Mathew 26
26
A.D. 33. —
3 Y llywodraethwyr yn cyd‐fwriadu yn erbyn Crist. 6 Y wraig yn eneinio ei ben ef. 14 Jwdas yn ei werthu ef. 17 Crist yn bwyta y pasg: 26 yn ordeinio ei swper sanctaidd: 36 yn gweddïo yn yr ardd: 47 ac wedi ei fradychu â chusan, 57 yn cael ei arwain at Caiaffas, 69 a’i wadu gan Pedr.
1A bu, wedi i’r Iesu orffen y geiriau hyn oll, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, 2#Marc 14:1; Luc 22:1; Ioan 13:1Chwi a wyddoch mai gwedi deuddydd y mae’r pasg; a Mab y dyn a draddodir i’w groeshoelio. 3#Salm 2:2; Ioan 11:47; Act 4:25 &cYna yr ymgasglodd yr archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a henuriaid y bobl, i lys yr archoffeiriad, yr hwn a elwid Caiaffas: 4A hwy a gydymgyngorasant fel y dalient yr Iesu trwy ddichell, ac y lladdent ef. 5Eithr hwy a ddywedasant, Nid ar yr ŵyl, rhag bod cynnwrf ymhlith y bobl.
6 #
Marc 14:3; Ioan 11:1, 2; 12:1 Ac a’r Iesu ym #Pen 21:17Methania, yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus, 7Daeth ato wraig a chanddi flwch o ennaint gwerthfawr, ac a’i tywalltodd ar ei ben, ac efe yn eistedd wrth y ford. 8A phan welodd ei ddisgyblion, hwy a sorasant, gan ddywedyd, I ba beth y bu’r golled hon? 9Canys fe a allasid gwerthu’r ennaint hwn er llawer, a’i roddi i’r tlodion. 10A’r Iesu a wybu, ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn gwneuthur blinder i’r wraig? canys hi a weithiodd weithred dda arnaf. 11#Deut 15:11; Ioan 12:8Oblegid y mae gennych y tlodion bob amser gyda chwi; a #Pen 18:20; 28:20mi nid ydych yn ei gael bob amser. 12Canys hi yn tywallt yr ennaint hwn ar fy nghorff, a wnaeth hyn i’m claddu i. 13Yn wir meddaf i chwi, Pa le bynnag y pregether yr efengyl hon yn yr holl fyd, mynegir yr hyn a wnaeth hi hefyd, er coffa amdani hi.
14 #
Marc 14:10; Luc 22:3 Yna yr aeth un o’r deuddeg, yr hwn a elwid #Pen 10:4Jwdas Iscariot, at yr archoffeiriaid, 15Ac a ddywedodd wrthynt, #Sech 11:12; Pen 27:3Pa beth a roddwch i mi, a mi a’i traddodaf ef i chwi? A hwy a osodasant iddo ddeg ar hugain o arian. 16Ac o hynny allan y ceisiodd efe amser cyfaddas i’w fradychu ef.
17 #
Marc 14:12; Luc 22:7 Ac ar y dydd cyntaf o ŵyl y bara croyw, y disgyblion a ddaethant at yr Iesu, gan ddywedyd wrtho, Pa le y mynni i ni baratoi i ti fwyta’r pasg? 18Ac yntau a ddywedodd, Ewch i’r ddinas at #26:18 hwn a hwn.y cyfryw un, a dywedwch wrtho, Y mae’r Athro yn dywedyd, Fy amser sydd agos: gyda thi y cynhaliaf y pasg, mi a’m disgyblion. 19A’r disgyblion a wnaethant y modd y gorchmynasai’r Iesu iddynt, ac a baratoesant y pasg. 20#Marc 14:17 &c; Luc 22:14; Ioan 13:21Ac wedi ei myned hi yn hwyr, efe a eisteddodd gyda’r deuddeg. 21Ac fel yr oeddynt yn bwyta, efe a ddywedodd, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, #26:21 Neu, y bradycha un ohonoch fi.mai un ohonoch chwi a’m bradycha i. 22A hwythau yn drist iawn, a ddechreuasant ddywedyd wrtho, bob un ohonynt, Ai myfi yw, Arglwydd? 23Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, #Salm 41:9Yr hwn a wlych ei law gyda mi yn y ddysgl, hwnnw a’m bradycha i. 24Mab y dyn yn ddiau sydd yn myned, fel y mae yn ysgrifenedig amdano: eithr gwae’r dyn hwnnw trwy’r hwn y bradychir Mab y dyn! da fuasai i’r dyn hwnnw pe nas ganesid ef. 25A Jwdas, yr hwn a’i bradychodd ef, a atebodd ac a ddywedodd, Ai myfi yw efe, Athro? Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist.
