2.Machabæaid 6
6
PEN. VI.
Y mae yn gorfod i’r Iddewon ymâdo â chyfraith Ddûw 4 Yr ydys yn halogi y deml, 10 ac yn cospi ’r gwragedd yn greûlon. 28 gofidfawr benyd Eleazarus.
1Ychydig yn ôl hynny y brenin a ddanfonodd hênaf-gwr ô Antiochia, i ddenû ’r Iddewon i ymado â chyfreithiau eu tâdau, fel na’s llywodraethid mwyach wrth gyfraith Dduw,
2Ac i halogi ’r deml yr hon oedd yn Ierusalem, efe ai galwodd [ym deml] Iupiter Olympius: a’r hon oedd yn Garizim (megis y rhai a gyfanneddent yn y man hwnnw) a alwodd efe [yn deml] Iupiter letteugar.
3Ond llywodraeth y dŷn hwn oedd drwm a blin i’r bôbl.
4Canys y deml a lanwyd o lothineb, a meddwdod y cenhedloedd, y rhai oeddynt yn ymchware â phutteiniaid, ac oddi amgylch y lleoedd sanctaidd yn bôd iddynt a wnelent â gwragedd, a hefyd yn dwyn i mewn bethau nid ydoedd weddaidd.
5A’r allor a lanwasid o bethau anghyfreithlawn, y rhai a waharddase y gyfraith.
6Nid rhydd oedd ychwaith gadw ’r Sabboth na chadw gŵyliau eu hanafiaid, nac yn eglûr gyfaddef eu bod yn Iddewon.
7Ar ddydd ganedigaeth y brenin, yr oedd yn gorfod iddynt heb ddiolch, fyned bôb mis i wledda: a phan gedwid gŵyl y Dionystaid fe a orfydde iddynt fyned yn orfoleddus, ac eiddaw ganddynt er anrhydedd i Bacchus.
8Ac fe a aeth gorchymyn allan i ddinasoedd cyfnesaf y Groeg-wŷr, trwy gyngor Ptolomeus, yng-hylch gwneuthur yn erbyn yr Iddewon yr vn rhyw arferion, a’r [vn rhyw] wleddaû.
9Ac yng-hylch lladd y rhai nis mynnent ganlyn arferion y Groegwŷr, am hynny nid oedd dim iw weled ond gofid presennol.
10Canys dygwyd allan ddwy o wragedd y rhai a enwwaedasent eu plant, ac wedi eu harwain yn amlwg oddi amgylch y ddinas, a’r rhai bychain wrth eu bronneû hwy a fwriwyd i lawr bendro-mwnwgl oddi a’r y gaer.
11Rhai eraill yn cyd-rêdeg yn eu mysc eu hûnain i ogfeudd fel y gallent yn ddirgel gadw ’r seithfed dydd, a gyhuddwyd wrth Philip, ac a gyd-loscwyd: a blegit ni feiddient eu helpû eu hûnain, o herwydd parch ar y dydd anrhydeddûs.
12Am hynny yr wyf yn attôlwg i’r rhai a ddarllenant y llyfr hwn, na’s digyssûrer o herwydd yr adfŷd hyn: ond meddyliant fôd y cospedigaethau hyn, yn perthynu nid i ddinistr, ond i geryddiad ein pôbl ni.
13Canys gan nas goddefir y rhai a wnelant yn anûwiol, ond syrthio o honynt yn gyflym i gospedigaeth, arwydd yw hyn o fawr ddaioni Dûw.
14Canys nid yw yr Arglwydd yn hîr âros wrthym ni megis wrth genhedloedd eraill, y rhai y mae efe yn eu cospi pan ddelont i lawndra oi pechodau,
15Ond fel hyn y bû dda ganddo wneuthur â ni rhag gorfod iddo ddial arnom pan gyflawnid ein pechôdau.
16Am hynny ni ddwg byth moi drûgaredd oddi wrthym, ond tan eu ceryddu ag adfyd, nid ymêdu efe ai bobl ei hûn.
