YouVersion Logo
Search Icon

Eseciel 46

46
Y Tywysog
1“ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Y mae porth y cyntedd nesaf i mewn, sy'n wynebu tua'r dwyrain, i fod ar gau am y chwe diwrnod gwaith, ond ar agor ar y dydd Saboth ac ar ddydd y newydd-loer. 2Y mae'r tywysog i ddod i mewn trwy gyntedd y porth, a sefyll ger pyst y porth; ac y mae'r offeiriaid i aberthu ei boethoffrwm a'i heddoffrymau. Y mae i addoli wrth riniog y porth ac yna mynd allan, ond ni chaeir y porth hyd fin nos. 3Ar y Sabothau a'r newydd-loerau y mae pobl y wlad i addoli gerbron yr ARGLWYDD wrth fynedfa'r porth hwn. 4Bydd y poethoffrwm a ddygir gan y tywysog i'r ARGLWYDD ar y Saboth yn cynnwys chwe oen di-nam a hwrdd di-nam. 5Bydd effa o fwydoffrwm gyda'r hwrdd, ond gyda'r ŵyn bydd yn gymaint ag a ddymuna; bydd hin o olew am bob effa. 6Ar ddiwrnod y newydd-loer y mae i offrymu bustach ifanc, chwe oen a hwrdd, y cyfan yn ddi-nam. 7Y mae i ddarparu effa o fwydoffrwm gyda'r bustach, effa gyda'r hwrdd, a chyda'r ŵyn gymaint ag a ddymuna; bydd hin o olew am bob effa. 8Pan ddaw'r tywysog i mewn, y mae i ddod trwy gyntedd y porth, a mynd allan yr un ffordd.
9“ ‘Pan fydd pobl y wlad yn dod o flaen yr ARGLWYDD ar y gwyliau penodedig, y mae'r sawl sy'n dod i mewn i addoli trwy borth y gogledd i fynd allan trwy borth y de, a'r sawl sy'n dod i mewn trwy borth y de i fynd allan trwy borth y gogledd. Ni chaiff neb ymadael trwy'r porth y daeth i mewn trwyddo, ond mynd allan trwy'r porth gyferbyn. 10Bydd y tywysog hefyd yn eu plith, yn mynd i mewn pan ânt hwy i mewn, ac yn mynd allan pan ânt hwy allan.
11“ ‘Ar y gwyliau a'r adegau penodedig, bydd effa o fwydoffrwm gyda bustach, effa gyda hwrdd, ond gyda'r ŵyn gymaint ag a ddymunir; bydd hin o olew am bob effa. 12Pan fydd y tywysog yn darparu offrwm gwirfodd i'r ARGLWYDD, yn boethoffrwm neu'n heddoffrymau, fe agorir iddo'r porth sy'n wynebu tua'r dwyrain. Bydd yn aberthu ei boethoffrwm neu ei offrymau hedd fel y gwna ar y Saboth. Yna fe â allan, ac wedi iddo fynd allan fe gaeir y porth.
Yr Offrwm Dyddiol
13“ ‘Bob dydd yr wyt i ddarparu oen blwydd di-nam yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD; yr wyt i'w ddarparu bob bore. 14Yr wyt hefyd i ddarparu bob bore fwydoffrwm yn pwyso chweched ran o effa, gyda thraean hin o olew i fwydo'r blawd; y mae cyflwyno bwydoffrwm i'r ARGLWYDD yn ddeddf dragwyddol. 15Felly darpara'r oen, y bwydoffrwm a'r olew bob bore yn boethoffrwm cyson.
Y Tywysog a'r Tir
16“ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Os bydd y tywysog yn rhoi rhodd o'i etifeddiaeth i un o'i feibion, fe â hefyd i'w ddisgynyddion; bydd yn eiddo iddynt hwy trwy etifeddiaeth. 17Ond os bydd y tywysog yn rhoi rhodd o'i etifeddiaeth i un o'i weision, bydd yn eiddo i'r gwas hyd flwyddyn ei ryddhau, ac yna bydd yn dychwelyd i'r tywysog; ei feibion yn unig a gaiff gadw ei etifeddiaeth. 18Nid yw'r tywysog i gymryd o etifeddiaeth y bobl, a'u troi allan o'u tir; o'i eiddo ei hun y rhydd etifeddiaeth i'w feibion, fel na fydd yr un o'm pobl yn cael ei wahanu oddi wrth ei etifeddiaeth.’ ”
Ceginau'r Offeiriaid
19Yna aeth y dyn â mi trwy'r mynediad wrth ochr y porth i'r ystafelloedd cysegredig a wynebai tua'r gogledd, ac a berthynai i'r offeiriaid; a gwelais yno le yn y pen gorllewinol. 20Dywedodd wrthyf, “Dyma'r lle y bydd yr offeiriaid yn coginio'r offrwm dros gamwedd a'r aberth dros bechod, ac yn pobi'r bwydoffrwm, rhag iddynt ddod â hwy i'r cyntedd nesaf allan a throsglwyddo i'r bobl yr hyn sydd sanctaidd.”
21Yna aeth â mi i'r cyntedd nesaf allan a'm harwain i bedair cornel y cyntedd, a gwelais gyntedd ymhob un o'r pedair cornel. 22Ym mhedair cornel y cyntedd nesaf allan yr oedd cynteddoedd bychain#46:22 Felly Fersiynau. Hebraeg yn aneglur., deugain cufydd o hyd a deg cufydd ar hugain o led; yr oedd pob un o'r cynteddoedd yn y pedair cornel yr un maint. 23Y tu mewn i'r pedwar cyntedd yr oedd rhes o feini oddi amgylch, ac aelwydydd wedi eu gwneud yn agos at y meini o amgylch. 24A dywedodd wrthyf, “Dyma'r ceginau lle bydd y rhai sy'n gwasanaethu yn y deml yn coginio aberthau'r bobl.”

Currently Selected:

Eseciel 46: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy