YouVersion Logo
Search Icon

2.Machabæaid 7

7
PEN. VII.
Cospedigaeth y saith mrodyr ai mam.
1Digwyddodd hefyd ddal saith mrodyr ai mam, gan orchymyn iddynt oddi wrth y brenin, fwytta cîg môch ang-hyfreithlon, a hwy a gurwyd â phlangellau, a gwiail.
2Ond vn o honynt yr hwn a ddadleuodd yn gyntaf a ddywedodd, pa beth yr wyti yn ei geisio’: a pha beth a fynni di ei ŵybod gennym ni’: canys yr ydym ni yn barod i farw yn gynt nag y torrwn ni gyfreithiau ein tadau.
3Yna y cythruddodd y brenin, ac y parodd dwymno pedill a pheiriau, y rhai yn y man a wnaethpwyd yn boeth.
4Ac efe a orchymynnodd dorri allan tafod yr hwn a ddadleuase yn gyntaf, ai flingo ef, a thorri ymmaith ei aelodau eithaf yng-olwg ei frodyr eraill ai fam.
5Weithian pan ni ellid dim o honaw ef, efe a barodd ei ddwyn ef i’r tân, ai ffrio yn fyw: a thra yr oedd y mwg drôs hir o amser yn mygu allan or pair, y brodyr eraill ai mam a annogentt eu gilydd i farw yn galonnog gan ddywedyd fel hyn:
6Y mae yr Arglwydd Dduw yn edrych arnom, ac yn ddiau efe a gymmer ddiddanwch o honom ni, megis y mynegodd Moses yn ei ganiad, #Deut.32.36.yn yr hwn y testiolaethodd gan ddywedyd, ac efe a gymmer ddiddanwch yn ei weision.
7Wedi marw o’r cyntaf fel hyn: hwy a ddygasant yr ail iw wneuthur yn watwargerdd, ac wedi iddynt dynnû croen ei ben ai wallt, hwy a ofynnasant iddo, a fywyttei di cyn merthyrû dy gorph bob yn aelod.
8Ond efe a attebodd yn iaith ei wlâd, na wnaf.
9Am hynny hwn hefyd fel y cyntaf a ferthyrwyd yn gyflym: a phan oedd yn rhoddi i fynŷ’r yspryd, efe a ddywedodd: ty di lofrudd, wyt yn dwyn ein bywyd presennol oddi arnom, ond Brenhin y byd a’n cyfyd ni (y rhai ydym yn meirw tros ei gyfreithiau) i dragywyddol gyfo­diadigaeth y bywyd.
10Yn ôl hwn y dygwyd y trydydd hefyd iw watwar, a phan ofynnasant am ei dafod, efe at estynnodd allan yn ebrwydd, ac a ledodd ei freichiaû yn hŷf, ac a lefarodd yn wrol.
11Y rhai hyn a gefais i gan Ddûw o’r nef, a’r rhai hyn yr ydwyfi yn eu Dirmygu er mwyn ei gyfreithiau ef, ac yr ydwyf yn gobeithio derbyn y rhain ail-waith ganddo ef.
12Yn gymmeint ag i’r brenin a’r rhai oeddynt gyd ag ef synnû a rhyfeddu wrth galon­did y gŵr ieuangc, megis wrth vn heb brisio am ei boenaû.
13Ac yn ôl marw hwn hwy a ferthŷrasant y pedwerydd hefyd, gan ei ladd y cyffelyb fôdd.
14Yr hwn pan ydoedd agos a marw a ddywedodd, pêth deisyfadwy yw i ni newidio y pethau sydd raid eu gobeithio gan ddynion, a dis­gwil am ein gobaith oddi wrth Ddûw fel ein cyfoder eilwaith drwyddo ef: canys i ti ni bydd cyfodiadigaeth i fywyd.
15Wedi hynny hwy a ddygasant y pummed ac ai merthyrâsant.
16Yr hwn gan edrych ar y brenin a ddywedodd, y mae genit allû ym mysc dynion, ac er i ti fôd n farwol yr wyt ti yn gwneuthur a fynnech: ond na thybbia wrthod o Ddûw ein cenhedl ni.
17Ond disgwil ennyd, a gwêl ei allû mawr ef, fel y cospa efe dy di a’th hâd.
18Yn ôl hwn hwy a ddygasant y chweched yr hwn pan ydoedd yn marw a ddywedodd: na somma mo honot ty hûn yn ofer: canys nyni ydym yn dioddef y pethaû hyn o’n plegit ein hŷnain, o blegit pechu o honō yn erbyn ein Dûw: a’r pethau hyn a wnaethpwyd yn rhyfeddod [i bawb.]
19Ond na feddwl di y diengi di heb dy gos­pi, yr hwn wyt yn ceisio rhyfela yn erbyn Duw.
20Ond y fam oedd yn rhyfeddfawr ragorol ac yn haeddu cof ardderchog: yr hon tros yspait diwrnod a oddefodd â chalon rymus weled ei saith mâb yn marw ar yr vnwaith, o blegit ei gobaith a osodase hi yn yr Arglwydd.
