Mathew 24
24
A.D. 31. —
1 Crist yn rhagfynegi dinistr y deml: 3 pa fath a pha faint o gystuddiau a fydd. 29 Arwyddion ei ddyfodiad ef i farn. 36 Ac o ran bod y dydd a’r awr yn anhysbys, 42 y dylem ni wylied fel gweision da, yn disgwyl bob amser am ddyfodiad ein meistr.
1A’r #Marc 13:1; Luc 21:5Iesu a aeth allan, ac a ymadawodd o’r deml: a’i ddisgyblion a ddaethant ato, i ddangos iddo adeiladau’r deml. 2A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Oni welwch chwi hyn oll? Yn wir meddaf i chwi, #Micha 3:12; Luc 19:44Ni adewir yma garreg ar garreg, a’r ni ddatodir.
3Ac efe yn eistedd ar fynydd yr Olewydd, y disgyblion a ddaethant ato o’r neilltu, gan ddywedyd, Mynega i ni, pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd o’th ddyfodiad, ac o ddiwedd y byd? 4A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, #Eff 5:6; Col 2:8, 18; 2 Thess 2:3; 1 Ioan 4:1Edrychwch rhag i neb eich twyllo chwi. 5Canys #Jer 14:14; 23:25; Ioan 5:43daw llawer yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; ac a dwyllant lawer. 6A chwi a gewch glywed am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd: gwelwch na chyffroer chwi: canys rhaid yw bod hyn oll; eithr nid yw’r diwedd eto. 7Canys #2 Cron 15:6; Hag 2:22; Sech 14:13cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: ac fe fydd newyn, a nodau, a daeargrynfâu mewn mannau. 8A dechreuad gofidiau yw hyn oll. 9#Pen 10:17; Marc 13:9; Luc 21:12; Ioan 15:20; 16:2; Dat 2:10Yna y’ch traddodant chwi i’ch gorthrymu, ac a’ch lladdant: a chwi a gaseir gan yr holl genhedloedd er mwyn fy enw i. 10Ac yna y rhwystrir llawer, ac y bradychant ei gilydd, ac y casânt ei gilydd. 11#2 Pedr 2:1A gau broffwydi lawer a godant, ac a dwyllant lawer. 12Ac oherwydd yr amlha anwiredd, fe a oera cariad llawer. 13Eithr #Pen 10:22; Marc 13:13; Heb 3:6, 14y neb a barhao hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwedig. 14A’r #Pen 4:23; 9:35efengyl hon am y deyrnas #Rhuf 10:18; Col 1:6a bregethir trwy’r holl fyd, er tystiolaeth i’r holl genhedloedd: ac yna y daw’r diwedd. 15#Marc 13:14; Luc 21:20Am hynny pan weloch y ffieidd‐dra anghyfanheddol, a ddywedwyd trwy #Dan 9:27; 12:11Daniel y proffwyd, yn sefyll yn y lle sanctaidd, (y neb a ddarlleno, ystyried;) 16Yna y rhai a fyddant yn Jwdea, ffoant i’r mynyddoedd. 17Y neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddisgynned i gymryd dim allan o’i dŷ: 18A’r hwn a fyddo yn y maes, na ddychweled yn ei ôl i gymryd ei ddillad. 19A gwae’r rhai beichiogion, a’r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny. 20Eithr gweddïwch na byddo eich fföedigaeth yn y gaeaf, nac ar y dydd Saboth: 21Canys #Dan 9:26; 12:1y pryd hwnnw y bydd gorthrymder mawr, y fath ni bu o ddechrau’r byd hyd yr awr hon, ac ni bydd chwaith. 22Ac oni bai fyrhau’r dyddiau hynny, ni fuasai gadwedig un cnawd oll: eithr er mwyn yr etholedigion fe fyrheir y dyddiau hynny. 23#Marc 13:21; Luc 17:23; 21:8Yna os dywed neb wrthych, Wele, #24:23 dyma Grist, neu, dyna.llyma Grist, neu llyma; na chredwch. 24Canys #Deut 13:1; 2 Thess 2:9, 10, 11; Dat 13:13cyfyd gau Gristiau, a gau broffwydi, ac a roddant arwyddion mawrion a rhyfeddodau, hyd oni thwyllant, #Ioan 6:37; 10:28, 29; Rhuf 8:28, 29, 30; 2 Tim 2:19pe byddai bosibl, ie, yr etholedigion. 25Wele, rhagddywedais i chwi. 26Am hynny, os dywedant wrthych, Wele, y mae efe yn y diffeithwch; nac ewch allan: wele, yn yr ystafelloedd; na chredwch. 27Oblegid fel y daw’r fellten o’r dwyrain, ac y tywynna hyd y gorllewin; felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn. 28#Job 39:30; Luc 17:37Canys pa le bynnag y byddo’r gelain, yno yr ymgasgl yr eryrod.
