Mathew 25
25
A.D. 33. —
1 Dameg y deg morwyn, 14 a’r talentau; 31 a dull y farn ddiwethaf.
1Yna tebyg fydd teyrnas nefoedd i ddeg o forynion, y rhai a gymerasant eu lampau, ac a aethant allan i gyfarfod â’r priodfab. 2A phump ohonynt oedd gall, a phump yn ffôl. 3Y rhai oedd ffôl a gymerasant eu lampau, ac ni chymerasant olew gyda hwynt: 4A’r rhai call a gymerasant olew yn eu llestri gyda’u lampau. 5A thra oedd y priodfab yn aros yn hir, yr hepiasant oll ac yr hunasant. 6Ac ar hanner nos y bu gwaedd, Wele, y mae’r priodfab yn dyfod; ewch allan i gyfarfod ag ef. 7Yna y cyfododd yr holl forynion hynny, ac a drwsiasant eu lampau. 8A’r rhai ffôl a ddywedasant wrth y rhai call, Rhoddwch i ni o’ch olew chwi: canys y mae ein lampau #25:8 wedi diffoddi.yn diffoddi. 9A’r rhai call a atebasant, gan ddywedyd, Nid felly; rhag na byddo digon i ni ac i chwithau: ond ewch yn hytrach at y rhai sydd yn gwerthu, a phrynwch i chwi eich hunain. 10A thra oeddynt yn myned ymaith i brynu, daeth y priodfab; a’r rhai oedd barod, a aethant i mewn gydag ef i’r briodas: #Luc 13:25a chaewyd y drws. 11Wedi hynny y daeth y morynion eraill hefyd, gan ddywedyd, Arglwydd, Arglwydd, agor i ni. 12Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, #Pen 7:21, 22, 23Nid adwaen chwi. 13#Pen 24:42; Marc 13:33; Luc 21:36; 1 Cor 16:18; 1 Thess 5:6; 1 Pedr 5:8; Dat 16:15Gwyliwch gan hynny; am na wyddoch na’r dydd na’r awr y daw Mab y dyn.
14 #
Luc 19:12
Canys y mae teyrnas nefoedd #Pen 21:33fel dyn yn myned i wlad ddieithr, yr hwn a alwodd ei weision, ac a roddes ei dda atynt. 15Ac i un y rhoddodd efe bum talent, ac i arall ddwy, ac i arall un, i bob un yn ôl ei allu ei hun; ac yn y fan efe a aeth oddi cartref. 16A’r hwn a dderbyniasai’r pum talent a aeth, ac a farchnataodd â hwynt, ac a wnaeth bum talent eraill. 17A’r un modd yr hwn a dderbyniasai’r ddwy, a enillodd yntau ddwy eraill. 18Ond yr hwn a dderbyniasai un, a aeth, ac a gloddiodd yn y ddaear, ac a guddiodd arian ei arglwydd. 19Ac wedi llawer o amser, y mae arglwydd y gweision hynny yn dyfod, ac yn cyfrif â hwynt. 20A daeth yr hwn a dderbyniasai bum talent, ac a ddug bum talent eraill, gan ddywedyd, Arglwydd, pum talent a roddaist ataf: wele, mi a enillais bum talent eraill atynt. 21A dywedodd ei arglwydd wrtho, Da, was da a ffyddlon: buost ffyddlon ar ychydig, #Pen 24:47; Luc 22:29, 30mi a’th osodaf ar lawer: dos i mewn i #Heb 12:2lawenydd dy arglwydd. 22A’r hwn a dderbyniasai ddwy dalent a ddaeth, ac a ddywedodd, Arglwydd, dwy dalent a roddaist ataf: wele, dwy eraill a enillais atynt. 23Ei arglwydd a ddywedodd wrtho, #Ad. 21Da, was da a ffyddlon: buost ffyddlon ar ychydig, mi a’th osodaf ar lawer: dos i mewn i lawenydd dy arglwydd. 24A’r hwn a dderbyniasai’r un dalent a ddaeth, ac a ddywedodd, Arglwydd, mi a’th adwaenwn di, mai gŵr caled ydwyt, yn medi lle nis heuaist, ac yn casglu lle ni wasgeraist: 25A mi a ofnais, ac a euthum, ac a guddiais dy dalent yn y ddaear: wele, yr wyt yn cael yr eiddot dy hun. 26A’i arglwydd a atebodd ac a ddywedodd wrtho, O was drwg a diog, ti a wyddit fy mod yn medi lle nis heuais, ac yn casglu lle nis gwasgerais: 27Am hynny y dylesit ti roddi fy arian at y cyfnewidwyr; a mi, pan ddaethwn, a gawswn dderbyn yr eiddof fy hun gyda llog. 28Cymerwch gan hynny y dalent oddi wrtho, a rhoddwch i’r hwn sydd ganddo ddeg talent. 29#Pen 13:12; Marc 4:25; Luc 8:18; 19:26Canys i bob un y mae ganddo y rhoddir, ac efe a gaiff helaethrwydd; ac oddi ar yr hwn nid oes ganddo y dygir oddi arno, ie, yr hyn sydd ganddo. 30A bwriwch allan y gwas anfuddiol #Pen 8:12; 24:51i’r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.
