Mathew 22
22
A.D. 33. —
1 Dameg priodas mab y brenin. 9 Galwedigaeth y Cenhedloedd. 12 Cosbedigaeth yr hwn nid oedd ganddo wisg briodas. 15 Y dylid talu teyrnged i Cesar. 23 Crist yn gostegu y Sadwceaid ynghylch yr atgyfodiad: 34 yn ateb y cyfreithiwr, pa un yw y gorchymyn cyntaf, a’r mawr; 41 ac yn holi y Phariseaid ynghylch y Meseia.
1A’r Iesu a atebodd, #Luc 14:16; Dat 19:7, 9ac a lefarodd wrthynt drachefn mewn damhegion, gan ddywedyd, 2Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ryw frenin a wnaeth briodas i’w fab, 3Ac a ddanfonodd ei weision i alw y rhai a wahoddasid i’r briodas: ac ni fynnent hwy ddyfod. 4Trachefn, efe a anfonodd weision eraill, gan ddywedyd, Dywedwch wrth y rhai a wahoddwyd, Wele, paratoais fy nghinio: #Diar 9:2fy ychen a’m pasgedigion a laddwyd, a phob peth sydd barod: deuwch i’r briodas. 5A hwy yn ddiystyr ganddynt, a aethant ymaith, un i’w faes, ac arall i’w fasnach: 6A’r lleill a ddaliasant ei weision ef, ac a’u hamharchasant, ac a’u lladdasant. 7A phan glybu’r brenin, efe a lidiodd; ac a ddanfonodd #Dan 9:26ei luoedd, ac a ddinistriodd y lleiddiaid hynny, ac a losgodd eu dinas hwynt. 8Yna efe a ddywedodd wrth ei weision, Yn wir y briodas sydd barod, ond y rhai a wahoddasid nid oeddynt deilwng. 9Ewch gan hynny #22:9 i bennau y ffyrdd.i’r priffyrdd, a chynifer ag a gaffoch, gwahoddwch i’r briodas. 10A’r gweision hynny a aethant allan i’r prif‐ffyrdd, ac #Pen 13:38, 47a gasglasant ynghyd gynifer oll ag a gawsant, drwg a da: a llanwyd y briodas o wahoddedigion.
11A phan ddaeth y brenin i mewn i weled y gwahoddedigion, efe a ganfu yno ddyn #2 Cor 5:3; Eff 4:24; Col 3:10, 12; Dat 3:4; 16:15; 19:8heb wisg priodas amdano: 12Ac efe a ddywedodd wrtho, Y cyfaill, pa fodd y daethost i mewn yma, heb fod gennyt wisg priodas? Ac yntau a aeth yn fud. 13Yna y dywedodd y brenin wrth y gweinidogion, Rhwymwch ei draed a’i ddwylo, a chymerwch ef ymaith, a theflwch #Pen 8:12i’r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd. 14#Pen 20:16Canys llawer sydd wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis.
15Yna #Marc 12:13; Luc 20:20yr aeth y Phariseaid, ac a gymerasant gyngor pa fodd y rhwydent ef yn ei ymadrodd. 16A hwy a ddanfonasant ato eu disgyblion ynghyd â’r Herodianiaid, gan ddywedyd, Athro, ni a wyddom dy fod yn eirwir, ac yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd, ac nad oes arnat ofal rhag neb: oblegid nid wyt ti yn edrych ar wyneb dynion. 17Dywed i ni gan hynny, Beth yr wyt ti yn ei dybied? Ai cyfreithlon rhoddi teyrnged i Gesar, ai nid yw? 18Ond yr Iesu a wybu eu drygioni hwy, ac a ddywedodd, Paham yr ydych yn fy nhemtio i, chwi ragrithwyr? 19Dangoswch i mi arian y deyrnged. A hwy a ddygasant ato geiniog: 20Ac efe a ddywedodd wrthynt, Eiddo pwy yw’r ddelw hon a’r argraff? 21Dywedasant wrtho, Eiddo Cesar. Yna y dywedodd wrthynt, #Pen 17:25; Rhuf 13:7Telwch chwithau yr eiddo Cesar i Gesar, a’r eiddo Duw i Dduw. 22A phan glywsant hwy hyn, rhyfeddu a wnaethant, a’i adael ef, a myned ymaith.
