YouVersion Logo
Search Icon

Eseciel 43

43
Duw yn Dychwelyd i'r Deml
1Yna aeth â mi at y porth oedd yn wynebu tua'r dwyrain, 2a gwelais ogoniant Duw Israel yn dod o'r dwyrain. Yr oedd ei lais fel sŵn llawer o ddyfroedd, ac yr oedd y ddaear yn disgleirio gan ei ogoniant. 3Yr oedd y weledigaeth yn debyg i'r un a gefais pan ddaeth i ddinistrio'r ddinas, ac i'r un a gefais wrth afon Chebar; a syrthiais ar fy wyneb. 4Fel yr oedd gogoniant yr ARGLWYDD yn dod i mewn i'r deml trwy'r porth oedd yn wynebu tua'r dwyrain, 5cododd yr ysbryd fi a mynd â mi i'r cyntedd nesaf i mewn, ac yr oedd y deml yn llawn o ogoniant yr ARGLWYDD.
6Fel yr oedd y dyn yn sefyll yn f'ymyl, clywais rywun yn siarad â mi o'r deml, 7ac yn dweud wrthyf, “Fab dyn, dyma le fy ngorsedd, lle gwadnau fy nhraed, a'r lle y byddaf yn trigo ymhlith pobl Israel am byth. Ni fydd yr Israeliaid na'u brenhinoedd byth eto'n halogi fy enw sanctaidd trwy eu puteindra a'r delwau o'u brenhinoedd wedi iddynt farw. 8Wrth iddynt osod eu rhiniog wrth ochr fy rhiniog i, a physt eu pyrth wrth ochr pyst fy mhyrth i, heb ddim ond mur yn ein gwahanu, bu iddynt halogi fy enw sanctaidd trwy eu ffieidd-dra; a dinistriais hwy yn fy nig. 9Yn awr, bydded iddynt droi ymaith oddi wrthyf eu puteindra a'r delwau o'u brenhinoedd, ac fe drigaf yn eu plith am byth.
10“Fab dyn, disgrifia'r deml i bobl Israel, er mwyn iddynt gywilyddio am eu camweddau. Bydded iddynt ystyried y cynllun, 11ac os byddant yn cywilyddio am y cyfan a wnaethant, dangos iddynt batrwm y deml, ei chynllun, ei hagoriadau a'i mynedfeydd, a'i holl batrwm. Gwna iddynt wybod ei holl ddeddfau#43:11 TM yn ychwanegu a'i holl batrwm. a'i holl gyfreithiau; ysgrifenna hwy yn eu gŵydd, er mwyn iddynt ddilyn ei phatrwm a chadw ei deddfau. 12Dyma fydd cyfraith y deml: bydd yr holl diriogaeth oddi amgylch ar ben y mynydd yn gwbl sanctaidd. Dyna gyfraith y deml.
Yr Allor
13“Dyma fesuriadau'r allor mewn cufyddau hir, sef cufydd a dyrnfedd: bydd ei gwaelod yn gufydd o uchder#43:13 Tebygol. Cymh. Groeg. Hebraeg heb o uchder. ac yn gufydd o led, gyda chantel rhychwant o led o amgylch yr ymyl. A dyma fydd uchder yr allor: 14o'r gwaelod ar y llawr hyd y silff isaf, bydd yn ddau gufydd, ac yn gufydd o led; o'r silff leiaf hyd y silff fwyaf bydd yn bedwar cufydd, ac yn gufydd o led. 15Bydd aelwyd yr allor yn bedwar cufydd o uchder, a bydd pedwar corn yn codi i fyny oddi ar yr aelwyd. 16Bydd aelwyd yr allor yn sgwâr, deuddeg cufydd o hyd a deuddeg cufydd o led. 17Bydd y silff uchaf hefyd yn sgwâr, yn bedwar cufydd ar ddeg o hyd a phedwar cufydd ar ddeg o led, gyda chantel o hanner cufydd, a gwaelod o gufydd oddi amgylch. Bydd grisiau'r allor yn wynebu tua'r dwyrain.”
18Yna dywedodd wrthyf, “Fab dyn, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Dyma'r deddfau ynglŷn ag aberthu poethoffrymau a thaenellu gwaed ar yr allor, pan fydd wedi ei hadeiladu: 19yn aberth dros bechod byddi'n rhoi bustach ifanc i'r offeiriaid sy'n Lefiaid o deulu Sadoc, oherwydd hwy fydd yn dynesu ataf i'm gwasanaethu, medd yr Arglwydd DDUW. 20Byddi'n cymryd o'i waed ac yn ei roi ar bedwar corn yr allor, ar bedair cornel y silff uchaf, ac ar y cantel oddi amgylch; felly byddi'n puro'r allor ac yn gwneud cymod drosti. 21Byddi'n cymryd bustach yr aberth dros bechod ac yn ei losgi yn y lle penodol yn y deml, y tu allan i'r cysegr. 22Ar yr ail ddiwrnod yr wyt i offrymu bwch gafr di-nam yn aberth dros bechod, a phuro'r allor, fel y purwyd hi â'r bustach. 23Wedi iti orffen puro'r allor, yr wyt i aberthu bustach ifanc di-nam, a hwrdd di-nam o'r praidd. 24Offryma hwy i'r ARGLWYDD, a bydded i'r offeiriaid daenellu halen drostynt a'u haberthu'n boethoffrwm i'r ARGLWYDD. 25Am saith diwrnod tyrd â bwch gafr bob dydd yn aberth dros bechod; tyrd hefyd â bustach ifanc a hwrdd o'r praidd, y ddau yn ddi-nam. 26Am saith diwrnod byddant yn gwneud cymod dros yr allor ac yn ei glanhau, ac felly'n ei chysegru. 27Ar ddiwedd y dyddiau hyn, sef o'r wythfed diwrnod ymlaen, bydd yr offeiriaid yn aberthu eich poethoffrymau a'ch heddoffrymau ar yr allor; ac yna fe'ch derbyniaf, medd yr Arglwydd DDUW.”

Currently Selected:

Eseciel 43: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in