(Sef) trwy freuddwyd, gweledigaeth y nos,
Pan syrthio trymgwsg ar ddynion,
Yn yr hepian ar wely;
Yna yr egyr Efe glustiau dynion,
Ac ar eu cerydd hwynt y gesyd Efe insel,
Er mwyn peri i ddyn encilio oddi wrth ei (ddrwg) weithred,
A chuddio balchder oddi wrth wr,
Er mwyn attal ei enaid ef rhag distryw,
A’i hoedl ef rhag myned ymaith o honi trwy’r saeth.