21Ac hi a annogodd bôb un o honynt yn iaith ei gwlâd, ac yn llawn o yspryd a doethineb hi a gynhyrfodd ei meddwl â chalon wrol, ac a ddywedodd wrthynt,
22Ni wn pa fodd y daethoch i’m bru: canys ni roddais i chwi nac yspryd na bywyd, ac nid myfi a ddosparthodd aelôdau eich cyrph.
23Ond yn ddiau gwneuthurwr y bŷd, yr hwn a luniodd anedigaeth dŷn, ac a gafodd na­turiaeth pôb peth, a’r hwn a rydd eilwaith i chwi er ei drugaredd yspryd a bywyd, yn gymmeint ag i chwi yn awr eich dirmygu eich hunain er mwyn ei gyfreithiau ef.
24Antiochus hefyd gan dybbio ei fôd yn ddirmygus, a chan feddwl fod ei hymadrodd hi yn wradwyddus, tra ydoedd yr ieûangaf etto yn fyw, a geisiodd ei ddênu nid yn vnic â geiriau, ond hefyd trwy addo â llyfau ei wneuthur yn gyfoethog, ac yn oludog os efe a ym wrthode a chyfreithiau ei dadau, ac hefyd y cymmere efe ef megis yn gâr iddo, ac y rhodde iddo swyddau
25Ac o blegit nas gwrandawe y gŵr ieu­angc, efe a barodd gyrchu ei fam, ac a siriolodd arni hi gynghori ei mâb am ei hoedl ef.
26Ac wedi iddo ddeisyfu arni hynny â geiriau lawer, hi a addawodd iddo y cynghore hi ei mab.
27Yna ei fam a droes atto, a chan watwar y teiran creulon, hi ddywedodd yn iaith ei gwlad.
28Fy mab trugarha wrthif, yr hon a’th ddûg di naw mis yn fy mru, yr hon a roddais i ti laeth dair blynedd, yr hon a’th ddûg di i fynu hyd yn hyn, a’r hon a oddefais orthrymderau dy fagwriaeth, attolwg i ti fy mab edrych ar y nef a’r ddaiar, ac edrych ar bôb peth ag sydd ynddynt, cydnebydd wneuthur o Dduw y pethau hyn o’r pethau nid oeddynt, a gwneuthur rhywogaeth dŷn felly.
29Nac ofn a mor cigydd hwn, ond bydd debig i’th frodyr, cymmer dy farwolaeth, fel y ga­llwyf dy dderbyn gyd a’th frodyr yn yr vn­rhyw drugaredd.
30A thra yr ydoedd hi yn dywedyd hyn, y gŵr ieuangc a lefarodd, beth yr ydych chwi yn edrych am dano: nid oes yn fy mryd vfyddhau gorchymyn y brenin, ond yr ydwyf yn gwrando ar orchymynnion y gyfraith, y rhai a roddwyd i’n tadau trwy law Moses.
31Tithe hefyd yr hwn wyt ddychymygwr pob drwg i’r Hebræaid, ni diengi rhag llaw Dduw.
32Canys nyni ydym yn goddef [hyn] o blegit ein pechodau ein hunain.
33Ond er bôd y Duw byw tros ennyd yn digio wrthym er athrawiaeth ac addysc i ni, etto efe a gymmyd trachefn âi weision.
34Ond ty di ô annuwiol ac sceleraf o’r holl ddynion, nac ymddercha dy hun yn ofer gan ffrommi mewn ansiccr obaith, a chan godi dy ddwylaw yn erbyn gweision Duw:
35Canys ni ddiengaist di etto rhag barn Duw oll alluog, yr hwn sydd yn gweled [pob peth.]
36Fy mrodyr y rhai weithian a oddefasant lafur byrr, ydynt yr awron dan sanctaidd gyfammod bywyd tragywyddol: tithe hefyd trwy farn Duw, a dderbynni boenau addas o blegit dy falchder.
37Minne hefyd megis ag y gwnaeth fy­mrodyr a roddaf fyng-horph a’m henides dros gyfreithiau ein teidiau, gan attolwg i Dduw, drugarhau o honaw yn gyflym wrth y genedl hon, a pheri i tithe drwy benyd a chospedigaeth gyffessu, mai efe sydd Dduw yn vnic.
38A diweddu hefyd ynofi a’m brodyr o ddigofaint yr Holl-alluog, yr hwn yn addas a syrthiodd ar ein holl genedl.
39Yna ’r brenin wedi ei enynnu â chynddaredd, a wŷnfydodd yn erbyn hwn yn fwy na nêb, ac a fu drwm ganddo ei watwar.
40Hwn hefyd a fu farw yn sanctaidd, gan roddi ei gwbl ymddyried yn yr Arglwydd.
41Yn ddiwethaf o’r cwbl y fam yn ôl ei meibion a fu farw.
42Weithian bydded digon dywedyd hyn am [eu] gwleddau, ai creulondeb aruthrol.

Currently Selected:

2.Machabæaid 7: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in