Iöb 33

33
XXXIII.
1Ond clyw, attolwg, Iöb, fy ymadroddion,
A’m holl eiriau clustymwrando di:
2Wele yn awr agorais fy ngenau,
Llefaru y mae fy nhafod yn nhaflod fy ngenau;
3Cywirdeb fy nghalon (yw) fy ngeiriau,
A gwybodaeth fy ngwefusau hwy a’i glân-adroddant:
4Yspryd Duw a’m gwnaeth i,
Ac anadl yr Hollalluog sy’n fy mywioccâu.
5Os gelli, atteb fi,
# 33:5 fel trefnu llu i ryfel Trefna dy hun, o’m blaen-ymorsaf:
6 # 33:6 nid oes achos i Iöb ymwrthod â’r hèr. Wele myfi o’r un fath â thydi gyda Duw,
O’r clai y naddwyd finnau;
7Wele fy arswyd ni ’th ddychryna,
A’m #33:7 sef, ei resymmau.baich arnat ni bydd drwm.
8Yn ddïau dywedaist yn fy nghlyw,
A llais dy ymadroddion a glywais i,
9(Sef) “Pur myfi, heb gamwedd;
Glân myfi, nid (oes) annuwioldeb gennyf;
10Wele, ymddïeithradau yn fy erbyn a gais Efe;
Fy nghyfrif y mae Efe yn elyn Iddo;
11Gosododd fy nhraed yn y cyffion,
Carcharodd fy holl lwybrau:”
12Wele, o ran hyn nad wyt gyfiawn, attebaf i ti,
# 33:12 â’i gydradd y dylai dyn ymryson Canys mwy yw Duw na dyn:
13Paham yn Ei erbyn Ef yr ymrysoni?
Canys i holl eiriau (dyn) nid ettyb Efe;
14Ond mewn un modd y llefara Duw,
Ac mewn dau, heb (i ddyn) ei ystyried,
15 # 33:15 y modd cyntaf. (Sef) trwy freuddwyd, gweledigaeth y nos,
Pan syrthio trymgwsg ar ddynion,
Yn yr hepian ar wely;
16Yna yr egyr Efe glustiau dynion,
Ac ar eu cerydd hwynt y gesyd Efe insel,
17Er mwyn peri i ddyn encilio oddi wrth ei (ddrwg) weithred,
A chuddio balchder oddi wrth wr,
18Er mwyn attal ei enaid ef rhag distryw,
A’i hoedl ef rhag myned ymaith o honi trwy’r #Psalm 44:7.saeth.
19 # 33:19 yr ail fodd, clefyd. Ac fe argyhoeddir (dyn) trwy gystudd ar ei wely,
A chynheu ei esgyrn yn barhäus;
20Ac fe ffïeiddia ei fywyd ef fara,
A’i enaid ef fwyd dymunol;
21Derfydd ei gnawd ef fel na’i gwelir,
Ac yn anghyhyrawl yr â ei esgyrn (y rhai) #33:21 sef, o achos tewder y dynni welid;
22Agos i ddistryw yw ei enaid,
A’i fywyd i’r (angylion) dinystriol.
23 # 33:23 y trydydd modd, sef rhyw un rhagorol yn dyfod i ymddiddan â, a chyfarwyddo y claf, fel y mae efe yn awr wedi dyfod at Iöb. Os bydd iddo gennad, lladmerydd,
Un o fil,
I adrodd i ddyn ei iawn ffordd,
24Ac iddo Ef fod yn raslawn wrtho, a dywedyd,
“Gollwng ef rhag disgyn o hono i ddistryw,
Cefais iawn,”
25Tirfach fydd ei gnawd ef na bachgen,
Dychwel a wna efe i ddyddiau ei ieuengctid,
26A gweddïo ar Dduw ac Efe fydd boddlon iddo,
Ac a wna iddo edrych ar Ei wyneb Ef â gorfoledd,
Ac a ddychwel i’r adyn ei gyfiawnder;
27Yntau a gan yngwydd dynion ac a ddywaid,
“Pechais, a’r hyn oedd uniawn a ŵyrais i,
Ac nid y cyfartal a ddigwyddodd i mi,
28Efe a ollyngodd fy enaid rhag mudo i ddistryw,
A’m bywydd sydd yn edrych ar y goleuni:”
29Wele hyn oll a wna Duw
Ddwywaith — teir gwaith, â dyn,
30I ddychwel ei enaid ef o ddistryw,
Er mwyn iddo ddisgleirio yngoleuni bywyd.
31Gwrando, Iöb, clyw fi,
Taw, a myfi a lefaraf;
32Od oes ymadroddion (gennyt), atteb fi,
Llefara, canys da fyddai gennyf dy gyfiawnhâd;
33Os nad (oes), gwrando di arnaf fi;
Taw, a dysgaf i ti ddoethineb.

Tans Gekies:

Iöb 33: CTB

Kleurmerk

Deel

Kopieer

None

Wil jy jou kleurmerke oor al jou toestelle gestoor hê? Teken in of teken aan