Mathew 27
27
A.D. 33. —
1 Anfon Crist yn rhwym at Peilat. 3 Jwdas yn ymgrogi. 19 Peilat, wedi ei rybuddio gan ei wraig, 24 yn golchi ei ddwylo. 26 Rhyddhau Barabbas. 29 Coroni Crist â drain, 35 a’i groeshoelio, 40 a’i ddifenwi: 50 yntau yn marw: ei gladdu ef. 66 Selio a gwylio ei fedd ef.
1A phan ddaeth y bore, cydymgynghorodd #Marc 15:1; Luc 22:66; 23:1; Ioan 18:28yr holl archoffeiriaid, a henuriaid y bobl, yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth. 2Ac wedi iddynt ei rwymo, hwy a’i dygasant ef ymaith, ac a’i traddodasant ef i Pontius Peilat y rhaglaw.
3Yna pan welodd Jwdas, yr hwn a’i bradychodd ef, ddarfod ei gondemnio ef, bu edifar ganddo, ac a ddug drachefn y deg ar hugain arian i’r archoffeiriaid a’r henuriaid, 4Gan ddywedyd, Pechais, gan fradychu gwaed gwirion. Hwythau a ddywedasant, Pa beth yw hynny i ni? edrych di. 5Ac wedi iddo daflu’r arian yn y deml, #Act 1:18efe a ymadawodd, ac a aeth ac a ymgrogodd. 6A’r archoffeiriaid a gymerasant yr arian, ac a ddywedasant, Nid cyfreithlon i ni eu bwrw hwynt yn y drysorfa; canys #27:6 Neu, pris.gwerth gwaed ydyw. 7Ac wedi iddynt gydymgynghori, hwy a brynasant â hwynt faes y crochenydd, yn gladdfa dieithriaid. 8Am hynny y galwyd y maes hwnnw, #Act 1:19Maes y gwaed, hyd heddiw. 9(Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedwyd trwy Jeremeias y proffwyd, gan ddywedyd, A #Sech 11:12, 13hwy a gymerasant y deg ar hugain arian, #27:9 Neu, gwerth y gwerthedig.pris y prisiedig, yr hwn #27:9 Neu, a brisiasai meibion Israel.a brynasant gan feibion Israel; 10Ac a’u rhoesant hwy am faes y crochenydd, megis y gosododd yr Arglwydd i mi.) 11A’r Iesu a safodd gerbron y rhaglaw: a’r rhaglaw a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? A’r Iesu a ddywedodd wrtho, #Ioan 18:37; 1 Tim 6:13Yr wyt ti yn dywedyd. 12A phan gyhuddid ef gan yr archoffeiriaid a’r henuriaid, #Pen 26:63nid atebodd efe ddim. 13Yna y dywedodd Peilat wrtho, #Pen 26:62Oni chlywi di faint o bethau y maent hwy yn eu tystiolaethu yn dy erbyn di? 14Ac nid atebodd efe iddo i un gair; fel y rhyfeddodd y rhaglaw yn fawr. 15#Marc 15:6; Luc 23:17; Ioan 18:39Ac ar yr ŵyl honno yr arferai’r rhaglaw ollwng yn rhydd i’r bobl un carcharor, yr hwn a fynnent. 16Ac yna yr oedd ganddynt garcharor hynod, a elwid Barabbas. 17Wedi iddynt gan hynny ymgasglu ynghyd, Peilat a ddywedodd wrthynt, Pa un a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Barabbas, ai’r Iesu, yr hwn a elwir Crist? 18Canys efe a wyddai mai o genfigen y traddodasent ef.
19Ac efe yn eistedd ar yr orseddfainc, ei wraig a ddanfonodd ato, gan ddywedyd, Na fydded i ti a wnelych â’r cyfiawn hwnnw: canys goddefais lawer heddiw mewn breuddwyd o’i achos ef. 20#Ioan 18:40; Act 3:14A’r archoffeiriaid a’r henuriaid a berswadiasant y bobl, fel y gofynnent Barabbas, ac y difethent yr Iesu. 21A’r rhaglaw a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pa un o’r ddau a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Hwythau a ddywedasant, Barabbas. 22Peilat a ddywedodd wrthynt, Pa beth gan hynny a wnaf i’r Iesu, yr hwn a elwir Crist? Hwythau oll a ddywedasant wrtho, Croeshoelier ef. 23A’r rhaglaw a ddywedodd, Ond pa ddrwg a wnaeth efe? Hwythau a lefasant yn fwy, gan ddywedyd, Croeshoelier ef.
