Iöb 39

39
XXXIX.
1A wyddost ti ’r amser llydnu i eifr gwŷlltion y creigiau;
A’r bwrw llo gan yr ewigod, a wyli di (ef)?
2A gyfrifi di’r misoedd a gyflawnant hwy?
Ac a wyddost ti ’r amser iddynt lydnu?
3Hwy a ymgrymmant, a’u llydnod a fwriant hwy,
Eu gwewyr a ollyngant hwy ymaith;
4Fe gryfhâ eu llydnod, cynnyddant yn y maes,
Ant allan ac ni ddychwelant attynt hwy.
5Pwy a ollyngodd yr asyn gwŷllt yn rhydd,
A rhwymau ’r ffoadur (hwn) pwy a’u dattododd?
6Yr hwn y gosodais yr anialwch yn dŷ iddo,
A’r diffaethwch yn drigfa iddo;
7Efe a chwardd am ben trwst y #39:7 lle y gorthrymmir ei frawd dòf.ddinas,
Llefain y gyrrwr ni chlyw efe;
8Efe a dremia ar y mynyddoedd, ei borfa,
Ac am bob gwyrddlesni y chwilia efe.
9A ymfoddlona ’r bual i’th wasanaethu di?
A lettya efe wrth dy breseb?
10 # 39:10 =â thid arno yn y rhych. A rwymi di ’r bual yn rhych ei dîd?
A lyfna efe ’r dyffrynoedd yn ol (dy orchymyn) di?
11A ymddiriedi di wrtho am mai mawr (yw) ei nerth,
A gadael arno ef dy lafur blin?
12A goch di ef, y dychwel efe dy hâd #39:12 y cnwd.(adref),
Ac i’th lawr dyrnu y casgl efe ef?
13 # 39:13 trwy gymmorth yr adenydd hi a red yn gyflymmach na cheffyl; ond nis gall ehedeg. Aden yr estrys a ymorfoledda!
Ai aden aderyn caruaidd (yw) — ac ei blu ef?
14(Nage), canys hi a #39:14 Yn y parthau mwyaf gwresog ni orwedd arnynt ond liw nos yn unig, gan adael i’r haul eu parottoi i’r dëoriad.âd ei hwyau ar y ddaear,
Ac ar y llwch y cynhesa hi hwynt,
15Ac yr anghofia fod troed yn eu dryllio,
Ac anifail y maes yn eu sathru hwynt,
16Gan fod yn galed wrth ei chywion, #39:16 cynnwysedig yn yr wyau.fel nid ei heiddi hi;
Ofer (yw) ei #39:16 sef wrth roddi tywod o’u hamgylch.llafur hi, heb ofn (am danynt);
17Canys Duw a barodd iddi ollwng doethineb dros gof,
Ac ni chyfrannodd iddi ddeall;
18A phan wedi ei chodi yr ymwthio #39:18 sef â i hadenydd.hi ym mlaen,
Hi a #39:18 pan yr helir hi.chwardd ar ben y march a’i farchog.
19A roddaist ti i’r march gryfdwr?
A#39:19 — Tum si qua sonum procul arma dedere, Stare loco nescit, micat auribus, et tremit artus, Collectumque premens volvit sub naribus ignem. Virg. Geo. 3:85-7 wisgaist ti ei fwnnwgl ef â #39:19 gwelir golwg o hyn ym mwng gwaedfeirch.chrynfa?
20A wnei di iddo lammu fel ceiliog rhedyn?
— Ardderchowgrwydd (yw) ei chwyrniad ef — dychryn (yw):
21Cloddio yn y dyffryn a wna (ei draed), ac efe a lawenycha yn (ei) nerth,
Efe a â allan i gyfarfod yr arfau;
22Efe a chwardd ar ben arswyd, ac ni ddychryna,
Ac ni ddychwel rhag wyneb y cleddyf;
23Yn ei erbyn ef y seinia saethau,
Fflam y waywffon a’r biccell;
24Gan lammu ac ymgynhyrfu y#39:24 — acri Carpere prata fugâ. Virg. Geor. 3:142. — campumque volatu Cum rapuere pedum, frustra vestigia quæaras. Silius. 1. 3:308. Y mae Arabia yn enwog am ei meirch, o’r rhai y mae dwy ryw wahanredol. Nid yw un, a elwir kadishi (h. y. o darddiad anhyspys) yn fwy ei bri na’r meirch cyffredin yn Ewrop; a defnyddir ceffylau o’r rhywogaeth yma at wasanaeth cyffredin. Y rhyw arall, a elwir koheili neu kohlani, (h. y. hen ac ardderchog eu disgyniad), a gedwir at farchogaeth yn unig. Megir y ceffylau goreu yn yr anialwch sy’n terfynu ar Syria. Meithrinir ac addysgir hwynt yma yngwersylloedd y Beduiniaid gyda’r fath ofal fel yr ymlynant yn serchog wrth eu meistriaid. Am hyn ac am eu cyflymder rhyfeddol y prisir hwynt gymmaint, — nid am eu maintioli na’u harddwch. cipia efe ’r ddaear;
Ni saif yn llonydd, canys sain yr udgorn (sydd);
25Ar bob sain yr udgorn fe ddywaid efe “Chwei;”
Ac o hirbell yr arogla efe ’r rhyfel,
Taran y tywysogion, ac y twrf.
26 # 39:26 rhyw fath a fudai tua ’r dehau ar ddyfodiad y gauaf. Ai trwy dy ddeall di yr ymesgyn y gwalch,
Y lleda efe ei adenydd am y dehau?
27Ai wrth dy air di, yr ymddyrchafa ’r fwltur,
Ac yn yr uchelder y gwna efe ei nyth?
28Yn y graig y trig ac yr ymlettya efe,
Ar ysgythredd y graig, a’r uchelfa;
29Oddi yno y chwilia efe am fwyd,
Ac hyd bellder yr edrych ei lygaid;
30Ac (yno) ei gywion a sugnant waed,
# 39:30 maent yno yn uniawn A’r lle (y bo) trangcedigion — yno yntau.

Tans Gekies:

Iöb 39: CTB

Kleurmerk

Deel

Kopieer

None

Wil jy jou kleurmerke oor al jou toestelle gestoor hê? Teken in of teken aan