YouVersion Logo
Search Icon

Amos 4

4
1Clywch y gair hwn, fuchod Basan,
Y sydd ym mynydd Samaria,
Yn gorthrymu’r gweiniaid,
Yn ysigo’r tlodion,
Yn dywedyd bob un wrth ei harglwydd,
“Dwg ac yfwn.”
2Tyngodd fy Arglwydd Iafe i’w sancteiddrwydd,
“Wele’r dyddiau’n dyfod arnoch
Y dygir chwi ymaith â thryferau,
A’r gweddill ohonoch â bachau pysgota;
3A thrwy adwyon yr ewch allan,
Bob un ar ei chyfer,
A bwrir chwi#4:3 bwrir chwi Felly LXX; Heb. bwriwch i Harmon.”
Medd Iafe.
4“Deuwch i Fethel a throseddwch,
Yng Ngilgal ychwanegwch droseddu;
A dygwch erbyn y bore eich aberthau,
A’ch degymau erbyn y trydydd dydd;
5A llosgwch ddiolch-offrwm o surdoes,
A chyhoeddwch offrymau gwirfodd, hysbyswch,
Canys hynny a hoffwch, Feibion Israel.”
Medd fy Arglwydd Iafe.
6“Rhoddais innau i chwi
Lendid dannedd yn eich holl ddinasoedd,
Ac eisieu bara yn eich holl leoedd;
Eto ni ddychwelasoch ataf.”
Medd Iafe.
7“Ateliais innau’r glaw oddiwrthych,
Ac eto dri mis hyd y cynhaeaf;
Pan lawiwn ar un ddinas,
Ar ddinas arall ni lawiwn;
Glewid ar un rhan,
A chrinai’r rhan ni lawiai arni;
8Ac ymlusgai dwy ddinas neu dair i un ddinas,
I yfed dwfr, ac nis digonid;
Eto ni ddychwelasoch ataf.”
Medd Iafe.
9“Tarewais chwi â deifiad ac â llwydni,
Diffeithiais#4:9 Diffeithiais Heb. i luosogi. Derbynnir awgrym Beibl Hebraeg Kittel. eich gerddi a’ch gwinllannoedd,
A’ch ffigyswydd a’ch olewydd a fwytâi’r lindys;
Eto ni ddychwelasoch ataf.”
Medd Iafe.
10“Anfonais haint i’ch plith, yn ol dull yr Aifft,
Lleddais eich gwŷr ifainc â’r cleddyf,
Gan gymryd eich meirch yn gaeth;
A pherais i ddrewi’ch gwersylloedd godi hyd at eich ffroenau;
Eto ni ddychwelasoch ataf.”
Medd Iafe.
11“Dymchwelais rai ohonoch
Fel y dymchwelodd Duw Sodom a Gomorra,
Ac aethoch fel pentewyn a gipiwyd o’r gynneu;
Eto ni ddychwelasoch ataf.”
Medd Iafe.
12“Am hynny fel hyn y gwnaf iti, Israel — .
Am mai hyn a wnaf iti,
Bydd barod, Israel, i gyfarfod â’th Dduw.”
13Canys ef yw lluniwr y mynyddoedd,
A chrëwr y gwynt,
Ac y sy’n mynegi i ddyn beth yw ei feddwl;
Gwneuthurwr gwawr a#4:13 Felly LXX. gwyll,
Ac y sy’n sengi ar uchelfeydd y ddaear;
Iafe, Duw lluoedd, yw ei enw.

Currently Selected:

Amos 4: CUG

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in