YouVersion Logo
Search Icon

Deuteronomium 16

16
1 Gŵyl y Pasg, 9 yr wythnosau, 13 y pebyll. 16 Rhaid i bob gwryw offrwm, yn ôl ei allu, ar y tair gŵyl hyn. 18 Am farnwyr a barn gyfiawn. 21 Gwahardd llwynau a delwau.
1Cadw #Exod 12:2 &cy mis Abib, a chadw Basg i’r Arglwydd dy Dduw: canys #Exod 13:4o fewn y mis Abib y dug yr Arglwydd dy Dduw di allan o’r Aifft, #Exod 12:29, 42o hyd nos. 2Abertha dithau yn Basg i’r Arglwydd dy Dduw, o ddefaid a #Num 28:19gwartheg, yn #Pen 12:5y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o’i enw ef yno. 3#Exod 12:15, 19; 34:18Na fwyta fara lefeinllyd gydag ef: saith niwrnod y bwytei gydag ef fara croyw, sef bara cystudd: (canys ar ffrwst y daethost allan o dir yr Aifft:) fel y cofiech ddydd dy ddyfodiad allan o dir yr Aifft holl ddyddiau dy einioes. 4#Exod 34:25Ac na weler gennyt surdoes yn dy holl derfynau saith niwrnod; ac #Exod 12:10nac arhoed dros nos hyd y bore ddim o’r cig a aberthaist yn yr hwyr, ar y dydd cyntaf. 5Ni elli #16:5 Neu, ladd.aberthu y Pasg o fewn yr un o’th byrth, y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti: 6Ond yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o’i enw ef ynddo; yno yr aberthi y Pasg yn yr hwyr, ar fachludiad haul, y pryd y daethost allan o’r Aifft. 7Yna y rhosti, ac y bwytei ef, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw: a’r bore y dychweli, ac yr ei i’th babellau. 8Chwe diwrnod y bwytei fara croyw: ac ar y seithfed dydd y mae #16:8 Heb. gwaharddiad.uchel ŵyl i’r Arglwydd dy Dduw; ni chei wneuthur gwaith ynddo.
9 # Exod 23:16; 34:22; Lef 23:15; Num 28:26 Cyfrif i ti saith wythnos: pan ddechreuo’r cryman ar yr ŷd, y dechreui rifo’r saith wythnos. 10A chadw ŵyl yr wythnosau i’r Arglwydd dy Dduw, ag offrwm gwirfodd dy law, yr hwn a roddi, megis y’th fendithio yr Arglwydd dy Dduw. 11A llawenycha gerbron yr Arglwydd dy Dduw, ti, a’th fab, a’th ferch, a’th was, a’th forwyn, a’r Lefiad a fyddo o fewn dy byrth, a’r dieithr, a’r amddifad, a’r weddw, sydd yn dy fysg, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o’i enw ef ynddo. 12Cofia hefyd mai caethwas fuost yn yr Aifft: a chadw a gwna y deddfau hyn.
13 # Exod 23:16; Lef 23:34; Num 29:12 Cadw i ti ŵyl y pebyll saith niwrnod, wedi i ti gasglu dy #16:13 Heb. lawr dyrnu, a’th winwryf.ŷd a’th win. 14A #Neh 8:9 &cllawenycha yn dy ŵyl, ti, a’th fab, a’th ferch, a’th was, a’th forwyn, a’r Lefiad, a’r dieithr, a’r amddifad, a’r weddw, y rhai fyddant o fewn dy byrth. 15Saith niwrnod y cedwi ŵyl i’r Arglwydd dy Dduw, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd: canys yr Arglwydd dy Dduw a’th fendithia yn dy holl gnwd, ac yn holl waith dy ddwylo; am hynny bydd dithau lawen.
16 # Exod 23:14, 17; 34:23 Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys pob gwryw ohonot o flaen yr Arglwydd dy Dduw, yn y lle a ddewiso efe; ar ŵyl y bara croyw, ac ar ŵyl yr wythnosau, ac ar ŵyl y pebyll: ond #Exod 23:15; 34:20nac ymddangosed neb o flaen yr Arglwydd yn waglaw. 17Pob un yn ôl rhodd ei law, yn ôl bendith yr Arglwydd dy Dduw yr hon a roddes efe i ti.
18 # 1 Cron 23:4; 26:29; 2 Cron 19:8 Gwna i ti farnwyr a blaenorion yn dy holl byrth, y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti trwy dy lwythau; a barnant hwy y bobl â barn gyfiawn. 19#Exod 23:2, 6; Lef 19:15; Diar 17:8, 23; Preg 7:7Na ŵyra farn, ac na chydnebydd wynebau; na dderbyn wobr chwaith: canys gwobr a ddalla lygaid y doethion, ac a ŵyra #16:19 Neu, achosion.eiriau y cyfiawn. 20Cyfiawnder, cyfiawnder a ddilyni; fel y byddych fyw, ac yr etifeddych y tir yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti.
21Na phlanna i ti lwyn o neb rhyw goed gerllaw allor yr Arglwydd dy Dduw, yr hon a wnei i ti. 22#Lef 26:1Ac na chyfod i ti #16:22 ddelw.golofn; yr hyn sydd gas gan yr Arglwydd dy Dduw.

Currently Selected:

Deuteronomium 16: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in