YouVersion Logo
Search Icon

Diarhebion 1

1
1Diarhebion Solomon mab Dafydd, brenin Israel; 2I wybod doethineb ac addysg, i ddeall geiriau synnwyr; 3I gymryd athrawiaeth deall, cyfiawnder, a barn, ac uniondeb; 4I roi callineb i’r angall, ac i’r bachgen wybodaeth a synnwyr. 5Y doeth a wrendy, ac a chwanega addysg; a’r deallgar a ddaw i gynghorion pwyllog: 6I ddeall dihareb, a’i deongl; geiriau y doethion, a’u damhegion.
7Ofn yr Arglwydd yw dechreuad gwybodaeth: ond ffyliaid a ddiystyrant ddoethineb ac addysg. 8Fy mab, gwrando addysg dy dad, ac nac ymado â chyfraith dy fam: 9Canys cynnydd gras a fyddant hwy i’th ben, a chadwyni am dy wddf di.
10Fy mab, os pechaduriaid a’th ddenant, na chytuna. 11Os dywedant, Tyred gyda ni, cynllwynwn am waed, ymguddiwn yn erbyn y gwirion yn ddiachos: 12Llyncwn hwy yn fyw, fel y bedd; ac yn gyfan, fel rhai yn disgyn i’r pydew: 13Nyni a gawn bob cyfoeth gwerthfawr, nyni a lanwn ein tai ag ysbail: 14Bwrw dy goelbren yn ein mysg; bydded un pwrs i ni i gyd: 15Fy mab, na rodia yn y ffordd gyda hwynt; atal dy droed rhag eu llwybr hwy. 16Canys eu traed a redant i ddrygioni, ac a brysurant i dywallt gwaed. 17Diau gwaith ofer yw taenu rhwyd yng ngolwg pob perchen adain. 18Ac y maent hwy yn cynllwyn am eu gwaed eu hun: am eu heinioes eu hun y maent yn llechu. 19Felly y mae llwybrau y rhai oll sydd chwannog i elw; yr hwn a ddwg einioes ei berchenogion.
20Doethineb sydd yn gweiddi oddi allan; y mae hi yn adrodd ei lleferydd yn yr heolydd: 21Y mae hi yn llefain ym mhrifleoedd y dyrfa, yn nrysau y pyrth; yn y ddinas y mae hi yn traethu ei hymadroddion, gan ddywedyd, 22Pa hyd, chwi ynfydion, y cerwch ynfydrwydd? a chwi watwarwyr, y bydd hoff gennych watwar? ac y casâ ffyliaid wybodaeth? 23Dychwelwch wrth fy ngherydd: wele, mi a dywalltaf fy ysbryd i chwi, fy ngeiriau a hysbysaf i chwi.
24Yn gymaint ag i mi eich gwahodd, ac i chwithau wrthod; i mi estyn fy llaw, a neb heb ystyried; 25Ond diystyrasoch fy holl gyngor i, ac ni fynnech ddim o’m cerydd: 26Minnau hefyd a chwarddaf yn eich dialedd chwi; mi a wawdiaf pan syrthio arnoch yr hyn yr ydych yn ei ofni; 27Pan ddêl arnoch yr hyn yr ydych yn ei ofni megis distryw, ac y dêl eich dialedd arnoch megis corwynt; a dyfod arnoch wasgfa a chaledi: 28Yna y galwant arnaf, ond ni wrandawaf; yn fore y’m ceisiant, ond ni’m cânt: 29Canys cas fu ganddynt wybodaeth, ac ofn yr Arglwydd ni ddewisasant: 30Ni chymerent ddim o’m cyngor i; dirmygasant fy holl gerydd. 31Am hynny hwy a gânt fwyta ffrwyth eu ffordd eu hunain, a’u llenwi â’u cynghorion eu hunain. 32Canys esmwythdra y rhai angall a’u lladd; a llwyddiant y rhai ffôl a’u difetha. 33Er hynny y sawl a wrandawo arnaf fi, a gaiff aros yn ddiogel, ac a gaiff lonyddwch oddi wrth ofn drwg.

Currently Selected:

Diarhebion 1: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in