YouVersion Logo
Search Icon

2.Machabæaid 6

6
PEN. VI.
Y mae yn gorfod i’r Iddewon ymâdo â chyfraith Ddûw 4 Yr ydys yn halogi y deml, 10 ac yn cospi ’r gwragedd yn greûlon. 28 gofidfawr benyd Eleazarus.
1Ychydig yn ôl hynny y brenin a ddanfonodd hênaf-gwr ô Antiochia, i ddenû ’r Idde­won i ymado â chyfreithiau eu tâdau, fel na’s llywodraethid mwyach wrth gyfraith Dduw,
2Ac i halogi ’r deml yr hon oedd yn Ierusalem, efe ai galwodd [ym deml] Iupiter Olym­pius: a’r hon oedd yn Garizim (megis y rhai a gyfanneddent yn y man hwnnw) a alwodd efe [yn deml] Iupiter letteugar.
3Ond llywodraeth y dŷn hwn oedd drwm a blin i’r bôbl.
4Canys y deml a lanwyd o lothineb, a meddwdod y cenhedloedd, y rhai oeddynt yn ym­chware â phutteiniaid, ac oddi amgylch y lleoedd sanctaidd yn bôd iddynt a wnelent â gwragedd, a hefyd yn dwyn i mewn bethau nid ydoedd weddaidd.
5A’r allor a lanwasid o bethau anghyfreithlawn, y rhai a waharddase y gyfraith.
6Nid rhydd oedd ychwaith gadw ’r Sabboth na chadw gŵyliau eu hanafiaid, nac yn eglûr gyfaddef eu bod yn Iddewon.
7Ar ddydd ganedigaeth y brenin, yr oedd yn gorfod iddynt heb ddiolch, fyned bôb mis i wledda: a phan gedwid gŵyl y Dionystaid fe a orfydde iddynt fyned yn orfoleddus, ac eiddaw ganddynt er anrhydedd i Bacchus.
8Ac fe a aeth gorchymyn allan i ddinasoedd cyfnesaf y Groeg-wŷr, trwy gyngor Ptolomeus, yng-hylch gwneuthur yn erbyn yr Idde­won yr vn rhyw arferion, a’r [vn rhyw] wleddaû.
9Ac yng-hylch lladd y rhai nis mynnent ganlyn arferion y Groegwŷr, am hynny nid oedd dim iw weled ond gofid presennol.
10Canys dygwyd allan ddwy o wragedd y rhai a enwwaedasent eu plant, ac wedi eu har­wain yn amlwg oddi amgylch y ddinas, a’r rhai bychain wrth eu bronneû hwy a fwriwyd i lawr bendro-mwnwgl oddi a’r y gaer.
11Rhai eraill yn cyd-rêdeg yn eu mysc eu hûnain i ogfeudd fel y gallent yn ddirgel gadw ’r seithfed dydd, a gyhuddwyd wrth Philip, ac a gyd-loscwyd: a blegit ni feiddient eu helpû eu hûnain, o herwydd parch ar y dydd anrhydeddûs.
12Am hynny yr wyf yn attôlwg i’r rhai a ddarllenant y llyfr hwn, na’s digyssûrer o herwydd yr adfŷd hyn: ond meddyliant fôd y cospedigaethau hyn, yn perthynu nid i ddinistr, ond i geryddiad ein pôbl ni.
13Canys gan nas goddefir y rhai a wnelant yn anûwiol, ond syrthio o honynt yn gyflym i gospedigaeth, arwydd yw hyn o fawr ddaioni Dûw.
14Canys nid yw yr Arglwydd yn hîr âros wrthym ni megis wrth genhedloedd eraill, y rhai y mae efe yn eu cospi pan ddelont i lawndra oi pechodau,
15Ond fel hyn y bû dda ganddo wneuthur â ni rhag gorfod iddo ddial arnom pan gyflaw­nid ein pechôdau.
16Am hynny ni ddwg byth moi drûgaredd oddi wrthym, ond tan eu ceryddu ag adfyd, nid ymêdu efe ai bobl ei hûn.
