YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 16

16
Salm XVI.
Aurog#16:0 Tybir y cyfenwir y Salm, Aurog, naill o ran ei rhagoroldeb, neu o herwydd mai dyma enw y dôn berthynol iddi. Efallai mai Coethedig, ac nid Aurog, yw ystyr gywiraf y gair. Dilynais Scott, a rhai ereill, trwy gymmeryd y diweddaf, : eiddo Dafydd.
1Cadw fi, O Dduw, canys ymddiriedais ynot;
2Dywedais#16:2 Dywedais, nid “dywedaist.” Rhydd amryw o gopïau dywedais; felly hefyd y LXX. Barna Horsley mai hyn sydd gywir. wrth Iehova fy Nghynnalydd, —
‘Ti yw fy naioni,#16:2 Ti yw fy naioni, &c. Dyma fel y cyfieitha Horsley y llinell ddyrys hon. Cyfaddefa y Salmydd mai Duw yw ei ddaioni, sef rhoddwr a chynnalydd pob peth da a feddiannai; ac ym mhellach, nad oes dim da hebddo. Mae amryw farnau wedi bod yn ei chylch; ond dyma yr ystyr sydd yn ymddangos yn oreu. Yn agos yr un ystyr a rydd yr hyn a gymmeradwyir gan Houbigant, Lowth, Symmachus, a Jerome, sef Fy naioni nid yw ddim hebddot, gan roddi Ti yn y llinell flaenorol, sef Fy Nghynnalydd, neu Fy Arglwydd ydwyt ti. Αγαθον μοι ουκ εστιν ανευ σου. Sym. Nid oes i mi dda hebddot. — nid “oes” dim hebddot.’
3Am y saint#16:3 Am y saint, &c. Wedi manwl ystyried yr adnod hon mewn cyssylltiad â’r hon a ganlyn, tueddir fi i gynnyg y cyfieithiad canlynol: — Am y rhai cysegredig ar y ddaear — hwy A’r goreuon, — nid yw fy hyfrydwch ynddynt: Amlha eu trafferthion, “Duw” arall a gynnysgaeddant: Ni thywalltaf, &c. Y rhai “cyssegredig” oeddent rai eilun-addolgar. Dynoda y gair y cyfryw ambell waith. “Nid” yn lle “oll” a roddir mewn un copi yn Kennicott; a hawdd oedd y camsyniad, gan fod y ddwy lythyren yr amrywiant ynddynt mor debyg y naill i’r llall. Cyssona y cyfieithiad yn well â’r adnod ganlynol, gan y rhydd ragflaenair i “eu,” yr hwn nid oes iddo yn amgen. — Cynnysgaeddant, neu waddolant; — “offerynt alieno,” offrymant i ddieithr. Calvin. — “Alium dotant,” arall a waddolant. Jun. a Thr. — “Betroth themselves to another,” ymddyweddiant i arall. Horsley. Cyfiethir y gair cynnysgaeddu yn Exod. 22:16. Yr oedd eilunaddolwyr yn cynnysgaeddu duwiau ereill âg offrymau ac a berthau, ac nid y Gwir Dduw; neu dyweddiant hwynt fel eu priod. Gosodir allan yn aml yr undeb sydd rhwng Duw a’i bobl megys undeb priodas; ac felly yr undeb rhwng eilunaddolwyr a’u duwiau. sydd ar y ddaear — hwy,
Ië, fy rhai rhagorol, — fy holl hyfrydwch sydd ynddynt.
4Amlha eu gofidiau hwy a gynnysgaeddant “Dduw” arall:
Ni thywalltaf eu tywalltiadau o waed;
Ac ni chymmeraf eu henwau ar fy ngwefusau.
5 Iehova yw rhan#16:5 rhan, &c. Mae cyfeiriad yma, ac yn yr adnod a ganlyn, at raniad gwlad Canaan, yr hon a ddosparthwyd trwy goelbren, wedi ei mesur a llinyn. Ps. 78:55. Rhan fy nosparth, h. y. fy rhan ddosparthedig, “my measured portion.” Horsley. fy nosparth a’m cwpan;#16:5 cwpan; arfer penaeth gwleddoedd roddi cwpan i bob un o’i wahoddedigion. Dynoda oddiwrth hyny y gyfran o fendithion a rydd Duw i’w bobl. Sylwedd y gyfran yw Duw ei hun.
