YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 17

17
Salm XVII.
Gweddi: eiddo Dafydd.
1Gwrando, Iehova, “fy” nghyfiawnder#17:1 Fy nghyfiawnder; felly y LXX. Arwydda, fy nghyfiannydd. Yr oedd yn dioddef cam. Tebyg mai ffoi yr oedd y pryd hyn o flaen Saul. Cyfeiriai at Dduw, yr hwn a gar ac a wna gyfiawnder. Er nad oes neb cyfiawn ger bron Duw; etto gallwn fod felly o ran pethau a osodir i’n herbyn gan elynion. Hyn oedd cyflwr y Salmydd. Yn yr ystyr hyn y mae i ni ddeall amryw fanau yn y Salmau, pan weddiir ar Dduw megys Duw cyfiawn. , ystyria fy ngwaedd;
Erglyw fy ngweddi o wefusau didwyll#17:1 didwyll, yn lythyrenol, nid o wefusau twyll. Gwirionedd a ddywedai, ac nid un peth anwir neu dwyllodrus. Dylid gofalu pan weddiom na ddywedom ddim ond y gwir, a’r hyn a fyddo yn dyfod o wraidd y galon. “Tota rhetoricae nostrae gratia coram Deo, mera est simplicitas.” — Holl addurn ein ffraethineb ger bron Duw, yw gwir symledd, neu ddidwylliant. Calvin..
2Deled#17:2 Deled, — ewyllysiai i Dduw farnu rhyngddo ef a’i wrthwynebwyr. Dymunai i’r farn neu’r ddedfryd ddyfod oddiwrth Dduw. fy marn oddi ger dy fron,
Edryched#17:2 Edryched, — nid ofnai sefyll wrth farn a wnaed yn ol rheol pethau union a chywir. dy lygaid ar unionderau.
3Fy nghalon a brofaist, a arolygaist yn y nos#17:3 Cyfeiriai at Dduw o ran tuedd ac ewyllys ei galon, yr hon a wyddai Duw, ac a welai hyd yn oed yn y nos, pan fyfyriai ar ei wely.;
Chwiliaist#17:3 Chwiliaist, neu, profaist megys trwy dân, fel yr arwydda’r gair gwreiddiol. Cafodd amryw drallodau, y rhai sydd, megys tân a goetha’r aur, yn dangos beth ydym. Llawer a ymddangosant yn deg iawn; ond profer hwynt, a dangosant yn fuan ddrygedd eu hanian. fi; ni chei ddim#17:3 Nid felly y Salmydd, — ni chei ddim, — dim drwg yn erbyn ei orthrymwyr. Mae hanes ymddygiad Dafydd tu ag at Saul yn brawf o hyn. : bwriedais,
4Na throseddai#17:4 Na throseddai, &c. — Nid oedd wedi dyweyd un drwg am ei erlidwyr, mwy na choleddu un drwg yn ei galon. fy ngenau o herwydd gweithredoedd#17:4 o herwydd gweithredoedd, &c. Dyma fel y cyfieitha Horsley. Ni chynhyrfid y Salmydd i ddywedyd un peth allan o le gan un peth a wnelid gan ddynion. Pan ein drygir neu ein henllibir, anhawdd iawn yw cadw rhag drygu ac enllibio drachefn. Oddiwrth hyn ymgadwai’r Salmydd. dyn;
Trwy air#17:4 Trwy air, — dengys pa fodd yr ymgadwodd rhag dilyn llwybrau neu ymddygiad drwg ei orthrymydd. Yn yr un modd y mae i ninnau ymgadw rhag pob ffordd ddrwg, sef trwy’r gair a lefarodd Duw, a elwir yma, “gair dy wefusau.” dy wefusau y cedwais rhag llwybrau’r yspeilydd.
5Cynnal fy ngherddediad yn dy rodfeydd,
Fel na lithro fy nghamrau.
6Mi a alwaf arnat, canys atebi fi, O Dduw;
Gogwydda dy glust ataf, gwrando fy ymadrodd.#17:6 Yr oedd yn galw, gan gredu yr atebai Duw ef yn ei amser ei hun. Dylid yn wastad weddio fel hyn, sef ceisio, a chredu y cawn ryw bryd neu gilydd.
7Mawryga#17:7 Mawryga, neu hynoda, rhyfeddoda, neu gwna yn rhyfedd, sef dangos dy drugareddau tu ag ataf yn y fath fodd ag a baro ryfeddod neu syndod i bawb. Ξαυμαστωσον, — Gwna yn rhyfedd, LXX. dy drugareddau, yr hwn a achubi ymddiriedwyr
Rhag gwrthwynebwyr#17:7 gwrthwynebwyr, &c. yn lythyrenol, “y rhai a ymgyfodant yn erbyn dy ddeheulaw.” Gwell yw’r cyfieithiad Cymraeg yma na’r Saesoneg, mwy unol yw â threfn y geiriau yn Hebraeg, a’r un yw a’r LXX. dy ddeheulaw.
