YouVersion Logo
Search Icon

Numeri 14

14
PEN. XIIII.
Y bobl yn tuchan yn erbyn Duw. 6 Caleb ac Iosuah yn eu diddanu hwynt. 12 A’r bobl yn amcanu eu llabyddio hwythau. 37 Yr spiwyr eraill yn meirw. 40 Rhai o’r bobl yn myned allan o’r llu heb gyngor yr Arglwydd a laddwyd gan Amalec.
1Yna yr holl gynnulleidfa a dderchafodd ac a roddodd ei llef, a’r bobl a ŵylasant ar hyd y nôs honno.
2A holl feibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron, a’r holl gynnulleidfa, a ddywedasant wrthynt, ô na buasem feirw yn nhir yr Aipht, neu ô na buasem feirw yn y diffaethwch hwn.
3A pha ham y mae’r Arglwidd yn ein dwyn ni i’r tir hwn i gwympo ar y cleddyf? ein 61 gwraged a’n plant fyddant yn yspail: onid gwell i ni ddychwelyd i’r Aipht?
4A dywedasant bob vn wrth ei gilydd, gosodwn ben[arnom,] a dychwelwn i’r Aipht.
5Yna y syrthiodd Moses ac Aaron a’r eu hwynebau ger bron holl gynnulleidfa tyrfa meibion Israel.
6 # Eccle 46.9.|SIR 46:9. 1.Mac.2.56. Iosuah hefyd mab Nun a Chaleb mab Iephun [dau] o spiwyr y tîr a rwygasant eu dillad.
7Ac a ddywedasant wrth holl dorf meibion Israel, gan ddywedyd: y tîr yr hwn yr aethom trosto iw chwilio [sydd] dîr da odieth.
8Os yr Arglwydd fydd bodlon i ni, yna efe a’n dwg ni i’r tir hwn, ac ai rhydd i ni [sef] y tîr yr hwn sydd yn llifeirio o laeth a mêl.
9Yn vnic na wrthryfelwch yn erbyn yr Arglwydd, ac nac ofnwch bobl y tîr, canys ein bwyd ni ydynt: ciliodd eu hamddeffyn oddi wrthynt, a’r Arglwydd [sydd] gyd a ni, nac ofnwch hwynt.
10Yna yr holl dorf a amcanasant eu llabyddio hwynt a meini, a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd ym mhabell y cyfarfod i holl feibion Israel.
11A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, pa hŷd y dirmyga y bobl ymma fyfi? a pha hŷd ni chredant i mi? am yr holl arwyddion, y rhai a wneuthum yn eu plith.
12Tarawaf hwynt a haint, a gorescynnaf hwynt, a gwnaf di yn genhedlaeth fwy, a chryfach na hwynt.
13Yna y dywedodd Moses wrth yr Arglwydd, #Exod.32.12.felly yr Aiphtiaid a glywent (canys oi mysc hwynt y dygaist y bobl ymma i fynu yn dy nerth. )
14A [rhai] a ddywedant i bresswylwyr y tîr hwn: (canys clywsant mai tydi Arglwydd sydd ym mysc y bobl ymma, ac mai ti Arglwyd syd yn ymddangos [iddynt] wyneb yn wyneb, a bod dy niwl di yn aros arnynt, #Exod.13.21.a’th fod ti yn myned oi blaen hwynt mewn colofn niwl y dydd, ac mewn colofn dân y nôs. )
15Pan leddech y bobl ymma fel vn gŵr, yna y dywed y cenhedloedd y rhai a glywsant sôn am danat gan ddywedyd:
16O eissie #Deut.9.28.gallu o’r Arglwydd ddwyn y bobl ymma i’r tîr yr hwn trwy lŵ a addawse efe iddynt, am hynny y lladdodd efe hwynt yn y diffaethwch.
17Yr awr hon gan hynny mawrhaer attolwg nerth yr Arglwydd, fel y lleferaist gan ddywedyd.
18Yr Arglwydd [sydd] #Exod.34.6. psal.103.8.hwyrfrydic i ddig, ac aml o drugaredd, yn maddeu anwiredd a chamwedd, a chan gyfiawnhau ni chyfiawnha efe [yr anuwiol] #Deut.5.9. Exod.20.5. & 34.7. Iere.22.18.ymweled y mae ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd ar bedwaredd [genhedlaeth. ]
19Madde attolwg anwiredd y bobl ymma, yn ôl dy fawr drugaredd megis y maddeuaist i’r bobl hynn o’r Aipht hyd ymma.
20Yna y dywedodd yr Arglwydd, maddeuais yn ôl dy air.
21Er hynny byw wyfi, a’r holl dîr a lenwir o ogoniant yr Arglwydd.