24A Peilat, pan welodd nad oedd dim yn tycio, ond yn hytrach bod cynnwrf, #Deut 21:6a gymerth ddwfr, ac a olchodd ei ddwylo gerbron y bobl, gan ddywedyd, Dieuog ydwyf fi oddi wrth waed y cyfiawn hwn: edrychwch chwi. 25A’r holl bobl a atebodd ac a ddywedodd, #Act 5:28 Bydded ei waed ef arnom ni, ac ar ein plant.
26Yna y gollyngodd efe Barabbas yn rhydd iddynt: #Luc 23:16ond yr Iesu a fflangellodd efe, ac a’i rhoddes i’w groeshoelio. 27#Ioan 19:1Yna milwyr y rhaglaw a gymerasant yr Iesu #27:27 Neu, i dŷ y rhaglaw.i’r dadleudy, ac a gynullasant ato yr holl fyddin. 28A hwy a’i diosgasant ef, ac #Luc 23:11a roesant amdano fantell o ysgarlad.
29A chwedi iddynt blethu coron o ddrain, hwy a’i gosodasant ar ei ben ef, a chorsen yn ei law ddeau; ac a blygasant eu gliniau ger ei fron ef, ac a’i gwatwarasant, gan ddywedyd, Henffych well, brenin yr Iddewon. 30A #Esa 50:6; Pen 26:67hwy a boerasant arno, ac a gymerasant y gorsen, ac a’i trawsant ar ei ben. 31Ac wedi iddynt ei watwar, hwy a’i diosgasant ef o’r fantell, ac a’i gwisgasant â’i ddillad ei hun, ac a’i dygasant ef ymaith i’w groeshoelio. 32#Marc 15:21; Luc 23:26Ac fel yr oeddynt yn myned allan, hwy a gawsant ddyn o Cyrene, a’i enw Simon; hwn a gymellasant i ddwyn ei groes ef.
33 #
Ioan 19:17
A phan ddaethant i le a elwid Golgotha, yr hwn a elwir, Lle’r benglog, 34#Salm 69:21Hwy a roesant iddo i’w yfed, finegr yn gymysgedig â bustl: ac wedi iddo ei brofi, ni fynnodd efe yfed. 35Ac wedi iddynt ei groeshoelio ef, hwy a ranasant ei ddillad, gan fwrw coelbren: er cyflawni’r peth a ddywedwyd trwy’r proffwyd, #Salm 22:18; Ioan 19:24Hwy a ranasant fy nillad yn eu plith, ac ar fy ngwisg y bwriasant goelbren. 36A chan eistedd, hwy a’i gwyliasant ef yno: 37A #Marc 15:26; Luc 23:38; Ioan 19:19gosodasant hefyd uwch ei ben ef ei achos yn ysgrifenedig, HWN YW IESU, BRENIN YR IDDEWON. 38#Esa 53:12; Luc 23:32, 33Yna y croeshoeliwyd gydag ef ddau leidr; un ar y llaw ddeau, ac un ar yr aswy.
