Iöb 40
40
XL.
1Yna yr attebodd Iehofah i Iöb, a dywedodd,
2Ai gan ymryson gyda ’r Hollalluog (yr ymrysona) beiwr?
A argyhoeddo Dduw, attebed i hynny!
3Yna yr attebodd Iöb i Iehofah, a dywedodd,
4Wele gwael ydwyf; pa beth a attebaf i Ti?
Fy llaw yr wyf yn ei gosod ar fy ngenau.
5Un waith y lleferais, ond ni lefaraf (mwy);
A dwy waith, ond ni chwanegaf.
6Yna yr attebodd Iehofah i Iöb allan o’r corwŷnt, a dywedodd,
7Gwregysa, yn awr, dy lwynau fel gwr;
Gofynaf i ti, a gwna dithau i Mi wybod.
8A ddiddymmi di Fy iawn farn?
A wnei di Fi yn anghyfiawn, fel y’th gyfiawnhâer di?
9Ai braich, megis yr eiddo Duw, sydd gennyt ti,
Ac â’r llais, megis Efe, y tarani di?
10Ymaddurna, yn awr, â mawredd ac a dyrchafedigrwydd,
Ac âg ardderchowgrwydd a gogoniant ymwisg di;
11Gwasgara lifeiriant dy ddigofaint,
Ac edrych ar bob balch, ac isela ef;
12Edrych ar bob balch, a gostwng ef,
A mathra ’r annuwiolion yn eu safle;
13Cuddia hwynt yn y pridd,
Rhwym eu gwynebau hwynt mewn tywyllwch;
14Yna, hyd yn oed Myfi a’th foliannaf,
O herwydd y gweryd dy ddeheulaw di.
15Wele, yn awr, yr afonfarch, yr hwn a grëais cystal â thydi;
Glaswellt a fwytty efe, fel ŷch;
16Wele, yn awr, ei gryfdwr yn ei lwynau,
A’i nerth yng ngïau ei fòl;
17Fe dry efe ei gynffon fel (ped fai yn) #40:17 sef, o ran anhyblygrwydd.gedrwŷdden,
Gewynau ei forddwydydd ŷnt #40:17 fel cangennau mewn pren.ymblethedig;
18Ei esgyrn ef yn bibellau pres,
Ei esgyrn (ŷnt) fel bàr o haiarn;
19Efe (sydd) bennaf o #40:19 h. y. weithredoedd.ffyrdd Duw,
Ei Wneuthurwr a ddug iddo ei #40:19 ei ddannedd mawrion.gleddyf,
20Canys#40:20 g. h. rhaid oedd iddo gael y fath ddannedd er mwyn medi ’r glaswellt, er ei fod yn anifail dyfrol. ymborth y mae ’r mynyddoedd yn ei ddwyn iddo,
A (’r lle) y mae holl anifeiliaid y maes yn chwareu ynddo;
21Tan y lotus y gorwedd efe Mewn lloches o gyrs a siglennydd;
22Ei orchuddio ef y mae ’r lotus â’u cysgod,
Ei amgylchu y mae helyg yr afon;
23Os treisio a wna ’r ffrwd, nid ofna efe,
Hyderus y byddai, ped ymruthrai ’r Iorddonen i’w enau ef:
24 # 40:24 h. y. heb ddichell. O flaen ei lygaid ef, a ddeil neb ef?
Yn y maglau, a gaiff dyn #40:24 er mwyn ei arwain adref.dyllu ei drwyn ef?
Tans Gekies:
Iöb 40: CTB
Kleurmerk
Deel
Kopieer

Wil jy jou kleurmerke oor al jou toestelle gestoor hê? Teken in of teken aan
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.