22Canys yr holl ddynion y rhai a welsant fyng-ogoniant am harwyddion y rhai a wneuthum yn yr Aipht, ac yn y diffaethwch, ac a’m temptiasant fi y ddeng-waith hyn, ac ni wrandawsant ar fy llais.
23Ni welant y tîr yr hwn trwy lw a addewais iw tadau hwynt, sef y rhai oll am dirmygasant nis gwelant ef.
24Ond fyng was #Iosua 14.8.Caleb am fod yspryt arall gyd ag ef, ac iddo fyng-hyflawn ddilyn, dygaf ef i’r tîr yr hwn y daeth iddo, ai hâd ai hetifedda ef.
25Ond y mae yr Amaleciaid a’r Cananeaid yn trigo yn y dyffryn: y foru dychwelwch ac ewch i’r diffaethwch [ar hyd] ffordd y môr coch.
26Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, ac wrth Aaron gan ddywedyd.
27 # Psal.106.26. Pa hŷd [y gwrandawaf] ar y gynnulleidfa ddrygionus hon, yr hon sydd yn tuchan i’m herbyn? [sef] y gwrandawaf duchan meibion Israel y rhai ydynt yn tuchan i’m herbyn?
28Dywet wrthynt #Num.32.10.[nid] byw fi medd yr Arglwydd onid fel y llefarasoch yn fyng-hlustiau felly y gwnaf i chwi.
29* Yn y diffaethwch hwn y cwymp eich celaneddau, a’ch holl rifedigion drwy eich holl rif, y rhai a duchanasoch yn fy erbyn.
30Ni ddeuwch chwi i’r tîr yr hwn y codais fy llaw, am wneuthur i chwi bresswylio ynddo, ond Caleb mab Iephun, ac Iosuah mab Nun.
31Ond #Deut.1.39.eich plant chwi y rhai y dywedasoch y byddent yn yspail, hwynt a ddygaf [i’r wlâd,] a chânt adnabod y tîr yr hwn a ddirmegasoch.
32A’ch celaneddau chwi a gwympant yn y diffaethwch hwn.
33A’ch meibion chwi fyddant fugeiliaid yn y diffaethwch ddeugain mhlynedd, ac a ddygant [gosp] eich putteindra chwi nes darfod eich celaneddau chwi yn y diffaethwch.
34Yn ôl rhifedi y dyddiau y chwiliasoch y tîr, [sef] deugain niwrnod, pob diwrnod am flwyddyn y dygwch eich anwireddau, [sef] deugain mlhynedd: a chewch adnabod fyn-nhor gair maufi.
35Myfi yr Arglwydd a lefarais, diau y gwnaf hyn i’r holl gynulleidfa ddrygionus ymma, y rhai ydynt wedi ymgynnull i’m herbyn i: yn y ddiffaethwch hwn y darfyddant ac yno y byddant feirw.
36A’r dynion y rhai a anfonodd Moses i chwilio y tîr, ac a wnaethant i’r holl dorf duchan yn ei erbyn ef, pan ddychwelasant gan rodd allan anair am y tir.
37Y dynion [meddaf] y rhai a roddasant allan anair drwg i’r tîr a #Heb 3.10.|HEB 3:10. 1 Cor 10.10.fyddant feirw o’r plâ ger bron yr Arglwydd.
38Ond Iosuah mab Nun, a Chaleb mab Iephun a fyddant fyw o’r gwyr hyn, y rhai a aethant i chwilio y tîr.
39A Moses a lefarodd yr holl eiriau hyn wrth holl feibion Israel: a’r bobl fuant drist odieth.
40A #Deut.1.41.chodasant yn foreu i fyned i ben y mynydd gan ddywedyd, wele ni, ac ni awn i fynu i’r lle [am] yr hwn y dywedodd yr Arglwydd: canys ni a bechasom.
41A dywedodd Moses, pa ham yr ydych fel hyn yn trosseddu gair yr Arglwydd? a hyn ni lwydda.
42Nac ewch i fynu: canys nid [yw] yr Arglwydd yn eich plith: rhac eich taro o flaen eich gelynion.
43Canys yr Amaleciaid a’r Canaaneaid [ydynt] yno o’ch blaen chwi, a chwi a syrthiwch ar y cleddyf: canys am i chwi ddychwelyd oddi ar ôl yr Arglwydd, ni bydd yr Arglwydd gyd a chwi.
44Etto ymegniasant i fyned i ben y mynydd: ond Arch cyfammod yr Arglwydd a Moses ni symudasant o ganol y gwerssyll.
45Yna y descynnodd yr Amaleciaid ar Canaaneaid y rhai oeddynt yn presswylio yn y mynydd hwnnw, ac ai tarawsant, #Deut.1.44.ac ai coethasant hyd Horma.

Currently Selected:

Numeri 14: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in