39 #
Salm 22:7; Marc 15:29; Luc 23:35 A’r rhai oedd yn myned heibio a’i cablasant ef, gan ysgwyd eu pennau, 40A dywedyd, #Pen 26:61; Ioan 2:19Ti yr hwn a ddinistri’r deml, ac a’i hadeiledi mewn tridiau, gwared dy hun. Os ti yw Mab Duw, disgyn oddi ar y groes. 41A’r un modd yr archoffeiriaid hefyd, gan watwar, gyda’r ysgrifenyddion a’r henuriaid, a ddywedasant, 42Efe a waredodd eraill, ei hunan nis gall efe ei waredu. Os Brenin Israel yw, disgynned yr awron oddi ar y groes, ac ni a gredwn iddo. 43#Salm 22:8Ymddiriedodd yn Nuw; gwareded efe ef yr awron, os efe a’i myn ef: canys efe a ddywedodd, Mab Duw ydwyf. 44#Luc 23:39A’r un peth hefyd a edliwiodd y lladron iddo, y rhai a groeshoeliasid gydag ef. 45Ac o’r chweched awr y bu tywyllwch ar yr holl #27:45 dir.ddaear hyd y nawfed awr. 46Ac ynghylch y nawfed awr #Heb 5:7y llefodd yr Iesu â llef uchel, gan ddywedyd, Eli, Eli, lama sabachthani? hynny yw, #Salm 22:1Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gadewaist? 47A rhai o’r sawl oedd yn sefyll yno, pan glywsant, a ddywedasant, Y mae hwn yn galw am Eleias. 48Ac yn y fan un ohonynt a redodd, ac a gymerth ysbwng, #Salm 69:21; Marc 15:36; Luc 23:36; Ioan 19:29ac a’i llanwodd o finegr, ac a’i rhoddodd ar gorsen, ac a’i diododd ef. 49A’r lleill a ddywedasant, Paid, edrychwn a ddaw Eleias i’w waredu ef.
50 #
Luc 23:46
A’r Iesu, wedi llefain drachefn â llef uchel, a ymadawodd â’r ysbryd. 51Ac wele, #Exod 26:31; 2 Cron 3:14; Marc 15:38llen y deml a rwygwyd yn ddau oddi fyny hyd i waered: a’r ddaear a grynodd, a’r meini a holltwyd: 52A’r beddau a agorwyd; a llawer o gyrff y saint a hunasent a gyfodasant, 53Ac a ddaethant allan o’r beddau ar ôl ei gyfodiad ef, ac a aethant i mewn i’r ddinas sanctaidd, ac a ymddangosasant i lawer. 54#Marc 15:39; Luc 23:47Ond y canwriad, a’r rhai oedd gydag ef yn gwylied yr Iesu, wedi gweled y ddaeargryn, a’r pethau a wnaethid, a ofnasant yn fawr, gan ddywedyd, Yn wir Mab Duw ydoedd hwn. 55Ac yr oedd yno lawer o wragedd yn edrych o hirbell, #Luc 8:2, 3y rhai a ganlynasent yr Iesu o Galilea, gan weini iddo ef: 56#Marc 15:40Ymhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago a Joses, a mam meibion Sebedeus.
57 #
Marc 15:42; Luc 23:50; Ioan 19:38 Ac wedi ei myned hi yn hwyr, daeth gŵr goludog o Arimathea, a’i enw Joseff, yr hwn a fuasai yntau yn ddisgybl i’r Iesu: 58Hwn a aeth at Peilat, ac a ofynnodd gorff yr Iesu. Yna y gorchmynnodd Peilat roddi’r corff. 59A Joseff wedi cymryd y corff, a’i hamdôdd â lliain glân, 60Ac #Esa 53:9a’i gosododd ef yn ei fedd newydd ei hun, yr hwn a dorasai efe yn y graig; ac a dreiglodd faen mawr wrth ddrws y bedd, ac a aeth ymaith. 61Ac yr oedd yno Mair Magdalen, a’r Fair arall, yn eistedd gyferbyn â’r bedd.
62A thrannoeth, yr hwn sydd ar ôl y darpar‐ŵyl, yr ymgynullodd yr archoffeiriaid a’r Phariseaid at Peilat, 63Gan ddywedyd, Arglwydd, y mae yn gof gennym ddywedyd o’r twyllwr hwnnw, ac efe eto yn fyw, #Pen 16:21; 17:23; 20:19; Marc 8:31; 10:34; Luc 9:22; 18:33; 24:6Wedi tridiau y cyfodaf. 64Gorchymyn gan hynny gadw’r bedd yn ddiogel hyd y trydydd dydd; rhag dyfod ei ddisgyblion o hyd nos, a’i ladrata ef, a dywedyd wrth y bobl, Efe a gyfododd o feirw: a bydd yr amryfusedd diwethaf yn waeth na’r cyntaf. 65A dywedodd Peilat wrthynt, Y mae gennych wyliadwriaeth; ewch, gwnewch mor ddiogel ag y medroch. 66A hwy a aethant, ac a wnaethant y bedd yn ddiogel, ac a seliasant y maen, gyda’r wyliadwriaeth.
Currently Selected:
Mathew 27: BWM1955C
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society