1
Eseia 53:5
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Ond efe a archollwyd am ein camweddau ni, efe a ddrylliwyd am ein hanwireddau ni: cosbedigaeth ein heddwch ni oedd arno ef: a thrwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni.
Compare
Explore Eseia 53:5
2
Eseia 53:6
Nyni oll a grwydrasom fel defaid; troesom bawb i’w ffordd ei hun: a’r ARGLWYDD a roddes arno ef ein hanwiredd ni i gyd.
Explore Eseia 53:6
3
Eseia 53:4
Diau efe a gymerth ein gwendid ni, ac a ddug ein doluriau: eto ni a’i cyfrifasom ef wedi ei faeddu, ei daro gan DDUW, a’i gystuddio.
Explore Eseia 53:4
4
Eseia 53:3
Dirmygedig yw, a diystyraf o’r gwŷr; gŵr gofidus, a chynefin â dolur: ac yr oeddem megis yn cuddio ein hwynebau oddi wrtho: dirmygedig oedd, ac ni wnaethom gyfrif ohono.
Explore Eseia 53:3
5
Eseia 53:7
Efe a orthrymwyd, ac efe a gystuddiwyd, ac nid agorai ei enau: fel oen yr arweinid ef i’r lladdfa, ac fel y tau dafad o flaen y rhai a’i cneifiai, felly nid agorai yntau ei enau.
Explore Eseia 53:7
6
Eseia 53:10
Eithr yr ARGLWYDD a fynnai ei ddryllio ef; efe a’i clwyfodd: pan osodo efe ei enaid yn aberth dros bechod, efe a wêl ei had, efe a estyn ei ddyddiau; ac ewyllys yr ARGLWYDD a lwydda yn ei law ef.
Explore Eseia 53:10
7
Eseia 53:2
Canys efe a dyf o’i flaen ef fel blaguryn, ac fel gwreiddyn o dir sych: nid oes na phryd na thegwch iddo: pan edrychom arno, ni bydd pryd fel y dymunem ef.
Explore Eseia 53:2
8
Eseia 53:12
Am hynny y rhannaf iddo ran gyda llawer, ac efe a ranna yr ysbail gyda’r cedyrn: am iddo dywallt ei enaid i farwolaeth: ac efe a gyfrifwyd gyda’r troseddwyr; ac efe a ddug bechodau llaweroedd, ac a eiriolodd dros y troseddwyr.
Explore Eseia 53:12
9
Eseia 53:11
O lafur ei enaid y gwêl, ac y diwellir: fy ngwas cyfiawn a gyfiawnha lawer trwy ei wybodaeth; canys efe a ddwg eu hanwireddau hwynt.
Explore Eseia 53:11
10
Eseia 53:8
O garchar ac o farn y cymerwyd ef: a phwy a draetha ei oes ef? canys efe a dorrwyd o dir y rhai byw; rhoddwyd pla arno ef am gamwedd fy mhobl.
Explore Eseia 53:8
11
Eseia 53:9
Ac efe a wnaeth ei fedd gyda’r rhai anwir, a chyda’r cyfoethog yn ei farwolaeth; am na wnaethai gam, ac nad oedd twyll yn ei enau.
Explore Eseia 53:9
YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy
Home
Bible
Plans
Videos