YouVersion Logo
Search Icon

Marc 9

9
PEN. IX.
Crist yn ymrithio. 25 Yn bwrw allan y cythrael mud yr hwn ni ellid ei fwrw allan heb ympryd a gweddi. 31 Yn rhybuddio am ei ddioddefaint. 35 yn dyscu iw ddiscyblion ostyngeiddrwydd. 38 Yn erchi iddynt na luddient i neb orchfygu y cythrael yn ei enw ef. 42 Ac yn gwahardd tramgwyddiadau.
1 # Math.16.28|MAT 16:28. Luc.9.27. Ac efe a ddywedodd wrthynt: yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi fod rhai o’r rhai sydd yma yn sefyll ni phrofant angeu, hyd pan welant deyrnas Dduw wedi dyfod mewn nerth.
2A #Math.17.1|MAT 17:1. Luc.9.28. chwe diwrnod wedi [hynny] y cymmerth yr Iesu Betr, ac Iaco, ac Ioan, ac a’u dug hwynt i fynydd vchel o’r nailltu, ac efe a amrithiodd yn eu gŵydd hwynt.
3A’i ddillad ef a ddisclaeriasant yn dra channaid fel yr eira: y fath ni feidr vn pannwr ar y ddaiar eu cannu.
4Ac ymddangosodd iddynt Elias gyd â Moses, ac yr oeddynt yn ymddiddan â’r Iesu.
5Yna’r attebodd Petr, ac a ddywedodd wrth yr Iesu, Rabbi, da yw i ni fod ymma: gwnawn ninnau dair Pabell, vn i ti, ac vn i Moses, ac vn i Elias.
6Eithr ni wyddied efe beth yr oedd yn ei ddywedyd: canys yr oeddynt wedi dychrynu.
7Ac fe a ddaeth cwmwl yn eu cyscodi hwynt: a llef a ddaeth allan o’r cwmwl gan ddywedyd: #Math.3.17|MAT 3:17 & 17.5|MAT 17:5. Luc.9.27.Hwn yw fy annwyl Fab gwrandewch ef.
8Ac yn ddisymmwth pan edrychasant o amgylch, ni welsant neb mwy: ond yr Iesu yn vnig gyd â hwynt.
9Pan #Math.17.9.oeddent yn dyfod i wared o’r mynydd, efe a orchymynnodd iddynt na ddangosent i neb y pethau a welsent, hyd pan adgyfode Mab y dŷn o feirw.
10A hwynt a gadwasant yr ymadrodd hwnnw iddynt eu hunain, gan ymofyn yn eu mysc, beth oedd, adgyfodi o feirw.
11A gofyn a wnaethant iddo, gan ddywedyd: Pa ham y dywed yr scrifēnyddion, fod #Mal.4.5.yn rhaid i Elias ddyfod yn gyntaf?
12Ac yntef gan atteb a ddywedodd wrthynt, Elias yn ddiau gan ddyfod yn gyntaf a êdfryd bôb peth yn eu lle: ac fel y mae yn scrifennedic am Fâb y dyn, [rhaid] iddo #Esay.53.4.oddef llawer a’i ddirmygu.
13Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi ddyfod Elias, a gwneuthur o honynt iddo’r hyn a fynnasant, fel yr scrifēnwyd am dano.
14A #Math.17.14. Luc 9.37.phan ddaeth efe at ei ddiscyblon, efe a welodd dyrfa fawr o’i ogylch a’r scrifennyddion yn ymddadleu â hwynt.
15Ac yn ebrwydd yr holl dyrfa wedi ei ganfod ef, a ddychrynasant, a chan redeg atto a gyfarchasant iddo.
16Ac efe a ofynnodd i’r scrifennyddion, pa ymddadleu yr ydych yn eich plith eich hunain?
17Ac vn o’r dyrfa gan atteb a ddywedodd, yr Athro, mi a ddugym fy mab attat, ac yspryd mud ynddo.
18Yr hwn pa le bynnag y cymmero, a’i rhwyga, ac yntef a fwrw ewyn, ac a escyrnyga ddannedd, ac y mae yn dihoeni, ac mi a ddywedais wrth dy ddiscyblion am ei fwrw ef allan, ond nid allent.
19Yna yr attebodd efe iddo, ac a ddywedodd, ô genhedlaeth anffyddlon, pa hyd y byddaf gyd â chwi? pa hyd y goddefaf chwi? dygwch ef attaf i.
20Yna y dugasant ef atto: a phan welodd ef, yn y man yr yspryd a’i ddrylliodd ef, a chan syrthio ar y ddaiar, efe a ymdreiglodd tann falu ewyn.
21A gofynnodd yr Iesu iw dad ef, beth sydd o amser er pan ddarfu fel hyn iddo? yntef a ddywedodd, er yn fachgen.
22A mynych y taflodd efe ef yn tân, ac yn y dwfr iw ddifetha ef: ond os gelli di ddim, cymmorth ni gan dosturio wrthym.
23A’r Iesu a ddywedodd wrtho, os gelli di gredu: pob peth a all bod i’r neb a gredo.
24Ac yn y fan, tad y bachgen gan lefain, ac ŵylofain a ddywedodd, yr wyf i yn credu ô Arglwydd, cymmorth fy anghreduniaeth i.