17Eithr hyn a ddywedasom i’ch rhybubddio: bellach ni a ddewn ac y traethiaid mewn ychydig o eiriaû.
18Eleazar rhyw vn o’r scrifennyddion pennaf yn ŵr oedrannus, a glân o bryd, a orfu iddo agoryd ei enaû, a bwytta cîg môch.
19Ond efe yn well ganddo farw mewn anrhydedd, na byw mewn ffieidd-dra, a ymroes yn ewyllyscar i’r poenau, ac ai poerodd allan.
20Ac efe a aeth [i’r man] yn amlwg, megis ac y dyle y rhai a feiddient eu hamddeffyn eu hun oddi wrth y pethau nid ŷnt rŷdd eu bwyta, er serch i enioes.
21A’r rhai a osodasid yn lywodraeth-wŷr y wlêdd anghyfreithlon honno, o blegit y gydnabod a oedd rhyngddynt er ys talm â’r gŵr hwn, ai cymmerasant o’r nailldu, ac ai hannogasant i gymmeryd y cîg a ddarparase efe ei hûn, ac i arfer ŷ pethau oedd gyfreithlon iddo: ond cymmeryd ô honaw arno megis pe bwytae o gîg y wledd, yn ôl y pethaû a orchymynnasid [iddo] gan y brenin:
22Fel y galle wrth hyn ei achub ei hûn a angeu a derbyn y ffafor hyn er mwyn yr hên gydnabod a oedd rhyngddynt.
23Ond efe gan gymmeryd meddwl pwyllog, megis y gwedde iw oedran, ac i ragoriaeth ei henaint ai walld llwyd parchedig, ac iw rinweddol fûchedd er yn fachgen, îe yn hytrach megis ag y gwedde i sanctaidd a duwiol gyfraith Ddûw a attebodd iddynt gan attolwg ei ollwng yn fûan iw feddrod.
24Canys nid gweddaidd (eb efe) yw i’n hoedran ni ragrithio, fel y tybbio llawer o wŷr ieuaingc ddychwelyd o Eleazar yn ddengmlwydd a phedwar vgain o oed at arferion dieithr.
25Ac yr hudid hwythau hefyd o blegit fy rhagrithrwydd i, er mwyn ychydig amser i fyw, ac y bydde i mi ddwyn gwradwydd a dirmyg i’m henaint.
26Canys er i mi allu diangc oddi wrth gospedigaeth ddynawl: etto ni’s gallaf ffoi oddi wrth law yr Holl-alluog, nac yn fyw, nac yn farw.
27Am hynny gan newidio bywyd yn wrol mi a ymddangosaf yn addas i’m henaint.
28Yna y gadawaf i’r rhai ieuaingc siampl ardderchog i farw yn ŵrol, ac yn rymmus tros y sanctaidd a’r anrhydeddus gyfraith, ac wedi dywedyd hyn efe a aeth yn gyflym i boenau.
29Yna y rhai ai harweinient, a droesant eu hewyllys da iddo o’r blaen yn llid wrtho pan glywsant ei ymadrodd: canys tybbio a wnaethant ei fôd wedi ynfydu.
30Hefyd pan oedd ar farw o blegit y dyrnodiau, efe a ddywedodd gan ocheneidio: eglur yw i’r Arglwydd, yr hwn sydd ganddo sanctaidd ŵybodaeth, mai pan allwn fyng-waredu fy hun o angeu, ddioddef o honof fyng-huro ar hŷd fyng-horph a’m bod yn ewyllyscar yn dioddef y pethau hyn er mwyn parch ei enw ef.
31Fel hyn y bu efe farw, gan adel ei farwolaeth yn siampl o galon ddihafarch, ac yn goffa am rinwedd nid yn vnic i’r gwŷr ieuaing ond i lawer eraill o genhedloedd.
Currently Selected:
2.Machabæaid 6: BWMG1588
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Y Beibl Cyssegr-lan. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1588, a’i ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2023.