YouVersion Logo
Search Icon

Marc 8

8
PEN. VIII.
Crist yn porthi pedair mîl â saith dorth o fara. 11 Yn atteb y Pharisæaid am geisio mwy o arwyddion gan erchi gochelyd eu surdoes hwynt, 22 Yn iachau golwg vn dall â’i boeryn, 27 Yn gofyn am bwy yr oeddid yn ei gymmeryd ef, 31 Yn prophwydo am ei ddioddefaint, gan annog eraill i ddioddef.
1 # 8.1-9 ☞ Yr Efengyl y vii. Sul wedi ’r Drindod. Yn #Math.15.32.y dyddiau hynny, pan oedd y dyrfa yn fawr iawn ac heb ganddynt ddim iw fwytta, y galwodd yr Iesu ei ddiscyblion, ac a ddywedodd wrthynt.
2Yr wyfi yn tosturio wrth y dyrfa, am iddynt aros gyd â mi er ys tridiau weithian, ac nid oes ganddynt ddim iw fwyta.
3Ac os anfonaf hwynt ymmaith iw teieu eb fwyd, hwynt hwy a lewygant ar y ffordd, canys llawer o honynt a ddaethant o bell.
4A’i ddiscyblion ef a’i hattebasant, o ba le y gall neb ddigôni y rhai hyn â bwyd ymma yn yr anialwch?
5Ac efe a ofynnodd iddynt, pa sawl torth sydd gennwch? a hwynt hwy a ddywedasant, saith.
6Yntef a orchymynnodd i’r dyrfa eistedd ar y llawr: ac chan gymmeryd y saith dorth, wedi rhoi diolch efe a’u torrodd [hwynt,] ac a’u rhoddes iw ddiscyblion iw gosod ger eu bronnau, a hwynt a’u gosodasant ger bron y bobl.
7Ac yr oedd ganddynt ychydig byscod bychein: ac wedi iddo fendigo efe a barodd ddodi y rhai hynny hefyd ger eu bronnau [hwynt.]
8A hwy a fwyttasant, ac a gawsant ddigon, a hwy a godasant o’r briwfwyd gweddill saith bascedaid.
9A’r rhai a fwyttasant oeddynt yng-hylch pedair mil, ac efe a’u gollyngodd hwynt ymmaith.
10Ac #Math.15.39.yn y man wedi iddo fyned i long gyd â’i ddiscyblion, efe a ddaeth i barthau Dalmanutha.
11A’r #Math.16.1. Pharisæaid a ddaethant ac a ddechreuasant ymholi ag ef, gan ofyn ganddo arwydd o’r nef gan ei demtio.
12Yntef gan ddwys ocheneidio yn ei yspryd a ddywedodd, Pa ham y mae y genhedlaeth honn yn ceisio arwydd? yn wir meddaf i chwi, na roddir arwydd i’r genhedlaeth honn.
13Ac efe a’u gadawodd hwynt, ac a aeth i’r llong trachefn, ac a dynnodd ymmaith i’r lann arall.
14A’r [discyblion] #Math.16.5. a adawsant yn angof ddwyn bara gyd â hwynt, ac nid oedd ganddynt onid vn dorth yn y llong.
15Yna y gorchymynnodd efe iddynt, gan ddywedyd, Gwiliwch ac ymogelwch rhag surdoes y Pharisæaid a surdoes Herod.
16Ac ymresymmu a wnaethant y naill wrth y llall, gan ddywedyd, nid oes gennym mor fara. [Hyn sydd]
17A’r Iesu gan ŵybod hynny a ddywedodd wrthynt: pa ymresymmu ’r ydych am nad oes gennwch fara? ond ydych chwi etto yn ystyried, nac yn deall? a ydyw eich calonneu chwi etto etto wedi caledu?
18Gan fod gennwch lygaid oni welwch chwi? a chan fod gennwch chwi glustiau oni chlywch chwi? ac onid ydych yn cofio?
19Pan #Ioan.6.11. dorrais y pump torth hynny ym mysc pum mil, pa sawl bascedaid o’r briwfwyd a godasoch i fynu? a hwynt a ddywedasant, deuddec.
