YouVersion Logo
Search Icon

Deuteronomium 15

15
1 Y seithfed flwyddyn yn flwyddyn gollyngdod i’r tlodion: 7 eto nas dylai rwystro benthycio neu roddi. 12 Gwas o Hebread, 16 oddi eithr iddo fod yn anfodlon i ymadael, sydd raid ei ollwng ymaith yn rhydd y seithfed flwyddyn; ond nid yn waglaw. 19 Rhaid yw cysegru pob gwryw cyntaf‐anedig o’r anifeiliaid i’r Arglwydd.
1Ymhen #Exod 21:2; 23:10; Lef 25:3, 4; Jer 34:14 pob saith mlynedd gwna ollyngdod. 2A dyma wedd y gollyngdod. Gollynged pob #15:2 Heb. meistr echwyn ei law.echwynnwr i’w gymydog yn rhydd ei echwyn a echwynnodd efe: na fynned hynny drachefn gan ei gymydog, neu ei frawd; canys cyhoeddwyd gollyngdod yr Arglwydd. 3#Edrych Pen 23:20Ti a elli fynnu drachefn gan y dieithr; ond gollynged dy law yn rhydd yr hyn sydd i ti gyda’th frawd: 4#15:4 Ond pan na byddo.Megis na byddo ohonot ti gardotyn: canys yr Arglwydd gan fendithio a’th fendithia di, yn y tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth i’w feddiannu; 5Yn unig os gan wrando y gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw a gwneuthur yr holl orchmynion yma, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw. 6Canys yr Arglwydd dy Dduw a’th fendithia, megis y llefarodd wrthyt, fel #Pen 28:12, 44y benthyciech i genhedloedd lawer, ac na fenthyciech di ganddynt; ti hefyd a arglwyddiaethi ar genhedloedd lawer, ac nid arglwyddiaethant hwy arnat ti.
7Os bydd yn dy fysg di un o’th frodyr yn dlawd o fewn un o’th byrth, yn dy dir yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, na chaleda dy galon, ac na chae dy law oddi wrth dy frawd tlawd: 8#Mat 5:42; Luc 6:34, 35Ond gan agoryd agor dy law iddo, a chan fenthycio benthycia ddigon i’w angen ef, yr hyn fyddo arno ei eisiau. 9Gwylia arnat, rhag bod yn dy galon #15:9 Heb. Belial.ddrwg #15:9 Heb. air.feddwl i ddywedyd, Agos yw’r seithfed flwyddyn, blwyddyn y gollyngdod; a bod dy #Pen 28:54, 56; Diar 23:6; 28:22; Mat 20:15lygad yn ddrwg yn erbyn dy frawd tlawd, rhag rhoddi iddo, a llefain ohono ef ar yr Arglwydd rhagot, a’i fod yn bechod i ti. 10Gan roddi dod iddo, ac na fydded drwg gan dy galon pan roddych iddo: canys o achos y peth hyn y’th fendithia yr Arglwydd dy Dduw yn dy holl waith, ac yn yr hyn oll y dodych dy law arno. 11Canys #Mat 26:11; Ioan 12:8ni dderfydd y tlawd o ganol y tir: am hynny yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti, gan ddywedyd, Gan agoryd agor dy law i’th frawd, i’th anghenus ac i’th dlawd, yn dy dir.
12 # Exod 21:2; Jer 34:14 Os gwerthir dy frawd, Hebread, neu Hebrees, i ti, a’th wasanaethu chwe blynedd; y seithfed flwyddyn gollwng ef yn rhydd oddi wrthyt. 13A phan ollyngech ef yn rhydd oddi wrthyt, na ollwng ef yn wag: 14Gan lwytho llwytha ef o’th braidd, ac o’th ysgubor, ac o’th winwryf: o’r hyn y’th fendithiodd yr Arglwydd dy Dduw, dod iddo. 15A chofia mai gwas fuost yn nhir yr Aifft, a’th waredu o’r Arglwydd dy Dduw: am hynny yn ydwyf yn gorchymyn y peth hyn i ti heddiw. 16Ond os dywed wrthyt, Nid af allan oddi wrthyt; am ei fod yn dy hoffi di a’th dŷ; oherwydd bod yn dda arno ef gyda thi: 17#Exod 21:6Yna cymer fynawyd, a dod trwy ei glust ef, ac yn y ddôr; a bydded yn was i ti byth: felly hefyd y gwnei i’th forwyn. 18Na fydded caled gennyt ei ollwng ef yn rhydd oddi wrthyt, canys gwasanaethodd di werth #Edrych Esa 16:14; 21:16dau gyflog gweinidog, chwe blynedd: a’r Arglwydd dy Dduw a’th fendithia yn yr hyn oll a wnelych.
19 # Exod 13:2; 34:19; Lef 27:26; Num 3:13 Pob cyntaf‐anedig yr hwn a enir o’th wartheg, neu o’th ddefaid, yn wryw, a gysegri di i’r Arglwydd dy Dduw: na weithia â chyntaf‐anedig dy ychen, ac na chneifia gyntaf‐anedig dy ddefaid. 20#Pen 12:7, 17; 14:23; 16:11, 14Gerbron yr Arglwydd dy Dduw y bwytei ef bob blwyddyn, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd, ti a’th deulu. 21#Lef 22:20; Pen 17:1Ond os bydd anaf arno, os cloff neu ddall fydd, neu arno ryw ddrwg anaf arall; nac abertha ef i’r Arglwydd dy Dduw. 22O fewn dy byrth y bwytei ef: #Pen 12:15yr aflan a’r glân ynghyd a’i bwyty, megis yr iwrch, ac megis y carw. 23#Pen 12:16, 23Eto na fwyta ei waed ef; tywallt hwnnw ar y ddaear fel dwfr.

Currently Selected:

Deuteronomium 15: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in