31 #
Sech 14:5; Pen 16:27; 1 Thess 4:16; 2 Thess 1:7; Jwdas 14; Dat 1:7A Mab y dyn, pan ddêl yn ei ogoniant, a’r holl angylion sanctaidd gydag ef, yna yr eistedd ar orseddfainc ei ogoniant. 32A #Rhuf 14:10; 2 Cor 5:10chydgesglir ger ei fron ef yr holl genhedloedd: ac #Esec 20:38; 34:17, 20; Pen 13:49efe a’u didola hwynt oddi wrth ei gilydd, megis y didola’r bugail y defaid oddi wrth y geifr: 33Ac a esyd y defaid ar ei ddeheulaw, ond y geifr ar yr aswy. 34Yna y dywed y Brenin wrth y rhai ar ei ddeheulaw, Deuwch, chwi fendigedigion fy Nhad, etifeddwch y deyrnas #Pen 20:23; Marc 10:40a baratowyd i chwi er seiliad y byd. 35#Esa 58:7; Esec 18:7; Iago 1:27Canys bûm newynog, a chwi a roesoch imi fwyd: bu arnaf syched, a rhoesoch imi ddiod: #Heb 13:2bûm ddieithr, a dygasoch fi gyda chwi: 36#Iago 2:15, 16Noeth, a dilladasoch fi: bûm glaf, ac ymwelsoch â mi: #2 Tim 1:16bûm yng ngharchar, a daethoch ataf. 37Yna yr etyb y rhai cyfiawn iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, pa bryd y’th welsom yn newynog, ac y’th borthasom? neu yn sychedig, ac y rhoesom iti ddiod? 38A pha bryd y’th welsom yn ddieithr, ac y’th ddygasom gyda ni? neu yn noeth, ac y’th ddilladasom? 39A pha bryd y’th welsom yn glaf, neu yng ngharchar, ac y daethom atat? 40A’r Brenin a etyb, ac a ddywed wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, #Diar 19:17; Pen 10:42; Heb 6:10Yn gymaint â’i wneuthur ohonoch i un o’r rhai hyn fy mrodyr lleiaf, i mi y gwnaethoch. 41Yna y dywed efe hefyd wrth y rhai a fyddant ar y llaw aswy, #Salm 6:8; Pen 7:23; Luc 13:27Ewch oddi wrthyf, rai melltigedig, #Pen 13:40i’r tân tragwyddol, yr hwn a baratowyd i ddiafol ac i’w angylion. 42Canys bûm newynog, ac ni roesoch i mi fwyd: bu arnaf syched, ac ni roesoch i mi ddiod: 43Bûm ddieithr, ac ni’m dygasoch gyda chwi: noeth, ac ni’m dilladasoch: yn glaf ac yng ngharchar, ac nid ymwelsoch â mi. 44Yna yr atebant hwythau hefyd iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, pa bryd y’th welsom yn newynog, neu yn sychedig, neu yn ddieithr, neu yn noeth, neu yn glaf, neu yng ngharchar, ac ni weiniasom iti? 45Yna yr etyb efe iddynt, gan ddywedyd, Yn wir meddaf i chwi, #Diar 14:31; 17:5; Sech 2:8Yn gymaint ag nas gwnaethoch i’r un o’r rhai lleiaf hyn, nis gwnaethoch i minnau. 46A’r #Dan 12:2; Ioan 5:29rhai hyn a ânt i gosbedigaeth dragwyddol: ond y rhai cyfiawn i fywyd tragwyddol.
Currently Selected:
Mathew 25: BWM1955C
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society