29Ac yn y fan wedi gorthrymder y dyddiau hynny, #Esa 13:10; Esec 32:7; Joel 2:10, 31; 3:15; Marc 13:24; Luc 21:25; Act 2:20; Dat 6:12y tywyllir yr haul, a’r lleuad ni rydd ei goleuni, a’r sêr a syrth o’r nef, a nerthoedd y nefoedd a ysgydwir. 30Ac yna yr ymddengys arwydd Mab y dyn yn y nef: ac yna y galara holl lwythau y ddaear; a #Dat 1:7hwy a welant Fab y dyn yn dyfod ar gymylau y nef, gyda nerth a gogoniant mawr. 31Ac #Pen 13:41; 1 Cor 15:52; 1 Thess 4:16efe a ddenfyn ei angylion #24:31 Neu, ag utgorn a sain mawr.â mawr sain utgorn; a hwy a gasglant ei etholedigion ef ynghyd o’r pedwar gwynt, o eithafoedd y nefoedd hyd eu heithafoedd hwynt. 32Ond dysgwch #Luc 21:29ddameg oddi wrth y ffigysbren; Pan yw ei gangen eisoes yn dyner, a’i ddail yn torri allan, chwi a wyddoch fod yr haf yn agos: 33Ac felly chwithau, pan weloch hyn oll, gwybyddwch #Iago 5:9ei fod yn agos wrth y drysau. 34Yn wir meddaf i chwi, Nid â’r genhedlaeth hon heibio, hyd oni wneler hyn oll. 35#Salm 102:26; Esa 51:6; Pen 5:18; Marc 13:31; Heb 1:11Nef a daear a ânt heibio, eithr fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.
36Ond am y dydd hwnnw a’r awr nis gŵyr neb, nac angylion y nefoedd, #Sech 14:7; Marc 13:32ond fy Nhad yn unig. 37Ac fel yr oedd dyddiau Noe, felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn. 38#Gen 6:3, 4, 5; 7:5; Luc 17:26; 2 Pedr 3:10Oblegid fel yr oeddynt yn y dyddiau ymlaen y dilyw yn bwyta ac yn yfed, yn priodi ac yn rhoi i briodas, hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i’r arch, 39Ac ni wybuant hyd oni ddaeth y dilyw, a’u cymryd hwy oll ymaith; felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn. 40#Luc 17:34 &cYna y bydd dau yn y maes: y naill a gymerir, a’r llall a adewir. 41Dwy a fydd yn malu mewn melin; un a gymerir, a’r llall a adewir.
42 #
Pen 25:13
; Marc 13:33 &c; Luc 21:36Gwyliwch gan hynny; am na wyddoch pa awr y daw eich Arglwydd. 43A #Luc 12:39; 1 Thess 5:2; 2 Pedr 3:10; Dat 3:3; 16:15gwybyddwch hyn, pe gwybuasai gŵr y tŷ pa wyliadwriaeth y deuai’r lleidr, efe a wyliasai, ac ni adawsai gloddio ei dŷ trwodd. 44Am hynny byddwch chwithau barod: canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y dyn. 45#Luc 12:42Pwy gan hynny sydd was ffyddlon a doeth, yr hwn a osododd ei arglwydd ar ei deulu, i roddi bwyd iddynt mewn pryd? 46#Dat 16:15Gwyn ei fyd y gwas hwnnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef, pan ddelo, yn gwneuthur felly. 47Yn wir meddaf i chwi, #Pen 25:21, 23Ar ei holl dda y gesyd efe ef. 48Ond os dywed y gwas drwg hwnnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod; 49A dechrau curo ei gyd‐weision, a bwyta ac yfed gyda’r meddwon; 50Arglwydd y gwas hwnnw a ddaw yn y dydd nid yw efe yn disgwyl amdano, ac mewn awr nis gŵyr efe; 51Ac efe a’i gwahana ef, ac a esyd ei ran ef gyda’r rhagrithwyr: #Pen 8:12; 25:30yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.
Currently Selected:
Mathew 24: BWM1955C
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society