YouVersion Logo
Search Icon

Diarhebion 2

2
1Fy mab, os derbynni di fy ngeiriau, ac os cuddi fy ngorchmynion gyda thi; 2Fel y parech i’th glust wrando ar ddoethineb, ac y gogwyddech dy galon at ddeall; 3Ie, os gwaeddi ar ôl gwybodaeth, os cyfodi dy lef am ddeall; 4Os ceisi hi fel arian, os chwili amdani fel am drysorau cuddiedig; 5Yna y cei ddeall ofn yr Arglwydd, ac y cei wybodaeth o Dduw. 6Canys yr Arglwydd sydd yn rhoi doethineb: allan o’i enau ef y mae gwybodaeth a deall yn dyfod. 7Y mae ganddo ynghadw i’r rhai uniawn wir ddoethineb: tarian yw efe i’r sawl a rodiant yn uniawn. 8Y mae efe yn cadw llwybrau barn, ac yn cadw ffordd ei saint. 9Yna y cei di ddeall cyfiawnder, a barn, ac uniondeb, a phob llwybr daionus.
10Pan ddelo doethineb i mewn i’th galon, a phan fyddo hyfryd gan dy enaid wybodaeth; 11Yna cyngor a’th gynnal, a synnwyr a’th geidw: 12I’th achub oddi wrth y ffordd ddrwg, ac oddi wrth y dyn a lefaro drawsedd; 13Y rhai a ymadawant â llwybrau uniondeb, i rodio mewn ffyrdd tywyllwch; 14Y rhai a ymlawenychant i wneuthur drwg, ac a ymddigrifant yn anwiredd y drygionus; 15Y rhai sydd â’u ffyrdd yn geimion, ac yn gildyn yn eu llwybrau: 16I’th wared oddi wrth y fenyw estronaidd, oddi wrth y ddieithr wenieithus ei geiriau; 17Yr hon a ymedy â llywodraethwr ei hieuenctid, ac a ollwng dros gof gyfamod ei Duw. 18Canys y mae ei thŷ yn gŵyro at angau, a’i llwybrau at y meirw. 19Pwy bynnag a elo i mewn ati hi, ni ddychwelant, ac nid ymafaelant yn llwybrau y bywyd. 20Fel y rhodiech di ar hyd ffordd gwŷr da, a chadw llwybrau y cyfiawn. 21Canys y gwŷr cyfiawn a breswyliant y ddaear, a’r rhai perffaith a gânt aros ynddi. 22Ond yr annuwiolion a dorrir oddi ar y ddaear, a’r troseddwyr a ddiwreiddir allan ohoni.

Currently Selected:

Diarhebion 2: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy