YouVersion Logo
Search Icon

Eseia 53

53
1Pwy a gredodd i’n hymadrodd? ac i bwy y datguddiwyd braich yr Arglwydd? 2Canys efe a dyf o’i flaen ef fel blaguryn, ac fel gwreiddyn o dir sych: nid oes na phryd na thegwch iddo: pan edrychom arno, ni bydd pryd fel y dymunem ef. 3Dirmygedig yw, a diystyraf o’r gwŷr; gŵr gofidus, a chynefin â dolur: ac yr oeddem megis yn cuddio ein hwynebau oddi wrtho: dirmygedig oedd, ac ni wnaethom gyfrif ohono.
4Diau efe a gymerth ein gwendid ni, ac a ddug ein doluriau: eto ni a’i cyfrifasom ef wedi ei faeddu, ei daro gan Dduw, a’i gystuddio. 5Ond efe a archollwyd am ein camweddau ni, efe a ddrylliwyd am ein hanwireddau ni: cosbedigaeth ein heddwch ni oedd arno ef: a thrwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni. 6Nyni oll a grwydrasom fel defaid; troesom bawb i’w ffordd ei hun: a’r Arglwydd a roddes arno ef ein hanwiredd ni i gyd. 7Efe a orthrymwyd, ac efe a gystuddiwyd, ac nid agorai ei enau: fel oen yr arweinid ef i’r lladdfa, ac fel y tau dafad o flaen y rhai a’i cneifiai, felly nid agorai yntau ei enau. 8O garchar ac o farn y cymerwyd ef: a phwy a draetha ei oes ef? canys efe a dorrwyd o dir y rhai byw; rhoddwyd pla arno ef am gamwedd fy mhobl. 9Ac efe a wnaeth ei fedd gyda’r rhai anwir, a chyda’r cyfoethog yn ei farwolaeth; am na wnaethai gam, ac nad oedd twyll yn ei enau.
10Eithr yr Arglwydd a fynnai ei ddryllio ef; efe a’i clwyfodd: pan osodo efe ei enaid yn aberth dros bechod, efe a wêl ei had, efe a estyn ei ddyddiau; ac ewyllys yr Arglwydd a lwydda yn ei law ef. 11O lafur ei enaid y gwêl, ac y diwellir: fy ngwas cyfiawn a gyfiawnha lawer trwy ei wybodaeth; canys efe a ddwg eu hanwireddau hwynt. 12Am hynny y rhannaf iddo ran gyda llawer, ac efe a ranna yr ysbail gyda’r cedyrn: am iddo dywallt ei enaid i farwolaeth: ac efe a gyfrifwyd gyda’r troseddwyr; ac efe a ddug bechodau llaweroedd, ac a eiriolodd dros y troseddwyr.

Currently Selected:

Eseia 53: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy