych nailltuo o Dduw Israel chwi oddi wrth gynnulleidfa Israel? gan eich nessau chwi atto ei hun, i wasanaethu gwasanaeth tabernacl yr Arglwydd, ac i sefyll ger bron y gynnulleidfa iw gwasanaethu hwynt.
10Canys efe a’th nessaodd di, a’th holl frodyr di meibion Lefi gyd a thi: ac a geisiwch chwi yr offeiriadaeth hefyd?
11Am hynny dydi, a’th holl gynnulleidfa ydych yn ymgynnull yn erbyn yr Arglwydd: ond Aarō beth[yw]efe i chwi i duchan yn ei erdyn?
12A Moses a anfonodd i alw am Dathan, ac Abitam meibion Eliab: hwythau a ddywedasant ni ddeuwn ni i fynu.
13Ai bychan[ym] dwyn o honot ti ni i fynu o dîr yn llifeirio o laeth, a mel, i’n lladd ni yn y diffaethwch: oddieithr hefyd arglwyddiaethu o honot yn dost arnom ni?
14Etto ni ddygaist ni i dir yn llifeirio o laeth a mel, ac ni roddaist i nifeddiant [mewn] maes, na gwin-llan: a dynni di lygaid y gwyr hyn? ni ddeuwn ni i fynu ddim.
15Yna y digiodd Moses yn ddirfawr, ac y dywedodd wrth yr Arglwydd, #Gene.4.4-5.nac edrych ar eu bwyd offrwm hwynt: ni chymmerais vn assyn ganddynt, ac ni ddrygais vn o honynt.
16A dywedodd Moses wrth Corah, bydd di a’th holl gynnulleidfa ger bron’r Arglwydd: ti a hwynt, ac Aaron[hefyd]y foru.
17A chymmerwch hefyd bob vn ei thusser, a rhoddwch arnynt arogl-darth, a dyged pob vn ei thusser ger bron yr Arglwydd, [sef] dau cant, a dec a deugain o thusserau: [dwg] dithe hefyd, ac Aaron bob vn ei thusser.
18A chymmerasant bob vn ei thusser, a rhoddasant dân ynddynt, a gosodasant arogl-darth arnynt, a safasant [wrth] ddrws pabell y cyfarfod yng-hyd a Moses ac Aaron.
19Yna Corah a gasclodd yr holl gynnulleidfa yn eu herbyn hwynt i ddrws pabell y cyfarfod: a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd i’r holl gynnulleidfa.
20Yna y llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, ac wrth Aaron gan ddywedyd:
21Ymnailltuwch o fysc y gynnulleidfa hon, a mi ai difaf hwynt ar vnwaith.
22Yna y syrthiasant ar eu hwynebau, ac a ddywedasant, o Dduw, Duw yr ysprydion, [Duw] pob cnawd, vn dyn a bechodd, ac a ddigi di wrth yr holl gynnulleidfa?
23Yna y llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd:
24Llefara wrth y gynnulleidfa, gan ddywedyd, ewch o amgylch pabell Corah, Dathan, ac Abiram.
25Yna y cyfododd Moses ac a aeth tu ac at Dathan, ac Ahiram: a henuriaid Israel a aethant ar ei ôl ef.
26Ac efe a lefarodd wrth y gynnulleidfa gan ddywedyd, ciliwch attolwg oddi wrth bebyll y dyniō drygionus hyn, ac na chyffyrddwch a dim a’r [sydd] eiddynt, rhag eich difetha yn eu holl bechodau hwynt.
27Yna yr aethant oddi wrth babell Corah, Dathan, ac Abiram o amgylch: a Dathan ac Abiram, eu gwragedd hefyd, ai meibiō, ai plant, a ddaethant allan gan sefyll [wrth] ddrws eu pebyll.
28A dywedodd Moses, wrth hyn y cewch wybod mai yr Arglwydd a’m hanfonodd i wneuthur yr holl weithredoedd hyn, [ac] nad o’m meddwl fy hun [y gwneuthum] ddim.
29Os bydd y rhai hyn feirw fel bydd marw pob dyn, ac [os] ymwelir a hwynt ag ymwelediad pôb dŷn nid yr Arglwydd a’m hanfonodd i.
