YouVersion Logo
Search Icon

Amos 3

3
1Clywch y gair hwn a lefarodd Iafe amdanoch, Feibion#3:1 Rhai Ll. a’r LXX Israel, am yr holl deulu a ddygais i fyny o wlad yr Aifft:
2“Chwi yn unig a adnabûm
O holl deuluoedd y ddaear,
Am hynny y gofwyaf chwi
Am eich holl anwireddau.”
3A rodia dau ynghyd
Heb bennu oed?
4A rua llew yn y goedwig
Heb fod ganddo ysglyfaeth?
A lefa llew ifanc o’i loches
Heb ddal dim?
5A syrth aderyn ar y ddaear#3:5 ar y ddaear Felly LXX; Heb. i fagl y ddaear
Heb fod abwyd iddo?
A gyfyd magl oddiar y llawr
Oni bydd wedi dal?
6Neu a chwythir utgorn mewn dinas
Heb i’r bobl gynhyrfu?
Neu a ddigwydd drwg i ddinas
A Iafe heb ei wneuthur?
7Canys ni wna fy Arglwydd Iafe ddim
Heb ddatguddio’i gyfrinach i’w weision y proffwydi.
8Rhuodd llew, pwy nid ofna?
Llefarodd fy Arglwydd Iafe, pwy ni phroffwyda?
9Hysbyswch ar gestyll yn Asdod,#3:9 Asdod, LXX Asyria,
Ac ar gestyll yng ngwlad yr Aifft,
A dywedwch, “Ymgesglwch ar fynyddoedd Samaria,
A gwelwch derfysgoedd lawer o’i mewn,
A gorthrymderau yn ei chanol;
10Canys ni fedrant wneuthur uniondeb,
A hwythau’n trysori trais a difrod yn eu cestyll.”
Medd Iafe.
11Am hynny fel hyn y dywed fy Arglwydd Iafe,
“Gwrthwynebwr a amgylcha’r wlad,
Ac a ostwng dy nerth oddiwrthyt,
Ac ysbeilir dy gestyll.”
12Fel hyn y dywed Iafe,
“Megis y cipia bugail o safn llew
Ddwy goes neu ddarn o glust,
Felly y cipir Meibion Israel sy’n trigo yn Samaria
Ar gongl glwth, ac ar ddamasg gwely.”
13“Clywch a rhybuddiwch Dŷ Iacob,”
Medd fy Arglwydd Iafe, Duw’r lluoedd,
14“Canys y dydd y gofwyaf Israel am ei droseddau,
Y gofwyaf allorau Bethel,
A thorrir cyrn yr allor,
A syrthiant i’r ddaear;
15A thrawaf yr hendre a’r hafod,
A difëir y tai ifori,
A bydd diwedd ar dai lawer.”
Medd Iafe.

Currently Selected:

Amos 3: CUG

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in