Iöb 33:15-18
Iöb 33:15-18 CTB
(Sef) trwy freuddwyd, gweledigaeth y nos, Pan syrthio trymgwsg ar ddynion, Yn yr hepian ar wely; Yna yr egyr Efe glustiau dynion, Ac ar eu cerydd hwynt y gesyd Efe insel, Er mwyn peri i ddyn encilio oddi wrth ei (ddrwg) weithred, A chuddio balchder oddi wrth wr, Er mwyn attal ei enaid ef rhag distryw, A’i hoedl ef rhag myned ymaith o honi trwy’r saeth.