23 #
Marc 12:18; Luc 20:27 Y dydd hwnnw y daeth ato y Sadwceaid, #Act 23:8y rhai sydd yn dywedyd nad oes atgyfodiad, ac a ofynasant iddo, 24Gan ddywedyd, Athro, #Deut 25:5dywedodd Moses, Os bydd marw neb heb iddo blant, prioded ei frawd ei wraig ef, a chyfoded had i’w frawd. 25Ac yr oedd gyda ni saith o frodyr: a’r cyntaf a briododd wraig, ac a fu farw; ac efe heb hiliogaeth iddo, a adawodd ei wraig i’w frawd. 26Felly hefyd yr ail, a’r trydydd, hyd y #22:26 Gr. saith.seithfed. 27Ac yn ddiwethaf oll bu farw’r wraig hefyd. 28Yn yr atgyfodiad, gan hynny, gwraig i bwy o’r saith fydd hi? canys hwynt‐hwy oll a’i cawsant hi. 29A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr ydych yn cyfeiliorni, gan na wyddoch yr ysgrythurau, na gallu Duw. 30Oblegid yn yr atgyfodiad nid ydynt nac yn gwreica, nac yn gwra; eithr #1 Ioan 3:2y maent fel angylion Duw yn y nef. 31Ac am atgyfodiad y meirw, oni ddarllenasoch yr hyn a ddywedwyd wrthych gan Dduw, gan ddywedyd, 32#Exod 3:6, 16; Marc 12:26; Luc 20:37; Act 7:32; Heb 11:16Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob? Nid yw Duw Dduw y rhai meirw, ond y rhai byw. 33A phan glybu’r torfeydd hynny, #Pen 7:28hwy a synasant wrth ei athrawiaeth ef.
34 #
Marc 12:28
Ac wedi clywed o’r Phariseaid ddarfod i’r Iesu ostegu’r Sadwceaid, hwy a ymgynullasant ynghyd i’r un lle. 35Ac un ohonynt, yr hwn oedd gyfreithiwr, a ofynnodd iddo, gan ei demtio, a dywedyd, 36Athro, pa un yw’r gorchymyn mawr yn y gyfraith? 37A’r Iesu a ddywedodd wrtho, #Deut 6:5; 10:12; 30:6; Luc 10:27Ceri yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl feddwl. 38Hwn yw’r cyntaf, a’r gorchymyn mawr. 39A’r ail sydd gyffelyb iddo; #Lef 19:18; Marc 12:31; Rhuf 13:9; Gal 5:14; Iago 2:8Câr dy gymydog fel ti dy hun. 40#Pen 7:12Ar y ddau orchymyn hyn y mae’r holl gyfraith a’r proffwydi yn sefyll.
41Ac #Marc 12:35; Luc 20:41wedi ymgasglu o’r Phariseaid ynghyd, yr Iesu a ofynnodd iddynt, 42Gan ddywedyd, Beth a dybygwch chwi am Grist? mab i bwy ydyw? Dywedent wrtho, Mab Dafydd. 43Dywedai yntau wrthynt, Pa fodd gan hynny y mae Dafydd yn yr ysbryd yn ei alw ef yn Arglwydd, gan ddywedyd, 44#Salm 110:1; Act 2:34; 1 Cor 15:25; Heb 1:13; 10:12, 13Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed di? 45Os yw Dafydd gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd, pa fodd y mae efe yn fab iddo? 46Ac ni allodd neb ateb gair iddo, ac ni feiddiodd neb o’r dydd hwnnw allan ymofyn ag ef mwyach.
Currently Selected:
Mathew 22: BWM1955C
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society