20A phan [dorrais] y saith ym mhlith pedair mil, pa sawl bascedaid o’r briwfwyd a godasoch i fynu? a hwynt a ddywedasant, saith.
21Ac efe ddywedodd wrthynt, pa fodd nad ydych yn deall?
22Ac efe a ddaeth i Bethsaida, a hwy a ddugasant atto vn dall, ac a ddeisyfiasant arno ar iddo gyffwrdd ag ef.
23Yna y cymmerth efe y dall erbyn ei law ac a’i tywysodd ef allan o’r dref: ac wedi iddo boeri yn ei lygaid ef, a rhoi ei law arno, efe a ofynnodd iddo, a oedd efe yn gweled dim.
24Ac efe a gododd ei olwg ac a ddywedodd: yrwyfi yn gweled dynion yn rhodio fel coed.
25Wedi hynny y gosodes efe ei ddwylo drachefn ar ei lygaid ef, ac a barodd iddo edrych eilwaith: ac yna y cafas ei olwg, ac efe a wele bawb o bell ac yn eglur.
26Ac efe a’i anfonodd ef adref iw dŷ, gan ddywedyd, na ddos i’r dref ac na ddywed i neb yn y dref.
27A’r #Math.16.13. Luc 9.18Iesu gyd â’i ddiscyblion a aethant i mewn i drefydd Cæsarea Philippi: ac ar y ffordd efe a holodd ei ddiscyblion gan ddywedyd: Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i?
28A hwynt a attebasant: Ioan Fedyddiwr, a rhai Elias, ac eraill vn o’r prophwydi.
29Ac efe a ddywedodd wrthynt, a phwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod i? Petr a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Ti yw’r Crist.
30Ac efe a waharddodd iddynt, ddywedyd i neb hynny am dano ef.
31Ac efe a ddechreuodd eu dyscu hwynt, fod yn rhaid i Fab y dŷn oddef llawer, ai wrthod gan yr henuriaid yr arch-offeiriaid a’r scrifennyddion, ai ladd, a thri-diau wedi [hynny] adgyfodi.
32A’r ymadrodd hwnnw a ddywedodd efe yn oleu. Yna Petr a’i cymmerth ef, ac a ddechreuodd ei geryddu ef.
33Eithr wedi iddo droi ac edrych ar ei ddiscyblion, a geryddodd Petr gan ddywedyd, dos ymmaith yn fy ôl Satan am nad ydwyt yn synnied y pethau sy o Dduw, ond y pethau sy o ddynion.
34Ac wedi iddo ef alw’r dyrfa gyd â’i ddiscyblion, efe a ddywedodd wrthynt: y #Math.10.38. & 16.24|MAT 16:24. Luc 9.23|LUK 9:23 & 14.27neb a fynno fy nilyn i, ymwrthoded ag ef ei hun, a chymered ei groes a dilyned fi.
35Canys pwy bynnag a fynno gadw ei enioes a’i cyll hi: #Math.10.39. & 16.25|MAT 16:25. Luc 9.24|LUK 9:24 & 17.33 a phwy bynnag a gyll ei enioes er fy mwyn i a’r Efengyl, efe ai ceidw hi.
36Canys pa lesaad i ddŷn ennill yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun?
37Neu pa gyfnewid a rydd dŷn am ei enaid?
38Canys #Math.10.33. Luc.9.26pwy bynnag a fyddo cywilydd ganddo fi a’m geiriau, yn yr odinebus a’r bechadurus genhedlaeth hon: bydd cywilydd gan Fab y dŷn yntef hefyd, pan ddel yng-ogoniant ei Dad gyd a’r angelion sanctaidd.

Currently Selected:

Marc 8: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in