26 #
Marc 14:22; Luc 22:19 Ac fel yr oeddynt yn bwyta, #1 Cor 11:23, 24yr Iesu a gymerth y bara, ac wedi iddo #26:26 Neu, ddiolch.fendithio, efe a’i torrodd, ac a’i rhoddodd i’r disgyblion, ac a ddywedodd, Cymerwch, bwytewch: hwn yw fy nghorff. 27Ac wedi iddo gymryd y cwpan, a diolch, efe a’i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Yfwch bawb o hwn: 28Canys hwn yw fy ngwaed #Edrych Exod 24:8; Jer 31:31o’r testament newydd, yr hwn a dywelltir #Pen 20:28; Rhuf 5:15dros lawer, er maddeuant pechodau. 29Ac #Luc 22:18yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o hyn allan o ffrwyth hwn y winwydden, hyd y dydd hwnnw pan yfwyf ef gyda chwi yn newydd yn nheyrnas fy Nhad. 30Ac wedi iddynt ganu #26:30 Neu, mawl, neu, salm.hymn, hwy a aethant allan i fynydd yr Olewydd. 31Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, #Marc 14:27; Ioan 16:32Chwychwi oll #Pen 11:6a rwystrir heno o’m plegid i: canys ysgrifenedig yw, #Sech 13:7Trawaf y bugail, a defaid y praidd a wasgerir. 32Eithr wedi fy atgyfodi, #Pen 28:7, 10, 16; Marc 14:28; 16:7mi a af o’ch blaen chwi i Galilea. 33A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Pe rhwystrid pawb o’th blegid di, eto ni’m rhwystrir i byth. 34Yr Iesu a ddywedodd wrtho, #Ioan 13:38Yn wir yr wyf yn dywedyd i ti, mai’r nos hon, cyn canu o’r ceiliog, y’m gwedi deirgwaith. 35Pedr a ddywedodd wrtho, Pe gorfyddai imi farw gyda thi, ni’th wadaf ddim. Yr un modd hefyd y dywedodd yr holl ddisgyblion.
36 #
Marc 14:32; Luc 22:39; Ioan 18:1 Yna y daeth yr Iesu gyda hwynt i fan a elwid Gethsemane, ac a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Eisteddwch yma, tra elwyf a gweddïo acw. 37Ac efe a gymerth Pedr, a #Pen 4:21dau fab Sebedeus, ac a ddechreuodd dristáu ac #Ioan 12:27ymofidio. 38Yna efe a ddywedodd wrthynt, Trist iawn yw fy enaid hyd angau: arhoswch yma, a gwyliwch gyda mi. 39Ac wedi iddo fyned ychydig ymlaen, efe a syrthiodd ar ei wyneb, #Heb 5:7gan weddïo, a dywedyd, #Ioan 12:27Fy Nhad, os yw bosibl, aed #Pen 20:22y cwpan hwn heibio oddi wrthyf: eto nid fel yr ydwyf fi yn ewyllysio, ond fel yr ydwyt ti. 40Ac efe a ddaeth at y disgyblion, ac a’u cafodd hwy yn cysgu; ac a ddywedodd wrth Pedr, Felly; oni allech chwi wylied un awr gyda mi? 41Gwyliwch a gweddïwch, fel nad eloch i brofedigaeth. Yr ysbryd yn ddiau sydd yn barod, eithr y cnawd sydd wan. 42Efe a aeth drachefn yr ail waith, ac a weddïodd, gan ddywedyd, Fy Nhad, onis gall y cwpan hwn fyned heibio oddi wrthyf, na byddo i mi yfed ohono, gwneler dy ewyllys di. 43Ac efe a ddaeth, ac a’u cafodd hwy yn cysgu drachefn: canys yr oedd eu llygaid hwy wedi trymhau. 44Ac efe a’u gadawodd hwynt, ac a aeth ymaith drachefn, ac a weddïodd y drydedd waith, gan ddywedyd yr un geiriau. 45Yna y daeth efe at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd wrthynt, Cysgwch bellach, a gorffwyswch: wele, y mae’r awr wedi nesáu, a Mab y dyn a draddodir i ddwylo pechaduriaid. 46Codwch, awn: wele, nesaodd yr hwn sydd yn fy mradychu.
