1
Diarhebion 1:7-8
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Ofn yr ARGLWYDD yw dechreuad gwybodaeth: ond ffyliaid a ddiystyrant ddoethineb ac addysg. Fy mab, gwrando addysg dy dad, ac nac ymado â chyfraith dy fam
Compare
Explore Diarhebion 1:7-8
2
Diarhebion 1:32-33
Canys esmwythdra y rhai angall a’u lladd; a llwyddiant y rhai ffôl a’u difetha. Er hynny y sawl a wrandawo arnaf fi, a gaiff aros yn ddiogel, ac a gaiff lonyddwch oddi wrth ofn drwg.
Explore Diarhebion 1:32-33
3
Diarhebion 1:5
Y doeth a wrendy, ac a chwanega addysg; a’r deallgar a ddaw i gynghorion pwyllog
Explore Diarhebion 1:5
4
Diarhebion 1:10
Fy mab, os pechaduriaid a’th ddenant, na chytuna.
Explore Diarhebion 1:10
5
Diarhebion 1:1-4
Diarhebion Solomon mab Dafydd, brenin Israel; I wybod doethineb ac addysg, i ddeall geiriau synnwyr; I gymryd athrawiaeth deall, cyfiawnder, a barn, ac uniondeb; I roi callineb i’r angall, ac i’r bachgen wybodaeth a synnwyr.
Explore Diarhebion 1:1-4
6
Diarhebion 1:28-29
Yna y galwant arnaf, ond ni wrandawaf; yn fore y’m ceisiant, ond ni’m cânt: Canys cas fu ganddynt wybodaeth, ac ofn yr ARGLWYDD ni ddewisasant
Explore Diarhebion 1:28-29
Home
Bible
Plans
Videos