YouVersion Logo
Search Icon

Amos 7

7
1Fel hyn y dangosodd fy Arglwydd Iafe imi —
Yr oedd ef yn llunio locustiaid
Yn nechreu tarddiad yr adlodd,
Sef adlodd ar ol cynhaeaf y brenin;
2A phan orffenasant fwyta
Glaswellt y ddaear, yna y dywedais,
“Fy Arglwydd Iafe, maddeu, atolwg;
Pa fodd y saif Iacob?
Canys bychan yw.”
3Edifarhaodd Iafe am hyn,
“Ni bydd,” medd Iafe.
4Fel hyn y dangosodd fy Arglwydd Iafe imi —
Yr oedd fy Arglwydd Iafe yn galw
I braw drwy dân,
A difaodd y dyfnder mawr;
5A phan oedd ar ddifa’r rhandir, yna y dywedais,
“Fy Arglwydd Iafe, paid, atolwg;
Pa fodd y saif Iacob?
Canys bychan yw.”
6Edifarhaodd Iafe am hyn,
“Ni bydd hyn chwaith,”
Medd fy Arglwydd Iafe.
7Fel hyn y dangosodd imi —
Yr oedd fy Arglwydd yn sefyll
Wrth fur unionsyth,
A llinyn plwm yn ei law;
8A dywedodd Iafe wrthyf,
“Beth a weli di, Amos?”
Dywedais innau “Llinyn plwm”;
A dywedodd fy Arglwydd,
“Wele fi’n gosod llinyn plwm
Ynghanol fy mhobl Israel,
Nid af heibio iddynt byth mwy.
9Ac anghyfaneddir uchelfeydd Isaac;
A diffeithir cysegrfeydd Israel,
A chodaf yn erbyn tŷ Ieroboam â chleddyf.”
10Ac anfonodd Amasia, offeiriad Bethel, at Ieroboam, brenin Israel, i ddywedyd, “Cynghreiriodd Amos i’th erbyn ynghanol Tŷ Israel; ni all y wlad ddal ei holl eiriau ef. 11Canys fel hyn y dywed. Amos,
Bydd Ieroboam farw drwy gleddyf,
Ac â Israel yn ddiau yn gaethglud o’i dir.”
12A dywedodd Amasia wrth Amos, “Dos, weledydd, ymgilia i wlad Iwda, ac ennill dy fara yno, a phroffwyda yno; 13ond na phroffwyda byth mwy ym Methel, canys cysegrfa frenhinol yw, a thŷ’r frenhiniaeth.” 14Ac atebodd Amos, a dywedodd, wrth Amasïa,
Nid proffwyd mohonof,
Ac nid un o urdd broffwydol mohonof,
Eithr bugail ydwyf,
A chasglydd ffigys sycamorwydd;
15A chymerodd Iafe fi oddi ar ol y praidd,
A dywedodd Iafe wrthyf,
“Dos, proffwyda i’m pobl Israel.”
16Ac yn awr clyw air Iafe,
Tydi, y sy’n dywedyd “Na phroffwyda yn erbyn Israel,
Ac na pharabla yn erbyn Tŷ Isaac.”
17Am hynny fel hyn y dywed Iafe,
“Bydd dy wraig yn butain yn y ddinas,
A syrth dy feibion a’th ferched drwy gleddyf,
A rhennir dy dir wrth linyn,
A byddi dithau farw mewn tir halog,
Ac â Israel yn ddiau yn gaethglud o’i dir.”

Currently Selected:

Amos 7: CUG

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in