47Ac #Marc 14:43; Luc 22:47; Ioan 18:3efe eto yn llefaru, wele, Jwdas, un o’r deuddeg, a ddaeth, a chydag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn, oddi wrth yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl. 48A’r hwn a’i bradychodd ef a roesai arwydd iddynt, gan ddywedyd, Pa un bynnag a gusanwyf, hwnnw yw efe: deliwch ef. 49Ac yn ebrwydd y daeth at yr Iesu, ac a ddywedodd, Henffych well, Athro; ac a’i cusanodd ef. 50A’r Iesu a ddywedodd wrtho. Y cyfaill, i ba beth y daethost? Yna y daethant, ac y rhoesant ddwylo ar yr Iesu, ac a’i daliasant ef. 51Ac wele, #Ioan 18:10un o’r rhai oedd gyda’r Iesu, a estynnodd ei law, ac a dynnodd ei gleddyf, ac a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ei glust ef. 52Yna y dywedodd yr Iesu wrtho, Dychwel dy gleddyf i’w le: #Gen 9:6; Dat 13:10canys pawb a’r a gymerant gleddyf, a ddifethir â chleddyf. 53A ydwyt ti yn tybied nas gallaf yr awr hon ddeisyf ar fy Nhad, ac efe a rydd yn y fan i mi fwy na deuddeg lleng o angylion? 54Pa fodd ynteu y cyflawnid #Esa 53:7 &c; Luc 24:25, 44, 46yr ysgrythurau, mai felly y gorfydd bod? 55Yn yr awr honno y dywedodd yr Iesu wrth y torfeydd, Ai megis at leidr y daethoch chwi allan, â chleddyfau a ffyn i’m dal i? yr oeddwn i beunydd gyda chwi yn eistedd yn dysgu yn y deml, ac ni’m daliasoch. 56A hyn oll a wnaethpwyd, #Galar 4:20fel y cyflawnid ysgrythurau’r proffwydi. #Ioan 18:15Yna yr holl ddisgyblion a’i gadawsant ef, ac a ffoesant.
57 #
Marc 14:53; Luc 22:54; Ioan 18:12, 13, 24 A’r rhai a ddaliasent yr Iesu, a’i dygasant ef ymaith at Caiaffas yr archoffeiriad, lle yr oedd yr ysgrifenyddion a’r henuriaid wedi ymgasglu ynghyd. 58A Phedr a’i canlynodd ef o hirbell, hyd yn llys yr archoffeiriad; ac a aeth i mewn, ac a eisteddodd gyda’r gweision, i weled y diwedd. 59A’r archoffeiriaid a’r henuriaid, a’r holl gyngor, a geisiasant gau dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth; 60Ac nis cawsant: ie, er dyfod yno gau dystion lawer, ni chawsant. Eithr o’r diwedd fe a ddaeth dau gau dyst, 61Ac ddywedasant, Hwn a ddywedodd, #Pen 27:40; Ioan 2:19Mi a allaf ddinistrio teml Dduw, a’i hadeiladu mewn tri diwrnod. 62#Marc 14:60A chyfododd yr archoffeiriad, ac a ddywedodd wrtho, A atebi di ddim? beth y mae’r rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn? 63Ond #Esa 53:7; Pen 27:12, 14yr Iesu a dawodd. A’r archoffeiriad gan ateb a ddywedodd wrtho, Yr ydwyf yn dy dynghedu di trwy’r Duw byw, ddywedyd ohonot i ni, #26:63 os.ai tydi yw y Crist, Mab Duw. 64Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist: eithr meddaf i chwi, #Dan 7:13; Pen 16:27; 24:30; Rhuf 14:10; 1 Thess 4:16; Dat 1:7Ar ôl hyn y gwelwch Fab y dyn #Salm 110:1yn eistedd ar ddeheulaw’r gallu, ac yn dyfod ar gymylau’r nef. 65Yna y rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad, gan ddywedyd, Efe a gablodd: pa raid inni #26:65 eto.mwy wrth dystion? wele, yr awron clywsoch ei gabledd ef. 66Beth dybygwch chwi? Hwythau gan ateb a ddywedasant, #Lef 24:16Y mae efe yn euog o farwolaeth. 67#Esa 50:6; Pen 27:30Yna y poerasant yn ei wyneb, ac a’i cernodiasant; #Ioan 19:3eraill a’i trawsant ef â #26:67 chledrau eu dwylo.gwiail, 68Gan ddywedyd, #Marc 14:65; Luc 22:64Proffwyda i ni, O Grist, pwy yw’r hwn a’th drawodd?
69A #Marc 14:66; Luc 22:55; Ioan 18:16, 25Phedr oedd yn eistedd allan yn y llys: a daeth morwynig ato, ac a ddywedodd, A thithau oeddit gydag Iesu y Galilead. 70Ac efe a wadodd ger eu bron hwy oll, ac a ddywedodd, Nis gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd. 71A phan aeth efe allan i’r porth, gwelodd un arall ef; a hi a ddywedodd wrth y rhai oedd yno, Yr oedd hwn hefyd gyda’r Iesu o Nasareth. 72A thrachefn efe a wadodd trwy lw, Nid adwaen i y dyn. 73Ac ychydig wedi, daeth y rhai oedd yn sefyll gerllaw, ac a ddywedasant wrth Pedr, Yn wir yr wyt tithau yn un ohonynt; canys y mae #Luc 22:59dy leferydd yn dy gyhuddo. 74Yna y dechreuodd efe regi a thyngu, Nid adwaen i y dyn. Ac yn y man y canodd y ceiliog. 75A chofiodd Pedr air yr Iesu, yr hwn a ddywedasai wrtho, #Ad. 34; Marc 14:30; Ioan 13:38Cyn canu o’r ceiliog, ti a’m gwedi deirgwaith. Ac efe a aeth allan, ac a wylodd #26:75 yn dost.yn chwerw‐dost.
Currently Selected:
Mathew 26: BWM1955C
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society