YouVersion Logo
Search Icon

Marc 10

10
PEN. X.
Crist yn atteb y Pharisæaid am yscar 13 Yn derbyn plāt, yn atteb y golludog am etifeddu teyrnas nef, 28 Ai ddiscyblion hefyd. 33 i ba rai y mae yn prophwydo am ei ddioddefaint. 35 Yn atteb meibion Zebedeus. 46 Ac yn rhoi ei olwg i Bartimæus.
1Ac efe #Math.19.1.a gyfododd oddi yno, ac a aeth i dueddau Iudæa trwy’r tu hwnt i’r Iorddonen, a’r dyrfa a dýnnodd trachefn ato: ac yntef fel yr arfere efe a’u dyscodd hwynt trachefn.
2Yna y daeth y Pharisæaid, ac a ofynnasant iddo: a oedd rydd i ŵr roi ymmaith ei wraig, gan ei demtio ef.
3Yntef a attebodd gan ddywedyd wrthynt, beth a orchymynnodd, Moses i chwi?
4A hwynt hwy a ddywedasant, #Deut.24.2. Moses a ganiataodd roi llythr yscar, a’i gollwng hi ymmaith.
5Yna’r attebodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrthynt: o achos caledrwydd eich calōnau yr scrifennodd efe i chwi y gorchymyn hwnnw:
6O ddechreuad creadigaeth, #Gen.1.27|GEN 1:27. Math.19.4.yn wryw a benyw y gwnaeth Duw hwynt.
7Am hynny #Gen.2.24.|GEN 2:24. 2.Cor.6.16.|2CO 6:16. Ephe.5.31. y gâd dŷn ei dad a’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig.
8A hwynt ill dau a fyddant vn cnawd, ac felly nid ynt mwy ddau, ond vn cnawd.
9Am hynny y peth a gydiodd Duw, #1.Cor.7.10. na wahaned dŷn.
10Ac yn y ty drachefn, ei ddiscyblion a ofynnasant iddo am yr vn peth.
11Ac efe a ddywedodd wrthynt: #Math 5.31|MAT 5:31 & 19.9|MAT 19:9; Mar.10.11|MRK 10:11. Luc 16.18pwy bynnag a ddyru ymmaith ei wraig, ac a brioda vn arall, y mae yn torri priôdas â hi.
12Ac os gwraig a ddyru ymmaith ei gŵr, a phriodi vn arall, y mae hi yn torri priodas.
13Ac #Math.19.15; Luc.18.13.hwy a ddugasant blant atto, fel y cyffyrdde efe â hwynt: a’r discyblion a geryddent y rhai a’u dugase hwynt.
14A’r Iesu pan welodd hynny fu anfodlon, ac a ddywedodd wrthynt: gedwch i blāt ddyfod attafi, ac na waherddwch hwynt: canys i’r cyfryw y perthyn teyrnas nefoedd.
15Yn wir meddaf i chwi: pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel plentyn nid aiff i mewn iddi.
16Ac efe a’u cyfleidiodd hwynt, ac a roddes [ei] ddwylo arnynt, ac a’u bendithiodd.
17Ac wedi iddo fyned i’r ffordd, y #Math.19.16. Luc.18.18.rhedodd vn ac a ostyngodd iddo, ac a ofynnodd iddo: ô Athro da, beth a wnaf i gael meddiannu bywyd tragywyddol?
18Yr Iesu a ddywedodd wrtho, pa ham y gelwi fi yn dda, nid oes neb da ond vn sef Duw.
19Ti a ŵyddost y gorchymynnion, #Exod.20.13na odineba, na lâdd. Na letrata. Na cham destiolaetha Na wna niwed: Anrhydedda dy dad a’th fam.
20Yntef a attebodd, ac a ddywedodd wrtho: Athro, hyn oll a gedwais o’m hieuengtid.
21Yr Iesu gan edrych arno a’i hoffodd, ac a ddywedodd wrtho, vn peth sydd ddiffygiol i ti: dos a gwerth yr eiddot oll, a dod i’r tlodion, a thi a gei dryssor yn y nef, a thyret i’m dilyn i, a dwg dy groes.
22Eithr efe a dristaodd wrth yr ymadrodd hwn, ac a aeth ymmaith yn athrist: canys yr oedd ganddo gyfoeth mawr.
23A’r Iesu wedi edrych o’i amgylch, a ddywedodd wrth ei ddiscybliō: mor anhawdd yr aiff y rhai y mae golud ganddynt i deyrnas Dduw?
24A’r discyblion a ofnasant wrth ei eiriau ef: a’r Iesu a attebodd drachefn, ac a ddywedodd wrthynt: fy mhlant: mor anhawdd yw i’r rhai sy a’u hymddiried yn eu golud, fyned i deyrnas Dduw?
25Y mae yn haws i gamel fyned trwy grau nodwydd, nag i oludog fyned i deyrnas Dduw.
26A hwynteu a aruthrant fwy-fwy, gan ddywedyd wrthynt eu hunain: Pwy gan hynny a all fod yn gadwedig?
27A’r Iesu a edrychodd arnynt, a ddywedodd, gyd â dynion amhossibl yw: ac nid gyd â Duw: canys pob peth sydd bossibl gyd â Duw.
