Deuteronomium 14
14
1 Na ddylai plant Duw eu hanffurfio eu hunain wrth alaru. 3 Pa beth a ellir, a pha beth nis gellir ei fwyta, 4 o anifeiliaid, 9 o bysgod, 11 o adar. 21 Ni ellir bwyta yr hyn a fo farw ei hun. 22 Degymau gwasanaeth Duw. 23 Y degymau a’r cyntaf‐anedig i ymlawenychu ger bron yr Arglwydd. 28 Degwm y drydedd flwyddyn yn elusen.
1Plant ydych chwi i’r Arglwydd eich Duw: #Lef 19:28; 21:5; Jer 16:6; 41:5; 47:5; 1 Thess 4:13na thorrwch mohonoch eich hunain, ac na wnewch foelni rhwng eich llygaid, dros y marw. 2#Pen 7:6; 26:18Canys pobl sanctaidd wyt ti i’r Arglwydd dy Dduw, a’r Arglwydd a’th ddewisodd di i fod yn bobl unig iddo ef, o’r holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear.
3Na fwyta ddim ffiaidd. 4#Lef 11:2 &cDyma’r anifeiliaid a fwytewch: eidion, llwdn dafad, a llwdn gafr, 5Y carw, a’r iwrch, a’r llwdn hydd, a’r bwch gwyllt, a’r #14:5 Heb. dishon.unicorn, a’r #14:5 bual.ych gwyllt, a’r afr wyllt. 6A phob anifail yn hollti’r ewin, ac yn fforchogi hollt y ddwy ewin, ac yn cnoi cil, ymysg yr anifeiliaid; hwnnw a fwytewch. 7Ond hyn ni fwytewch, o’r rhai a gnoant y cil, neu a holltant yr ewin yn fforchog: y camel, a’r ysgyfarnog, a’r gwningen: er bod y rhai hyn yn cnoi eu cil, am nad ydynt yn fforchogi’r ewin, aflan ydynt i chwi. 8Yr hwch hefyd, er ei bod yn fforchogi’r ewin, ac heb gnoi cil, aflan yw i chwi: na fwytewch o’u cig hwynt, ac #Lef 11:27na chyffyrddwch â’u burgyn hwynt.
9 #
Lef 11:9
Hyn a fwytewch o’r hyn oll sydd yn y dyfroedd: yr hyn oll sydd iddo esgyll a chen a fwytewch. 10A’r hyn oll nid oes iddo esgyll a chen, ni fwytewch: aflan yw i chwi.
11Pob aderyn glân a fwytewch. 12A dyma’r rhai ni fwytewch ohonynt: yr eryr, a’r wyddwalch, a’r fôr‐wennol, 13A’r bod, a’r barcud, a’r fwltur yn ei rhyw, 14A phob cigfran yn ei rhyw, 15A chyw yr estrys, a’r frân nos, a’r gog, a’r hebog yn ei ryw, 16Aderyn y cyrff, a’r dylluan, a’r gogfran, 17A’r pelican, a’r biogen, a’r fulfran, 18A’r ciconia, a’r crŷr yn ei ryw, a’r gornchwigl, a’r #Lef 11:19ystlum. 19A #Edrych Lef 11:21phob ymlusgiad asgellog sydd aflan i chwi: na fwytaer hwynt. 20Pob ehediad glân a fwytewch.
21Na fwytewch ddim a fo marw ei hun: dod ef i’r dieithr fyddo yn dy byrth, a bwytaed ef; neu gwerth ef i’r dieithr: canys pobl sanctaidd ydwyt i’r Arglwydd dy Dduw. #Exod 23:19; 34:26Na ferwa fyn yn llaeth ei fam. 22#Pen 12:6, 17Gan ddegymu degyma holl gynnyrch dy had, sef ffrwyth dy faes, bob blwyddyn. 23A bwyta gerbron yr Arglwydd dy Dduw, yn y lle a ddewiso efe i drigo o’i enw ef ynddo, #Pen 15:19, 20ddegwm dy ŷd, dy win, a’th olew, a chyntaf‐anedig dy wartheg, a’th ddefaid; fel y dysgech ofni yr Arglwydd dy Dduw bob amser. 24A phan fyddo y ffordd ry hir i ti, fel na ellych ei ddwyn ef, neu os y lle fydd ymhell oddi wrthyt, yr hwn a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i osod ei enw ynddo, pan y’th fendithio yr Arglwydd dy Dduw: 25Yna dod ei werth yn arian; a rhwym yr arian yn dy law, a dos i’r lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw: 26A dod yr arian am yr hyn oll a #14:26 Heb. of yno dy galon gennyt.chwenycho dy galon; am wartheg, neu am ddefaid, neu am win, neu am ddiod gref, neu am yr hyn oll a ddymuno dy galon: a bwyta yno gerbron yr Arglwydd dy Dduw, a llawenycha di, a’th deulu. 27A’r #Pen 12:19Lefiad yr hwn fyddo yn dy byrth, na wrthod ef: am #Num 18:20; Pen 18:1nad oes iddo na rhan nac etifeddiaeth gyda thi.
28 #
Pen 26:12
Ymhen tair blynedd y dygi allan holl ddegwm dy gnwd y flwyddyn honno: a dyro ef i gadw o fewn dy byrth. 29A’r Lefiad, (am #ad. 27nad oes iddo ran nac etifeddiaeth gyda thi,) a’r dieithr, a’r amddifad, a’r weddw, y rhai fydd yn dy byrth di, a ddeuant, ac a fwytânt, ac a ddigonir; fel #Edrych Mal 3:10y’th fendithio yr Arglwydd dy Dduw ym mhob gwaith a wnelych â’th law.
Currently Selected:
Deuteronomium 14: BWM1955C
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society