YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 28

28
A.D. 33. —
1 Dangos atgyfodiad Crist i’r gwragedd gan angel. 9 Crist ei hun yn ymddangos iddynt. 11 Yr archoffeiriaid yn rhoddi arian i’r milwyr, i ddywedyd ddarfod ei ladrata ef allan o’r bedd. 16 Crist yn ymddangos i’w ddisgyblion, 19 yn eu hanfon i fedyddio, ac i ddysgu yr holl genhedloedd.
1Ac yn #Marc 16:1; Luc 24:1; Ioan 20:1niwedd y Saboth, a hi yn dyddhau i’r dydd cyntaf o’r #28:1 Sabothau.wythnos, daeth Mair Magdalen, a’r Fair arall, i edrych y bedd. 2Ac wele, #28:2 Neu, buasai.bu daeargryn mawr: canys disgynnodd angel yr Arglwydd o’r nef, ac a ddaeth, ac a dreiglodd y maen oddi wrth y drws, ac a eisteddodd arno. 3A’i wynepryd oedd fel mellten, a’i wisg yn wen fel eira. 4A rhag ei ofn ef y crynodd y ceidwaid, ac a aethant megis yn feirw. 5A’r angel a atebodd ac a ddywedodd wrth y gwragedd, Nac ofnwch: canys mi a wn mai ceisio yr ydych yr Iesu, yr hwn a groeshoeliwyd. 6Nid yw efe yma: canys cyfododd, #Pen 12:40; 16:21; 17:23; 20:19megis y dywedodd. Deuwch, gwelwch y fan lle y gorweddodd yr Arglwydd. 7Ac ewch ar ffrwst, a dywedwch i’w ddisgyblion, gyfodi ohono o feirw. Ac wele, #Pen 26:32; Marc 16:7y mae efe yn myned o’ch blaen chwi i Galilea: yno gwelwch ef. Wele, dywedais i chwi. 8Ac wedi eu myned ymaith ar frys oddi wrth y bedd, gydag ofn a llawenydd mawr, rhedasant i fynegi i’w ddisgyblion ef.
9Ac fel yr oeddynt yn myned i fynegi i’w ddisgyblion ef, wele, #Marc 16:9; Ioan 20:14yr Iesu a gyfarfu â hwynt, gan ddywedyd, Henffych well. A hwy a ddaethant, ac a ymafaelasant yn ei draed ef, ac a’i haddolasant. 10Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, Nac ofnwch: #Ioan 20:17ewch, mynegwch i’m brodyr, fel yr elont i Galilea, ac yno y’m gwelant i.
11Ac wedi eu myned hwy, wele, rhai o’r wyliadwriaeth a ddaethant i’r ddinas, ac a fynegasant i’r archoffeiriaid yr hyn oll a wnaethid. 12Ac wedi iddynt ymgasglu ynghyd gyda’r henuriaid, a chydymgynghori, hwy a roesant #28:12 swm o arian.arian lawer i’r milwyr, 13Gan ddywedyd, Dywedwch, Ei ddisgyblion a ddaethant o hyd nos, ac a’i lladratasant ef, a nyni yn cysgu. 14Ac os clyw y rhaglaw hyn, ni #28:14 a barwn iddo goelio.a’i perswadiwn ef, ac a’ch gwnawn chwi yn ddiofal. 15A hwy a gymerasant yr arian, ac a wnaethant fel yr addysgwyd hwynt: #28:15 a chyhoeddwyd.a thaenwyd y gair hwn ymhlith yr Iddewon hyd y dydd heddiw.
16A’r un disgybl ar ddeg a aethant i Galilea, i’r mynydd #Pen 26:32lle yr ordeiniasai’r Iesu iddynt. 17A phan welsant ef, hwy a’i haddolasant ef: ond rhai a ameuasant. 18A’r Iesu a ddaeth, ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Rhoddwyd i mi #Pen 11:27; Luc 10:22; Ioan 3:35; 5:22; 17:2; Eff 1:21; Heb 1:2; 2:8bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear. 19#Marc 16:15Ewch gan hynny a #Act 2:38, 39#28:19 Neu, gwnewch ddisgyblion, neu, Gristonogion o’r holl, & c.dysgwch yr holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw’r Tad, a’r Mab, a’r Ysbryd Glân; 20#Act 2:42Gan ddysgu iddynt gadw pob peth a’r a orchmynnais i chwi. Ac wele, yr ydwyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd. Amen.

Currently Selected:

Mathew 28: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in