YouVersion Logo
Search Icon

Eseia 54

54
1Cân, di amhlantadwy nid esgorodd; bloeddia ganu, a gorfoledda, yr hon nid esgorodd: oherwydd amlach meibion yr hon a adawyd, na’r hon y mae gŵr iddi, medd yr Arglwydd. 2Helaetha le dy babell, ac estynnant gortynnau dy breswylfeydd: nac atal, estyn dy raffau, a sicrha dy hoelion. 3Canys ti a dorri allan ar y llaw ddeau ac ar y llaw aswy; a’th had a etifedda y Cenhedloedd, a dinasoedd anrheithiedig a wnânt yn gyfanheddol. 4Nac ofna; canys ni’th gywilyddir: ac na’th waradwydder, am na’th warthruddir; canys ti a anghofi waradwydd dy ieuenctid, a gwarthrudd dy weddwdod ni chofi mwyach. 5Canys dy briod yw yr hwn a’th wnaeth; Arglwydd y lluoedd yw ei enw: dy Waredydd hefyd, Sanct Israel, Duw yr holl ddaear y gelwir ef. 6Canys fel gwraig wrthodedig, a chystuddiedig o ysbryd, y’th alwodd yr Arglwydd, a gwraig ieuenctid, pan oeddit wrthodedig, medd dy Dduw. 7Dros ennyd fechan y’th adewais; ond â mawr drugareddau y’th gasglaf. 8Mewn ychydig soriant y cuddiais fy wyneb oddi wrthyt ennyd awr; ond â thrugaredd dragwyddol y trugarhaf wrthyt, medd yr Arglwydd dy Waredydd. 9Canys fel dyfroedd Noa y mae hyn i mi: canys megis y tyngais nad elai dyfroedd Noa mwy dros y ddaear; felly y tyngais na ddigiwn wrthyt, ac na’th geryddwn. 10Canys y mynyddoedd a giliant, a’r bryniau a symudant: eithr fy nhrugaredd ni chilia oddi wrthyt, a chyfamod fy hedd ni syfl, medd yr Arglwydd sydd yn trugarhau wrthyt.
11Y druan, helbulus gan dymestl, y ddigysur, wele, mi a osodaf dy gerrig di â charbuncl, ac a’th sylfaenaf â meini saffir. 12Gwnaf hefyd dy ffenestri o risial, a’th byrth o feini disglair, a’th holl derfynau o gerrig dymunol. 13Dy holl feibion hefyd fyddant wedi eu dysgu gan yr Arglwydd; a mawr fydd heddwch dy feibion. 14Mewn cyfiawnder y’th sicrheir: byddi bell oddi wrth orthrymder, canys nid ofni; ac oddi wrth ddychryn, canys ni nesâ atat. 15Wele, gan ymgasglu hwy a ymgasglant, ond nid ohonof fi: pwy bynnag ohonot ti a ymgasglo i’th erbyn, efe a syrth. 16Wele, myfi a greais y gof, yr hwn a chwyth y marwor yn tân, ac a ddefnyddia arf i’w waith; myfi hefyd a greais y dinistrydd i ddistrywio.
17Ni lwydda un offeryn a lunier i’th erbyn; a thi a wnei yn euog bob tafod a gyfodo i’th erbyn mewn barn. Dyma etifeddiaeth gweision yr Arglwydd, a’u cyfiawnder hwy sydd oddi wrthyf fi, medd yr Arglwydd.

Currently Selected:

Eseia 54: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy