YouVersion Logo
Search Icon

Eseciel 45

45
Y Tir Cysegredig
1“ ‘Pan fyddwch yn rhannu'r wlad yn etifeddiaeth trwy fwrw coelbren, neilltuwch yn dir cysegredig i'r ARGLWYDD gyfran yn mesur pum mil ar hugain o gufyddau o hyd ac ugain#45:1 Felly Groeg. Hebraeg, a deng. mil o gufyddau o led; a bydd yr holl gyfran yn sanctaidd trwyddi. 2Bydded pum can cufydd sgwâr ohono ar gyfer y cysegr, gyda hanner can cufydd yn dir agored o'i amgylch. 3Yn y tir cysegredig mesurwch gyfran pum mil ar hugain o gufyddau o hyd a deng mil o gufyddau o led; yma y bydd y cysegr, sef y cysegr sancteiddiaf. 4Bydd hon yn gyfran gysegredig o'r tir, ar gyfer yr offeiriaid sy'n gwasanaethu yn y cysegr ac yn dynesu i wasanaethu'r ARGLWYDD; bydd yn lle ar gyfer eu tai, yn ogystal ag yn lle sanctaidd i'r cysegr. 5Bydd cyfran pum mil ar hugain o gufyddau o hyd a deng mil o gufyddau o led yn etifeddiaeth i'r Lefiaid sy'n gwasanaethu yn y deml, iddynt gael dinasoedd i fyw ynddynt#45:5 Felly Groeg. Hebraeg, iddynt gael ugain o ystafelloedd..
6“ ‘Yn gyfochrog â'r tir sanctaidd, neilltuwch yn etifeddiaeth i'r ddinas gyfran pum mil o gufyddau o led a phum mil ar hugain o gufyddau o hyd; bydd hwn yn perthyn i holl dŷ Israel.
7“ ‘Y tywysog fydd piau'r tir o boptu i'r tir cysegredig ac i'r tir sy'n perthyn i'r ddinas. Bydd ei dir ef yn ymestyn tua'r gorllewin ar un ochr, a thua'r dwyrain ar yr ochr arall, ac yn rhedeg yn gyfochrog â rhan un o'r llwythau, o derfyn y gorllewin hyd derfyn y dwyrain. 8Y tir hwn fydd etifeddiaeth y tywysog yn Israel; ac ni chaiff fy nhywysogion orthrymu fy mhobl mwyach, ond gadawant i Israel etifeddu'r wlad yn ôl ei llwythau.
Rheolau i'r Tywysogion
9“ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Dyna ddigon, chwi dywysogion Israel! Rhowch heibio eich trais a'ch gormes; gwnewch yr hyn sy'n gywir a chyfiawn, a pheidiwch â throi fy mhobl allan o'u hetifeddiaeth, medd yr Arglwydd DDUW.
10“ ‘Bydded gennych gloriannau cywir, effa gywir a bath cywir. 11Y mae'r effa a'r bath i fod o'r un maint, y bath yn pwyso degfed ran o homer a'r effa ddegfed ran o homer; yr homer fydd y safon ar gyfer y ddau. 12Bydd y sicl yn pwyso ugain gera, a bydd eich mina yn pwyso ugain sicl a phum sicl ar hugain a phymtheg sicl.
13“ ‘Dyma'r offrwm a ddygwch: y chweched ran o effa o bob homer o wenith, a'r chweched ran o effa o bob homer o haidd. 14Y rheol ynglŷn ag olew, gan fesur yn ôl y bath, fydd: degfed ran o bath o bob corus; y mae corus yn cynnwys deg bath neu homer, gan fod deg bath yn gyfartal â homer. 15Hefyd un ddafad o bob diadell o ddeucant gan holl dylwythau#45:15 Tebygol. Hebraeg, holl fannau dyfrhau. Israel. Byddant yn fwydoffrwm, yn boethoffrwm ac yn heddoffrymau i wneud cymod dros Israel, medd yr Arglwydd DDUW. 16Bydd holl bobl y wlad yn rhoi'r offrwm hwn i'r tywysog yn Israel. 17Dyletswydd y tywysog fydd darparu'r poethoffrymau, y bwydoffrymau a'r diodoffrymau ar gyfer y gwyliau, y newydd-loerau a'r Sabothau, sef holl wyliau penodedig tŷ Israel. Bydd yn darparu'r aberth dros bechod, y bwydoffrwm, y poethoffrwm a'r heddoffrymau i wneud cymod dros dŷ Israel.
Y Gwyliau
Ex. 12:1–20; Lef. 23:33–43
18“ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf, cymer fustach ifanc di-nam, a phura'r cysegr. 19Y mae'r offeiriad i gymryd o waed yr aberth dros bechod a'i roi ar byst pyrth y deml, ar bedair cornel silff uchaf yr allor ac ar byst pyrth y cyntedd mewnol. 20Gwna'r un modd ar y seithfed dydd o'r mis dros unrhyw un a bechodd yn ddifwriad neu trwy anwybodaeth; felly y gwnewch gymod dros y tŷ.
21“ ‘Ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf, cadwch y Pasg, yn ŵyl am saith diwrnod, pan fyddwch yn bwyta bara croyw. 22Y diwrnod hwnnw y mae'r tywysog i baratoi bustach yn aberth dros bechod ar ei ran ei hun ac ar ran holl bobl y wlad. 23Bob dydd yn ystod saith diwrnod yr ŵyl y mae i ddarparu saith bustach a saith hwrdd di-nam yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD, a bwch gafr yn aberth dros bechod. 24Yn fwydoffrwm y mae i ddarparu effa am bob bustach ac effa am bob hwrdd, gyda hin o olew am bob effa. 25Ar y pymthegfed dydd o'r seithfed mis, ac am saith diwrnod yr ŵyl honno, y mae i ddarparu'r un modd, yn aberth dros bechod, boethoffrwm, bwydoffrwm ac olew.

Currently Selected:

Eseciel 45: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in