30Ond os yr Arglwydd a wna ryfeddod fel yr agoro y ddaiar ei safn ai llyngcu hwynt, a’r hyn oll [sydd] eiddynt fel y descynnant yn fyw i vffern, yna y cewch wybod ddirmygu o’r gwŷr hyn yr Arglwydd.
31A bu wrth orphen o honaw lefaru yr holl eiriau hyn, hollti o’r ddaiar yr hon [oedd] tanynt.
32Agorodd y ddaiar hefyd ei safn, a llyngcodd hwynt, #Deut.11.6. Psal.106.17.ai tai hefyd, a’r holl ddynion y rhai [oeddynt] gan Corah, a’r holl gyfoeth.
33Felly hwynt a’r rhai oll a’r o [oeddynt] gyd a hwynt a ddescynnasant yn fyw i vffern: a’r ddaiar a gaeodd arnynt: a chollasant o blith y gynnulleidfa.
34Yna holl Israel y rhai [oeddynt] oi hamgylch hwynt, a ffoasant wrth eu llef hwynt: canys dywedasant, [ciliwn] rhag i’r ddaiar ein llyngcu ninnau.
35Tân hefyd aeth allan oddi wrth yr Arglwydd, ac a ddifaodd y dau cant, a’r dec a deugain o wŷr, y rhai oeddynt yn offrymmu yr arogl-darth.
36A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
37Dywet wrth Eleazar fab Aaron yr offeiriad, am godi o honaw ef y thusserau o fysc y llosc, a gwascaru y tân oddi yno allan, canys sanctaidd ydynt.
38Sef thusserau y rhai hyn a bechasant yn erbyn eu heneidiau eu hun: a gweithier hwynt yn ddalennau llyden [i fod] yn gaead i’r allor: canys offrymmasant hwy ger bron yr Arglwydd, am hynny sanctaidd ydynt, a byddant yn arwydd i feibion Israel.
39A chymmerodd Eleazar yr offeiriad thusserau prês y rhai a offrymmase y [gwŷr] a loscasid, ac estynwyd hwynt yn gaead i’r allor.
40Ac yn goffadwriaeth i feibion Israel, fel na nessae gwr dieithr (yr hwn ni bydde o hâd Aaron) i losci arogl-darth ger bron yr Arglwydd, ac na bydde fel Corah ai gynnulleidfa, megis y llefarase yr Arglwydd trwy law Moses wrtho ef.
41A holl gynnulleidfa meibion Israel a duchanasant drannoeth yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron gan ddywedyd: chwi a lladdasoch bobl yr Arglwydd.
42A bu pan gynhullodd y bobl yn erbyn Moses ac Aaron, edrych o honynt ar babell y cyfarfod, ac wele toase y niwl hi, ac ymddangosodd gogoniant yr Arglwydd.
43Yna y daeth Moses ac Aaron o flaen pabell y cyfarfod.
44A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
45Ciliwch o blith y gynnulleidfa hon, a mi ai difâf hwynt yn ddisymmwth: yna y syrthiasant ar eu hwynebau.
46Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron cymmer thusser a dod dân oddi ar yr allor ynddi, a gosot arogl-darth [arni,] a dos yn fuan at y gynnulleidfa, a gwna iawn trostynt: canys digofaint aeth allan oddi ger bron r’ Arglwydd, dechreuodd y blâ.
47A chymmerodd Aaron megis y llefarodd Moses, ac a redodd i ganol y gynnulleidfa, ac wele dechreuase y blâ ar y bobl, ac efe a rodd arogl-darth, ac a wnaeth iawn tros y bobl.
48Ac efe a safodd rhwng y meirw ar byw, felly yr attaliwyd y blâ.
49A’r rhai a fuant feirw o’r blâ oeddynt bedair mil ar ddec, a saith gant, heb law y rhai a fuant feirw yn achos Corah.
50A dychwelodd Aaron at Moses i ddrws pabell y cyfarfod: a’r blâ a attaliwyd.
Currently Selected:
Numeri 16: BWMG1588
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Y Beibl Cyssegr-lan. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1588, a’i ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2023.