25Pan welodd yr Iesu y dyrfa hefyd yn rhedeg yng-hyd, efe a geryddodd yr yspryd aflan gan ddywedyd wrtho, Ty di yspryd mud a byddar, yr wyfi yn gorchymyn i ti, tyred allan o honaw, ac na ddos mwy iddo ef.
26Ac wedi [i’r yspryd] lefain a’i ddryllio ef, efe a aeth allan, ac yr oedd efe fel vn marw, fel y dywedodd llawer ei farw ef.
27A’r Iesu gan ei gymmeryd ef erbyn ei law, a’i cyfododd, ac efe a safodd i fynu.
28Ac wedi iddo fyned i mewn i’r tŷ, ei ddiscyblion ef a ofynnasant iddo yn gyfrinachol, Pa ham na allem ni ei fwrw ef allan?
29Yntef a ddywedodd wrthynt, y rhyw hwn ni all er dim ddyfod allan: ond trwy weddi, ac ympryd.
30A hwynt #Math 17.22.|MAT 17:22. Luc.9.22.a aethant oddi yno, ac a gydymdaithiasant trwy Galilæa, ac ni fynne efe i nêb ŵybod.
31Canys yr oedd efe yn dyscu ei ddiscyblion, ac yn dywedyd wrthynt, y rhoddid Mab y dŷn i ddwylo dynion, a hwynt ai lladdent ef, ond wedi ei ladd yr adgyfode y trydydd dydd.
32Eithrd ni ŵyddent hwy yr ymadrodd hwnnw, ac ni feiddient ymofyn ag ef.
33Ac #Math.18.1. Luc.9.46.efe a ddaeth i Capernaum, ac wedi ei ddyfod i’r tŷ, efe a ofynnodd iddynt: am ba beth yr oeddech yn ymddadle yn eich plith, ar hŷd y ffordd?
34Ac hwynt hwy a dawsant a sôn: canys ar hŷd y ffordd yr ymddadleuasent âi gilydd, pwy o honynt [fydde] fwyaf.
35A phan eisteddodd, efe a alwodd y deuddec, ac a ddywedodd wrthynt, os myn neb fod yn gyntaf, efe a fydd olaf a gwâs i bawb.
36Ac efe a gymmerth fachgēnyn, ac ai gosododd yn eu canol hwynt, ac wedi iddo ei gymmeryd ef ar ei fraich, efe a ddywedodd wrthynt,
37Pwy bynnag a dderbynio vn o’r cyfryw fechgin, yn fy enw i sydd yn fy nerbyn i: a phwy bynnag am derbyn i, nid myfi y mae yn ei dderbyn onid yr hwn a’m danfonodd i.
38Ac #Luc.9.49.Ioan a’i hattebodd ef gan ddywedyd: athro ni a welsom vn yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di yr hwn nid yw yn ein dilyn ni, ac ni a waharddasom iddo am nad oedd yn ein dilyn.
39A’r Iesu a ddywedodd, na waherddwch ef: canys nid oes neb a wna wyrthiau trwy fy enw i, ac a #1.Cor.12.3all yn y fan roi dryg-air i mi.
40Canys y neb nid yw i’n herbyn, o’n tu ni y mae.
41 # Math.10.42. Pwy bynnag a roddo i chwi iw yfed gwpaneid o ddwfr yn fy enw i am eich bod yn perthyn i Grist, yn wir meddaf i chwi, ni chyll efe ei obrwy.
42A phwy #Math.18.6. Luc 17.2.bynnag a rwystro’r vn o rhai bychein hyn y rhai ydynt yn credu ynofi: gwell oedd iddo osod maen melin o amgylch ei wddf, a’i daflu i’r môr.
43Am hynny #Math.5.29. & 18.8.os dy law a’th rwystra, tor hi ymmaith, gwell yw i ti fyned i mewn i’r bywyd yn vnllawiog, na myned i vffern â dwy law i’r tân anniffoddadwy,
44Lle #Esa.66.24.ni bydd marw eu pryf hwynt, ac ni ddiffydd y tân.
45Ac os dy droed a’th rwystra, tor ef ymmaith: gwell yw i ti fyned yn gloff i’r bywyd, nag â dau droed dy daflu i vffern, i’r tân anniffoddadwy,
46Lle ni bydd marw eu pryf hwynt, ac ni ddiffydd y tân.
47Ac os dy lygad a’th rwystra, bwrw ef ymmaith, gwell yw i ti fyned i mewn i deyrnas Dduw yn vnllygeidiog, nag â dau lygad gennit, dy daflu i dân vffern,
48Lle ni bydd marw eu pryf hwynt, ac ni ddiffydd y tân.
49Canys pawb a helldir â thân, a #Lefit.2.13.phob aberth a helldir â halen.
50 # Math.5.13. Luc 14.34 Da yw halen: ond os bydd yr halen yn ddiflas, â pha beth yr helltir ef? Bydded i chwi halen ynoch eich hunain, a byddwch heddychlawn â’i gilydd.

Currently Selected:

Marc 9: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in