8Cadw#17:8 Cadw, &c. sef, amgylcha fi a diogela fi fel yr amgylchir ac y diogelir canwyll y llygad, fi fel canwyll llygad;
Tan gysgod dy adenydd cuddia fi
9Rhag wyneb yr annuwiolion a’m hanrheithiant, —
Fy ngelynion, a’m cylchynant am “fy” mywyd.#17:9 Nid dim a foddlonai ei elynion ond ei fywyd. Cylchynant ef i’r diben i’w ladd.
10Cauir hwynt “yn” eu brasder#17:10 brasder, — yr oeddent megys wedi eu gorchuddio gan frasder, o ran corph a meddiannau. Gwel Deut. 32:15.;
Llefarant “â” ’u genau yn rhodresgar.
11Arwain#17:11 Arwain, — yn lythyrenol, gwna i ni fyned yn y blaen. Cyfieithir y gair, cyfarwydda yn Diar. 23:19. Myn Parkhurst mai ffyna yw yr ystyr yn y lle hwn: ond mwy cymmwys yma yw, arwain, neu tywys. Yr oedd Dafydd yn ffoi rhag ei elynion. Gweddiai ar Dduw ei arwain, fel na syrthiai i’w dwylaw. ni yn awr; — amgylchant ni;
Gosodant eu llygaid ar ogwydd#17:11 ar ogwydd, — cyffelyba hwynt i helwyr, pan ddelont yn agos at eu hysglyfaeth, yn anelu ato tra yn gorwedd ar y ddaear. tua’r ddaear.
12Eu dull#17:12 Eu dull, &c. neu, y maent yn debyg, &c, Eu dull, o ran eu bryd a’u hawydd i’w ddifetha, a feddylir. Yr oeddent mor awyddus i’w ddal ag ydyw llew ar lewygu o eisiau bwyd i ddal ei ysglyfaeth, neu genaw llew yn disgwyl mewn lle dirgel am unrhyw anifail a fyddo’n dyfod yn agos, neu y cenaw yn y ffau yn disgwyl yr ysglyfaeth a ddygai y llew neu’r llewes iddo. Y mae anian reibus mewn dyn pan fyddo dan lywiaeth eiddigedd neu genfigen. “sydd” fel llew a lewyga am ysglyfaeth,
Neu fel cenaw a eistedd mewn dirgel fanau.
13Cyfod, Iehova, rhagflaena ei wyneb, darostwng ef;
Gwared#17:13 Gwared, &c. Y llinell hon, a’r gyntaf o’r adnod nesaf, ydynt dra anhawdd i’w cyfieithu. Rhoir yma gyfieithiad Jun. a Threm. Tuedda Calvin a Horsley i’r un golwg, “â” ’th gleddyf fy enaid rhag yr annuwiol,
14“A” ’th law, Iehova, rhag dynion — rhag dynion y byd:
Eu rhan “sydd” yn y bywyd “hwn” ac yn dy drysorau#17:14 yn dy drysorau. Tybiaf y daw y gair yn well i mewn yma nag yn y llinell nesaf. Cyfoeth a meddiannau a feddylir. Cudd yw ystyr wreiddiol y gair, ond defnyddir ef i nodi cyfoeth: ac y mae yma yn y rhif lluosog mewn amryw gopïau, ac yn ol y LXX. Eu rhan oedd yn y bywyd hwn ac yn eu cyfoeth; yr hyn etto nid oedd eiddynt, ond eiddo Duw. ;
Llenwi#17:14 Llenwi, &c, Yr oeddent yn llawn o bethau’r byd, ac hefyd o hiliogaeth. Mor gyflawn hefyd oeddent o feddiannau, fel y gadawent weddill i’w plant. Dyma olwg gywir o lawer yn y byd etto, Y maent yn byw yn annuwiol, heb feddwl am Dduw nac am fyd arall; ac er hyny yn llawn o bob bendithion bydol. eu bol, digonir hwynt â meibion;
A gadawant eu gweddill i’w plant. —
15Myfi mewn cyfiawnder#17:15 mewn cyfiawnder; trwy fyw yn gyfiawn, gan ddilyn gair Duw, y credai ac y gobeithiai’r Salmydd weled a mwynhau gwedd wyneb Duw. a gaf weled dy wyneb;
Digonir fi, pan ddihunwyf,#17:15 pan ddihunwyf, — pan gyfodwyf o’r cyflwr trallodus presennol, neu o’r bedd y dydd diweddaf. Rhydd y LXX y gair hwn yn gyssylltedig a’r gair olaf, yr hyn sydd fwy cysson âg arfer gyffredin yr iaith: εν τω οφθηναι την δοξαν σου — “pan ymddangoso dy ogoniant,” sef trwy ei amddiffyn a’i waredu. â’th ddelw.

Currently Selected:

Salmau 17: TEGID

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in