YouVersion Logo
Search Icon

Amos 6

6
1A! y rhai esmwyth arnynt yn Seion,
A’r rhai ysgafala ym mynydd Samaria,
Urddasolion y bennaf o’r cenhedloedd,
Y rhai y daw Tŷ Israel atynt;
2Ewch drosodd i Galne, ac edrychwch,
Ac ewch oddi yno i Hamath Rabba,
Ac ewch i lawr i Gath y Philistiaid;
Ai gwell chwi na’r teyrnasoedd hyn?
Neu ehangach eu goror na’ch goror chwi?
3Chwi y sy’n gohirio’r dydd drwg,
Ac yn prysuro gorseddu trais;
4Y sy’n gorwedd ar lythau ifori,
Ac yn ymdreiglo ar eu gwelâu;
Ac yn bwyta ŵyn o’r praidd,
A lloi o ganol y côr;
5Y sy’n canu gyda’r tannau,
Fel Dafydd dyfeisiant iddynt offer cerdd;
6Y rhai sy’n yfed gwin o gawgiau,
Ac yn ymiro â’r olew coethaf;
Ac nis clafychwyd am ddryllio Ioseff.
7Am hynny yn awr yr ânt yn gaethglud ar flaen y caethgludion,
A derfydd gloddestfloedd yr ymdreiglwyr.
8Tyngodd fy Arglwydd Iafe iddo’i hun,
Medd Iafe, Duw lluoedd,
“Yr wyf yn ffieiddio godidowgrwydd Iacob,
A chasâf ei gestyll,
A thraddodaf ddinas a’i chynnwys.”
9Ac os gadewir deg o ddynion mewn un tŷ,
Byddant feirw.
10A phan gyfyd câr neb, a’i losgwr, ef i fyny,
I ddwyn yr esgyrn allan o’r tŷ,
Fe ddywed wrth yr hwn a fo yng nghilfachau’r tŷ,
“A oes gyda thi chwaneg?”
Dywed hwnnw “Nac oes.”
“Ust” medd yntau,
Gan nad gwiw crybwyll enw Iafe.
11Canys wele Iafe’n gorchymyn,
A thery’r plas yn deilchion,
A’r bwthyn yn fylchau.
12A red meirch ar y graig?
Neu a ardd un hi#6:12 a ardd un hi Awgrymir a erddir môr ag ychen?
Canys troesoch farn yn llysieuyn gwenwynig,
A ffrwyth cyfiawnder yn wermod,
13Y rhai sy’n llawenychu oherwydd Lo-debar,#6:13 Lo-debar Hynny yw Diddim
Y sy’n dywedyd,
“Onid drwy ein nerth y cymerasom inni Garnaim?”#6:13 Garnaim H.y. Cyrn
14“Canys wele fi’n codi cenedl yn eich erbyn, Dŷ Israel,”
Medd Iafe, Duw’r lluoedd,
“A gorthrymant chwi o Ddrws Hamath hyd Nant yr Arafa.”

Currently Selected:

Amos 6: CUG

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in