17Eithr hyn a ddywedasom i’ch rhybubddi­o: bellach ni a ddewn ac y traethiaid mewn ychydig o eiriaû.
18Eleazar rhyw vn o’r scrifennyddion pennaf yn ŵr oedrannus, a glân o bryd, a orfu iddo agoryd ei enaû, a bwytta cîg môch.
19Ond efe yn well ganddo farw mewn anrhydedd, na byw mewn ffieidd-dra, a ymroes yn ewyllyscar i’r poenau, ac ai poerodd allan.
20Ac efe a aeth [i’r man] yn amlwg, megis ac y dyle y rhai a feiddient eu hamddeffyn eu hun oddi wrth y pethau nid ŷnt rŷdd eu bwyta, er serch i enioes.
21A’r rhai a osodasid yn lywodraeth-wŷr y wlêdd anghyfreithlon honno, o blegit y gydnabod a oedd rhyngddynt er ys talm â’r gŵr hwn, ai cymmerasant o’r nailldu, ac ai hanno­gasant i gymmeryd y cîg a ddarparase efe ei hûn, ac i arfer ŷ pethau oedd gyfreithlon iddo: ond cymmeryd ô honaw arno megis pe bwytae o gîg y wledd, yn ôl y pethaû a orchymynnasid [iddo] gan y brenin:
22Fel y galle wrth hyn ei achub ei hûn a angeu a derbyn y ffafor hyn er mwyn yr hên gydnabod a oedd rhyngddynt.
23Ond efe gan gymmeryd meddwl pwyl­log, megis y gwedde iw oedran, ac i ragoriaeth ei henaint ai walld llwyd parchedig, ac iw rinweddol fûchedd er yn fachgen, îe yn hytrach megis ag y gwedde i sanctaidd a duwiol gyfraith Ddûw a attebodd iddynt gan attolwg ei ollwng yn fûan iw feddrod.
24Canys nid gweddaidd (eb efe) yw i’n hoedran ni ragrithio, fel y tybbio llawer o wŷr ieuaingc ddychwelyd o Eleazar yn ddeng­mlwydd a phedwar vgain o oed at arferion di­eithr.
25Ac yr hudid hwythau hefyd o blegit fy rhagrithrwydd i, er mwyn ychydig amser i fyw, ac y bydde i mi ddwyn gwradwydd a dirmyg i’m henaint.
26Canys er i mi allu diangc oddi wrth gospedigaeth ddynawl: etto ni’s gallaf ffoi oddi wrth law yr Holl-alluog, nac yn fyw, nac yn farw.
27Am hynny gan newidio bywyd yn wrol mi a ymddangosaf yn addas i’m henaint.
28Yna y gadawaf i’r rhai ieuaingc siampl ardderchog i farw yn ŵrol, ac yn rymmus tros y sanctaidd a’r anrhydeddus gyfraith, ac wedi dywedyd hyn efe a aeth yn gyflym i boenau.
29Yna y rhai ai harweinient, a droesant eu hewyllys da iddo o’r blaen yn llid wrtho pan glywsant ei ymadrodd: canys tybbio a wnaethant ei fôd wedi ynfydu.
30Hefyd pan oedd ar farw o blegit y dyrno­diau, efe a ddywedodd gan ocheneidio: eglur yw i’r Arglwydd, yr hwn sydd ganddo sanctaidd ŵybodaeth, mai pan allwn fyng-waredu fy hun o angeu, ddioddef o honof fyng-huro ar hŷd fyng-horph a’m bod yn ewyllyscar yn dioddef y pethau hyn er mwyn parch ei enw ef.
31Fel hyn y bu efe farw, gan adel ei farwolaeth yn siampl o galon ddihafarch, ac yn goffa am rinwedd nid yn vnic i’r gwŷr ieuaing ond i lawer eraill o genhedloedd.

Currently Selected:

2.Machabæaid 6: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in