YouVersion Logo
Search Icon

2.Machabæaid 8

8
PEN. VIII.
Iudas yn casclu yng-hyd ei lu, 9 Nicanor yn myned yn erbyn Iudas; 16 Iudas yn annog ei filwyr i fod yn ddi-anwadal, 20 yr ydys yn gorch-fygu Nicanor, 27 y mae yr lddewon yn rhoddi diolch yspail i’r ymddifaid a’r gweddwon, 30 yr ydys yn gorch-fygu Timotheus a Bacchides, 35 y mae Nicanor yn ffoi at Antiochus.
1Yna Iudas Machabeus a’r rhai oeddynt gyd ag ef a aethant yn ddirgel i’r pentrefi, ac a alwasant eu ceraint, ac a gymmerasant y rhai oeddynt yn aros yn-brefydd yr Iddewon, ac a gasclasant yng-hyd chwemîl o wŷr.
2Felly hwy a alwasant ar yr Arglwydd, ar edrych o honaw ar ei bobl, y rhai yr oedd pawb yn eu cystuddio, ac ar fod o honaw yn drugarog wrth y deml, yr hon a ddarfase i’r dynion drwg ei halogi,
3Ac ar dosturio o honaw wrth y ddinas (yr hon ydoedd wedi ei dinistrio, ac agos yn vn a’r llawr) ac ar wrando o honaw ar lef gwaed y rhai a laddasid yn gweiddi arno ef,
4Ac ar gofio o honaw anghyfreithlon laddiad y plant gwirion, a’r cabl eiriau a ddywedasid yn erbyn ei enw, ac ar ddangos câs yn erbyn drygioni.
5Yna Machabeus wedi cynnull yng-hyd ei lu, a’r cenedloedd heb allu ei wrthwynebu, gan droi o’r Arglwydd ei ddigofaint yn drugaredd,
6Efe a ddaeth yn ddisymmwth, ac a loscodd y dinasoedd ar pētrefi, ac a feddiānodd y lleoedd cymhwysaf, gan yrru llawer oi elynnion i ffoi.
7Ond yn bennaf efe a arferodd liw nôs wneuthur cyfryw dderfyscoedd, hyd onid aeth y gair oi wroldeb ef i bôb lle.
8Ond pan welodd Philip dyfu o’r gŵr hwn yn fuan o fesur ychydig, ac ychydig, ai fôd yn llwyddiannus: efe a scrifennodd at Ptolemeus llywodraethwr Caelosyria a Phenicia, yw swccrio ef yn achosion y brenin.
9Yna efe a etholodd Nicanor mab Patro­clus, vn oi geraint pennaf, ac ai danfonodd ef, gan roddi o bob rhai o’r cenhedloedd nid llai nag vgain mîl, i ddiwreiddio allan holl genedl yr Iddewon: a hefyd efe a gysylldodd yng-hyd ag ef Gorgias y capten, gŵr cyfarwydd mewn mat­terion rhyfel.
10Nicanor hefyd a ordeiniodd am deyrn­ged y brenin o ddwyfil o dalentau, yr hon a ddyle ’r Rhufein-wŷr ei chael, gan yr Iddewon y rhai a ddelid yn garchororion y cymmerid hi.
11Am hynny efe anfonodd yn y man i’r dinasoedd ar lan y môr, iw hannog hwy i brynu yr Iddewon i fod yn weision iddynt, gan addo y gwerthe [idynt] ddêg a phedwar vgain er vn talent: ond nid ydoedd efe yn ystyrio dial Duw, yr hwn a ddescynne arno ef.
12Pan wybu Iudas fod Nicanor yn dy­fod, efe a fynegodd i’r rhai oeddynt gyd ag ef fôd y gelynnion yn nesau.
13Weithieu yr oedd rhai [o honynt] yn ofnus, y rhai ni choelient i gyfiawnder Duw, ond ffoi a wnaethāt, a myned ymmaith o’r fan honno
14Rhai eraill hefyd a werthasent yr hyn oll a adawsid, ac ar yr vn waith a weddiasant ar yr Arglwydd, ar waredu o honaw ef hwynt oddi wrth yr annuwiol Nicanor, yr hwn ai gwerthase hwynt cyn dyfod o honynt yng-hyd.
15Ar er na’s gwnele efe hyn er eu mwyn hwynt, etto [ar ei wneuthur] er mwyn ei gyfammod ai teidiau, ac er mwyn iddynt alw ar ei sanctaidd ai ogoneddus enw ef.
16Yna Machabeus wedi galw ei wŷr yng­hyd, hyd yn nifer chwe mîl, a attolygodd iddynt, na ddigalōnent o blegit eu gelynnion, ac nad ofnent amlder y cēhedloedd y rhai oeddynt yn dy­fod arnynt yn ddiachos: ond rhyfela o honynt yn ŵrol, gan osod ger bron eu llygaid y dirdra a wnaethent yn anheilwng i’r lle sanctaidd,
17A’r gurfa a roddasid i’r ddinas yr hon a watwaresid, a dirymmiad y llywodraeth a dderbyniasent hwy gan eu henafiaid.
