YouVersion Logo
Search Icon

Eseciel 44

44
Mynediad i'r Cysegr
1Yna aeth y dyn â mi'n ôl at borth nesaf allan y cysegr, a oedd yn wynebu tua'r dwyrain; ac yr oedd wedi ei gau. 2Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Y mae'r porth hwn i fod ar gau; nid oes neb i'w agor nac i fynd trwyddo; y mae i fod ar gau oherwydd i'r ARGLWYDD, Duw Israel, ddod trwyddo. 3Y tywysog yn unig a gaiff eistedd yn y porth i fwyta ym mhresenoldeb yr ARGLWYDD; daw ef i mewn trwy gyntedd y porth ac ymadael yr un ffordd.”
4Yna aeth â mi ar hyd ffordd porth y gogledd at flaen y deml; a phan edrychais, gwelais fod gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi'r deml, a syrthiais ar fy wyneb. 5Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Fab dyn, dal sylw, edrych yn ofalus, a gwrando'n astud ar y cyfan a ddywedaf wrthyt ynglŷn â holl ddeddfau'r deml a'i chyfreithiau. Rho sylw i fynedfa'r deml ac i holl allanfeydd y cysegr. 6Dywed wrth dŷ gwrthryfelgar Israel, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Dyna ddigon ar dy holl ffieidd-dra, dŷ Israel! 7Ychwanegaist at dy holl ffieidd-dra trwy ddod ag estroniaid, dienwaededig o ran calon a chnawd, i mewn i'm cysegr a'i halogi; tra oeddit ti'n offrymu bwyd, gyda'r braster a'r gwaed, yr oeddent hwy'n torri fy nghyfamod. 8Yn lle gofalu am fy mhethau sanctaidd dy hunan, fe roddaist y cyfrifoldeb ar y bobl hyn i ofalu am fy nghysegr. 9Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Nid yw'r un estron dienwaededig o ran calon a chnawd i ddod i mewn i'm cysegr, hyd yn oed yr estroniaid sy'n byw ymhlith pobl Israel. 10Bydd y Lefiaid, a ymbellhaodd oddi wrthyf pan aeth Israel ar gyfeiliorn, a chrwydro ar ôl eu heilunod, yn gorfod dwyn eu cosb. 11Byddant yn gwasanaethu yn fy nghysegr trwy ofalu am byrth y deml, ac yn gweini yno; byddant yn lladd y poethoffrwm a'r aberth i'r bobl, ac yn gweini ar y bobl ac yn eu gwasanaethu. 12Ond oherwydd iddynt eu gwasanaethu o flaen eu heilunod, a gwneud i dŷ Israel syrthio i bechu, fe dyngais y bydd yn rhaid iddynt ddwyn eu cosb, medd yr Arglwydd DDUW. 13Ni chânt ddod yn agos ataf i'm gwasanaethu fel offeiriaid, na dynesu at yr un o'm pethau sanctaidd na'm hoffrymau sancteiddiaf; rhaid iddynt ddwyn gwarth am y ffieidd-dra a wnaethant. 14Eto rhof arnynt ddyletswydd i ofalu am y deml, i fod yn gyfrifol am yr holl wasanaeth a'r holl waith ynddi.
Yr Offeiriaid yn Gwasanaethu
15“ ‘Ond bydd yr offeiriaid sy'n Lefiaid o dylwyth Sadoc, ac a fu'n gofalu am fy nghysegr pan grwydrodd pobl Israel oddi wrthyf, yn dynesu ataf i'm gwasanaethu; byddant yn sefyll o'm blaen i offrymu'r braster a'r gwaed, medd yr Arglwydd DDUW. 16Hwy fydd yn dod i mewn i'm cysegr, a hwy fydd yn dynesu at fy mwrdd i'm gwasanaethu'n ffyddlon. 17Pan fyddant yn dod trwy byrth y cyntedd mewnol, y maent i wisgo dillad o liain; nid ydynt i roi unrhyw ddillad o wlân amdanynt pan fyddant yn gwasanaethu ym mhyrth y cyntedd mewnol neu i mewn yn y deml. 18Byddant yn gwisgo gorchudd o liain am eu pennau, a gwregys o liain am eu llwynau; nid ydynt i wisgo dim a wna iddynt chwysu. 19Pan fyddant yn mynd i'r cyntedd allanol, lle mae'r bobl, y maent i ddiosg y dillad a fu ganddynt yn gwasanaethu, a'u gadael yn yr ystafelloedd cysegredig; rhoddant wisgoedd eraill amdanynt, rhag i'w dillad drosglwyddo i'r bobl yr hyn sy'n sanctaidd. 20Nid ydynt i eillio'u pennau, na gadael i'w gwallt dyfu'n hir, ond y maent i dorri eu gwalltiau. 21Nid yw'r un offeiriad i yfed gwin pan fydd yn mynd i'r cyntedd mewnol. 22Nid ydynt i briodi â gweddwon nac â gwragedd a ysgarwyd, ond gallant briodi gwyryfon o dylwyth tŷ Israel, neu weddwon i offeiriaid. 23Y maent i ddysgu i'm pobl y gwahaniaeth rhwng sanctaidd a chyffredin, a dangos iddynt sut i wahaniaethu rhwng glân ac aflan. 24Mewn achos o ymrafael, y mae'r offeiriaid i weithredu fel barnwyr, a barnu yn ôl fy nghyfreithiau. Y maent i gadw fy neddfau a'm hordeiniadau ar fy holl wyliau penodedig, a chadw fy Sabothau'n sanctaidd. 25Nid yw offeiriad i'w halogi ei hun trwy fynd yn agos at berson marw, ond os yw'r un marw yn dad neu'n fam, yn fab neu'n ferch, yn frawd neu'n chwaer ddibriod iddo, fe gaiff ei halogi ei hun. 26Ar ôl iddo'i lanhau ei hun, y mae i aros am saith diwrnod. 27A'r diwrnod y bydd yn mynd i mewn i gyntedd mewnol y cysegr i wasanaethu, y mae i offrymu ei aberth dros bechod, medd yr Arglwydd DDUW.
28“ ‘Ni#44:28 Felly Fwlgat. Hebraeg heb Ni. fydd ganddynt etifeddiaeth yn Israel, ond myfi fydd eu hetifeddiaeth hwy; paid â rhoi iddynt unrhyw eiddo yn Israel, oherwydd myfi fydd eu heiddo hwy. 29Byddant yn bwyta'r bwydoffrwm, yr aberth dros bechod a'r offrwm dros gamwedd, a'u heiddo hwy fydd pob diofryd yn Israel. 30Eiddo'r offeiriaid hefyd fydd y gorau o'r holl flaenffrwyth ac o'ch holl offrymau arbennig. Rhowch i'r offeiriaid hefyd y gyfran gyntaf o'ch blawd mâl, er mwyn i fendith fod ar eich tai. 31Nid yw'r offeiriaid i fwyta dim a fu farw neu a larpiwyd, boed aderyn neu anifail.

Currently Selected:

Eseciel 44: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in