Ti a gynheli#16:5 gynheli; sef amddiffyni yr hyn a ddaeth megys trwy goelbren i’m rhan, cedwi i mi fy etifeddiaeth. fy nghoelbren.
6Syrthiodd y llinynau#16:6 llinynau; digwyddodd iddo berchenogaeth hyfryd a helaeth. Nid tiroedd a chyfoeth a feddylia, ond breintiau crefydd, a bendithion ysprydol. Pa achos sydd genym ni fel gwlad i arfer y geiriau hyn! Rhagorach, a llawer helaethach, yw ein breintian ni na’r rhai a ryglyddwyd i’r Salmydd, na chwaith i un genedl a fu, neu y sydd, ar y ddaear. Pa faint, ynte, yw ein gofynion! “Syrthiodd ein llinynau,” mesurwyd i ni freintiau mawrion, ganwyd ni mewn gwlad efengyl, a meddwn fanteision mwy nag sydd gan un deyrnas arall ar wyneb daear. Cofiwn hyn, a byddwn ddiolchgar. i mi mewn hyfrydfanau,
Ië, etifeddiaeth hardd sydd genyf.
7Bendithiaf Iehova sydd yn fy nghynghori#16:7 cynghori. Cynghora Duw ni yn ei air, a thrwy ei yspryd. Nid yn unig gorchymyn ond darostwng i’n cynghori, — Arenau; gan eu bod mewn lle dirgel yn y corph, yn orchuddedig gan frasder, dynodant yn aml yn yr ysgrythyr weithrediadau, meddyliau, bwriadau, a serchiadau dirgelaidd y galon. Gwel Diar. 23:16; Jer. 12:2, a 20:12. Profi yr arenau yw chwilio y meddyliau mwyaf dirgel. Yr oedd meddyliau neu fyfyrdodau dirgel y Salmydd, y nosweithiau, yn ei rybuddio rhag dilyn ffyrdd y rhai annuwiol. ;
Ië, fy arenau a’m rhybuddiant y nosweithiau.
8Gosodais Iehova ger fy mron yn wastad
Am “ei fod” ar fy neheulaw, ni’m symudir.
9Gan hyny llawenha fy nghalon, a gorfoledda fy ngogoniant#16:9 fy ngogoniant, fy nhafod, yn ol y LXX. Hyn yn ddiau a feddylir. Gwel Ps. 30:13, a 57:9, a 108:2. Y tafod, neu y gallu o lefaru, yw un o gynneddfau penaf dyn, ag sydd yn ei wahaniaethu oddiwrth anifeiliaid; am hyny, addas ei gelwir ei ogoniant. Dechreu ei lawenydd yn ei galon, a’i dafod a’i traetha yn orfoleddus.;
Ië, fy nghnawd a babella yn hyderus.
10Canys ni adewi fy enaid yn y beddrod#16:10 beddrod. Nid oes air sathredig genym am y gair gwreiddiol yma. Nid “uffern” a feddylir, ond lle y mae ysprydion y rhai cyfiawn ynddo, “The receptacle of the dead.” Gellir, efallai, arfer un o’r geiriau hyn: cuddle, celfa, dirgelfa, huddfan.,
Ac ni roddi dy sant i weled llygredigaeth.
11Peri i mi wybod llwybr bywyd;
Digonedd o bob llawenydd#16:11 pob llawenydd...Pob hyfrydwch. Y mae y geiriau hyn yn y rhif luosog yn yr Hebraeg. Gan nad oes y rhif hwn i “lawenydd,” na “hyfrydwch,” gosodais y gair “pob” o’u blaen. Nid llawenydd ac hyfrydwch yn unig a rydd Duw, ond rhydd hwynt yn helaeth, yn lluosog, yn gyflawn, ac hefyd yn dragywyddol; yn llythyrenol fel hyn: Digonedd o lawenadau “sydd” ger dy fron, Hyfrydeddau ar dy ddeheulaw byth. “sydd” ger dy fron,
Pob hyfrydwch ar dy ddeheulaw byth.

Currently Selected:

Salmau 16: TEGID

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in