Mathew 23
23
A.D. 33. —
1 Crist yn rhybuddio y bobl i ddilyn athrawiaeth dda, ac nid esiamplau drwg yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid. 5 Rhaid i ddisgyblion Crist ochelyd eu rhyfyg hwy. 13 Mae efe yn cyhoeddi wyth wae yn erbyn eu rhagrith a’u dallineb hwy; 34 ac yn proffwydo dinistr Jerwsalem.
1Yna y llefarodd yr Iesu wrth y torfeydd a’i ddisgyblion, 2Gan ddywedyd, #Marc 12:38; Luc 20:46Yng nghadair Moses yr eistedd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid. 3Yr hyn oll gan hynny a ddywedant wrthych am eu cadw, cedwch a gwnewch; eithr yn ôl eu gweithredoedd na wnewch: canys #Rhuf 2:19dywedant, ac nis gwnânt. 4#Luc 11:46; Act 15:10; Gal 6:13Oblegid y maent yn rhwymo beichiau trymion ac anodd eu dwyn, ac yn eu gosod ar ysgwyddau dynion; ond nid ewyllysiant eu syflyd hwy ag un o’u bysedd. 5Ond #Pen 6:1, 2, 5, 16y maent yn gwneuthur eu holl weithredoedd er mwyn eu gweled gan ddynion: #Num 15:38; Deut 6:8; 22:12; Diar 3:3 canys y maent yn gwneuthur yn llydain eu phylacterau, ac yn gwneuthur ymylwaith eu gwisgoedd yn helaeth; 6A #Marc 12:38, 39; 3 Ioan 9charu y maent y lle uchaf mewn gwleddoedd, a’r prif gadeiriau yn y synagogau, 7A chyfarch yn y marchnadoedd, a’u galw gan ddynion, Rabbi, Rabbi. 8#Iago 3:1; 2 Cor 1:24; 1 Pedr 5:3Eithr na’ch galwer chwi Rabbi: canys un yw eich Athro chwi, sef Crist; a chwithau oll brodyr ydych. 9Ac na elwch neb yn dad i chwi ar y ddaear: #Mal 1:6canys un Tad sydd i chwi, yr hwn sydd yn y nefoedd. 10Ac na’ch galwer yn athrawon: canys un yw eich Athro chwi, sef Crist. 11#Pen 20:26, 27A’r mwyaf ohonoch a fydd yn weinidog i chwi. 12A #Diar 29:23; Luc 14:11; 18:14; Iago 4:6; 1 Pedr 5:5phwy bynnag a’i dyrchafo ei hun, a ostyngir; a phwy bynnag a’i gostyngo ei hun, a ddyrchefir.
13Eithr #Luc 11:52gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn cau teyrnas nefoedd o flaen dynion: canys chwi nid ydych yn myned i mewn, a’r rhai sydd yn myned i mewn nis gadewch i fyned i mewn. 14Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys #Marc 12:40; Luc 20:47; 2 Tim 3:6; Titus 1:11yr ydych yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, a hynny yn rhith hir weddïo: am hynny y derbyniwch farn fwy. 15Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys amgylchu yr ydych y môr a’r tir, i wneuthur un proselyt; ac wedi y gwneler, yr ydych yn ei wneuthur ef yn fab uffern, yn ddau mwy na chwi eich hunain. 16Gwae chwi, dywysogion #Pen 15:14deillion! y rhai ydych yn dywedyd, #Pen 5:33, 34Pwy bynnag a dwng i’r deml, nid yw ddim; ond pwy bynnag a dwng i aur y deml, y mae efe mewn dyled. 17Ffyliaid, a deillion: canys pa un sydd fwyaf, yr aur, ai y deml sydd yn sancteiddio’r aur? 18A phwy bynnag a dwng i’r allor, nid yw ddim; ond pwy bynnag a dyngo i’r rhodd sydd arni, y mae efe #23:18 yn rhwym.mewn dyled. 19Ffyliaid, a deillion: canys pa un fwyaf, y rhodd, ai’r #Exod 29:37allor sydd yn sancteiddio y rhodd? 