28Yna y dechreuodd Petr ddywedyd wrtho, #Math.19.27. Luc.18.28.wele ny ni a adawsom bôb peth, ac a’th ddilynasom di.
29Yr Iesu a attebodd, ac a ddywedodd, yn wir meddaf i chwi, nid oes neb a’r adawodd dŷ, neu frodyr, neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, o’m hachos i a’r Efengyl,
30A’r ni dderbyn y canfed: yr awran yn y pryd hwn, dai, a brodyr, a chwiorydd, a māmau, a phlant, a thiroedd, gyd ag erlid, ac yn y byd a ddaw fywyd tragywyddol.
31 # Math.19.30. Luc.13.30. Llawer rhai cyntaf a fyddant ddiweddaf a’r diweddaf [fyddant] cyntaf.
32Ac yr oeddynt ar y ffordd yn myned i fynu i Ierusalem, ac yr oedd yr Iesu yn myned oi blaen hwynt, a dychrynu a wnaethant, ac ofni yn canlyn. Ac wedi iddo trachefn gymmeryd y deuddec, #Math.20.17. Luc.18.31.efe a ddechreuodd fynegu iddynt y pethau a ddigwyddent iddo ef.
33Canys wele, yr ydym ni yn myned i fynu i Ierusalem, a Mâb y dŷn a draddodir i’r arch-offeiriaid a’r scrifennyddion, a hwynt a’i barnant ef i farwolaeth, ac a’i rhoddant ef i’r cenhedloedd,
34Y rhai a’i gwatwarant ef, ac a’i fflangellant, ac a boerant arno, ac a’i lladdant ef: a’r trydydd dydd yr adgyfyd.
35Yna y #Math.20.20.daeth atto Iaco, ac Ioan meibion Zebedæus, gan ddywedyd, Athro ni a fynnem wneuthur o honot i ni yr hyn a ddymunem ni.
36Yntef a ddywedodd wrthynt: beth a fynnech i mi ei wneuthur i chwi?
37Hwythau a ddywedasant wrtho: canhiadhâ i ni, eistedd, vn ar dy ddeheu-law, a’r llall ar dy asswy yn dy ogoniant.
38A’r Iesu a ddywedodd wrthynt: ni ŵyddoch pa beth yr ydych yn ei ofyn, a ellwch chwi yfed o’r cwppan yr wyfi yn ei yfed, a’ch bedyddio â’r bedydd i’m bedyddir i ag ef?
39A hwynt a ddywedasant wrtho, gallwn. a’r Iesu a ddywedodd wrthynt: diau yr yfwch o’r cwppan yr yfwyf: ac i’ch bedyddir o’r vn bedydd â’r hwn y bedyddir finef:
40Ond eistedd ar fy neheu-law, a’m hasswy, nid eiddofi yw rhoddi: eithr i’r rhai y darparwyd
41A phan glybu’r dêc y pethau hyn, ddechreuasant ddiystyru Iaco ac Ioan.
42A’r Iesu wedi eu galw hwynt a ddywedodd wrthynt, chwi a ŵyddoch #Luc.22.25.fod y rhai a dybir eu bod yn tra-llywodraethu ym mhlith y cenhedloedd, yn arglwyddiaethu arnynt: a’r sawl sy bennaethiaid yn eu mysc hwynt yn ymawdurdodi arnynt.
43Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi: ond pwy bynnag a ewyllysio fod yn fawr yn eich plith, bydded weinidog i chwi.
44A phwy bynnag o honoch a fynno fod yn bennaf, bydded wâs i bawb.
45Canys ni ddaeth Mab y dŷn iw wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roi ei enioes yn bridwerth tros lawer.
46Yna y daethant i Iericho, ac efe yn myned allan o Iericho, gyd â’i ddiscyblion, a thyrfa fawr, #Math.20.29. Luc.18.35Bartimæus mab Timæus, [vn] dall a oedd yn eistedd ar fîn y ffordd yn cardotta.
47A phan glybu, mai efe oedd yr Iesu o Nazareth, efe a ddechreuodd lefain a dywedyd, Iesu fab Dafydd trugarhâ wrthif.
48A llawer a’i ceryddasant ef, i geisio ganddo dewi: eithr efe a lefodd fwy-fwy, Mab Dafydd trugarhâ wrthif.
49yna yr Iesu a safodd, ac a archodd ei alw ef: ac hwynt a alwasant y dall gan ddywedyd wrtho, cymmer galon, cyfot, y mae efe yn dy alw di.
50Yntef a daflodd ei gochl ymmaith, ac a gododd, ac a ddaeth ar yr Iesu.
51A’r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Beth a fynnit i mi ei wneuthur i ti? a’r dall a ddywedodd wrtho, ô Arglwydd caffael fyng-olwg.
52A’r Iesu a ddywedodd wrtho, dos ymmaith, dy ffydd a’th iachaodd: ac yn y man y cafodd efe ei olwg, ac efe a ddilynodd yr Iesu ar hŷd y ffordd.

Currently Selected:

Marc 10: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in