18Canys y maent hwy yn ymddyried mewn arfau a hyfder, ond nyni a ymddyriedwn yn Nuw oll alluog yr hwn a all ddifetha yr rhai ydynt yn dyfod yn ein erbyn, a’r holl fŷd hefyd ag amnaid.
19Ac hefyd efe a gofiodd idynt gymmorth Duw yr hwn a ddangosasid iw tadau, sef pan syrthiodd cant a phewar vgain a phum mîl tann #2.Bren.19.35.Senacherib,
20A’r rhyfel a wnaethid yn Babilon yn erbyn y Galatiaid, fel y daethe o honynt hwy eu gyd i’r maes wyth mil, gyd â phedair mil o’r Macedoniaid: a phan amheuodd y Macedoniaid, yr wyth cant hynny a laddasant vgain mîl a chant drwy gymmorth a roddasid iddynt o’r nef, trwy ba vn y derbyniasant lawer o fudd.
21Bellach wedi iddo eu cyssuru a’r pethau hyn ai gwneuthyd yn barod i farw dros y cyfreithiau a’r wlâd,
22Efe a rannodd ei lu yn bedair rhann, ar a wnaeth ei frodyr ei hun yn gapteniaid ar y llu: sef Simon, Ioseph, ar Ionathas, gan roddi i bob vn bymthec-cant o ryfel-wŷr.
23Ac wedi i Eleazar ddarllen y llyfr sanctaidd a rhoddi iddynt yn arwydd, DRWY help Duw, efe yn gapten y llu blaenaf a aeth yng­hyd â Nicanor.
24Ac o herwydd bod yr Holl-alluog yn rhyfela trostynt, hwy a laddasant o’r gelynnion vwch law naw mîl, ac a glwyfasant, ac a gloffasant y rhan fwyaf, ac a yrrasant bawb i ffoi.
25Ac a gymmerasant yr arian oddi ar y rhai a ddaethent iw prynu, ac ai hymlidiasant ym-mhell, ond am fod arnynt eisieu amser hwy a ddychwelasant.
26Canys y dydd o flaen y Sabboth oedd efe, am hynny ni fynnent eu hymlyd hwy ym­mhellach.
27Fel hyn hwy a gymmerasant eu harfau, ac a yspeiliasant y gelynnion, ac a gadwasant y Sabboth gan fawr fendithio a moliannu ’r Arglwydd yr hwn ai gwaredase y dydd hwnnw, ac a dywalltase arnynt ddechreuad ei drugaredd.
28Hefyd yn ôl y Sabboth hwy a rannasant rann o’r y spail i’r cleifion, i’r gweddwon, ac i’r ymddifaid, a’r hyn oedd yng-weddill a gymmerasant iddynt eu hun ai plant.
29Ac yn ôl gwneuthur y pethau hyn, a gwneuthur o honynt gyffredin weddi, hwy a at­tolygasant i’r Arglwydd trugarog gymmodi o’r diwedd âi weision.
30Wedi hynny ar vnwaith hwy a syrthiasant ar vchaf Timotheus a Bachis, ac a laddasant vwchlaw vgain mîl, ac a ennillasant vchel a chadarn gestill, ac a rannasant yspail lawer yn gyffredinol rhyngddynt hwy a’r cleiifon, a’r ymddifaid, a’r gweddwon, a’r henaf-gwŷr di­ffrwyth.
31Hefyd hwy a gasclasant eu harfau yng­hyd, ac ai dygasant i leoedd cymmwys, a’r yspail arall a arweinasant i Ierusalem.
32Hwy a laddasant hefyd Philarches, yr hwn ydoedd gyd â Timotheus, dyn annuwiol, ac vn a ddygase orthrymderau lawer ar yr Iddewon.
33Yn yr vn ffunyd pan oeddynt yn cadw gŵyl y goruchafiaeth yn eu gwlad, hwy a loscasant Calisthenes yr hwn a loscase ’r pyrth sanctaidd, ac a ffoese i ryw dŷ bychan iw achub ei hun, am hyuny efe a dderbyniodd wobr addas am ei anwiredd.
34A Nicanor annuwiol (yr hwn a ddygase fil o farsiandwŷr i brynu ’r Iddewon)
35Wedi ef ddarostwng trwy help yr Arglwydd gan yr rhai y tybiase efe nad oeddynt ddim, yn gymmeint a gorfod iddo fwrw ymmaith ei addurn wisc, a ffoi trwy ’r canol fôr megis gwibbiad, a dyfod heb adel neb gyd ag ef i Antiochia, a’r ffynniant mwyaf a gafodd efe oedd colli ei lu.
36Fel hyn yr hwn a addawse dalu teyrn-ged i’r Rhufeinwŷr o’r carchororion y rhai oeddynt yn Ierusalem, a ddygod newyddion fod gan yr Iddewon amddeffynnwr, sef Duw: ac oblegit hyn na’s galle nêb wneuthur niwed iddynt, o herwydd eu bôd yn cadw y cyfreithiau a orchy­mynnase efe iddynt hwy.

Currently Selected:

2.Machabæaid 8: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in