20Pwy bynnag gan hynny a dwng i’r allor, sydd yn tyngu iddi, ac i’r hyn oll sydd arni. 21A phwy bynnag a dwng i’r deml, sydd yn tyngu iddi, ac #1 Bren 8:13; 2 Cron 6:2i’r hwn sydd yn preswylio ynddi. 22A’r hwn a dwng i’r nef, sydd yn tyngu i #Pen 5:34; Act 7:49orseddfainc Duw, ac i’r hwn sydd yn eistedd arni. 23Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! #Luc 11:42canys yr ydych yn degymu’r mintys, a’r anis, a’r cwmin, ac #1 Sam 15:22; Hos 6:6; Micha 6:8; Pen 9:13; 12:7a adawsoch heibio y pethau trymach o’r gyfraith, barn, a thrugaredd, a ffydd: rhaid oedd gwneuthur y pethau hyn, ac na adewid y lleill heibio. 24Tywysogion deillion, y rhai ydych yn hidlo gwybedyn, ac yn llyncu camel. 25Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! #Marc 7:4; Luc 11:39canys yr ydych yn glanhau’r tu allan i’r cwpan a’r ddysgl, ac o’r tu mewn y maent yn llawn o drawsedd ac anghymedroldeb. 26Ti Pharisead dall, glanha yn gyntaf yr hyn sydd oddi fewn i’r cwpan a’r ddysgl, fel y byddo yn lân hefyd yr hyn sydd oddi allan iddynt. 27#Luc 11:44Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys tebyg ydych chwi i feddau wedi eu gwynnu, y rhai sydd yn ymddangos yn deg oddi allan, ond oddi mewn sydd yn llawn o esgyrn y meirw, a phob aflendid. 28Ac felly chwithau oddi allan ydych yn ymddangos i ddynion yn gyfiawn, ond o fewn yr ydych yn llawn rhagrith ac anwiredd. 29#Luc 11:47Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn adeiladu beddau’r proffwydi, ac yn addurno beddau’r rhai cyfiawn; 30Ac yr ydych yn dywedyd, Pe buasem ni yn nyddiau ein tadau, ni buasem ni gyfranogion â hwynt yng ngwaed y proffwydi. 31Felly yr ydych yn tystiolaethu amdanoch eich hunain, #Act 7:51, 52; 1 Thess 2:15eich bod yn blant i’r rhai a laddasant y proffwydi. 32#Gen 15:6; 1 Thess 2:16Cyflawnwch chwithau hefyd fesur eich tadau. 33O seirff, #Pen 3:7; 12:34hiliogaeth gwiberod, pa fodd y gellwch ddianc rhag barn uffern?
34Am hynny, wele, yr ydwyf yn anfon atoch broffwydi, a doethion, ac ysgrifenyddion: #Act 5:40; 22:19a rhai ohonynt a leddwch, ac a groeshoeliwch; #Pen 10:17; 2 Cor 11:24, 25a rhai ohonynt a ffrewyllwch yn eich synagogau, ac a erlidiwch o dref i dref. 35Fel y delo arnoch chwi yr holl waed cyfiawn a’r a ollyngwyd ar y ddaear, #Gen 4:8o waed Abel gyfiawn hyd #2 Cron 24:20, 21waed Sachareias fab Baracheias, yr hwn a laddasoch rhwng y deml a’r allor. 36Yn wir meddaf i chwi, Daw hyn oll ar #23:36 yr oes hon.y genhedlaeth hon. 37#Luc 13:34Jerwsalem, Jerwsalem, yr hon wyt yn lladd y proffwydi, ac #2 Cron 24:21yn llabyddio’r rhai a ddanfonir atat, pa sawl gwaith y mynaswn gasglu dy blant ynghyd, megis y casgl iâr ei chywion #Salm 17:8; 91:4dan ei hadenydd, ac nis mynnech! 38Wele, yr ydys yn gadael eich tŷ i chwi yn anghyfannedd. 39Canys meddaf i chwi, Ni’m gwelwch ar ôl hyn, hyd oni ddywedoch, #Salm 118:26; Pen 21:9Bendigedig yw’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd.
Currently Selected:
Mathew 23: BWM1955C
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society