Iöb 20

20
XX.
1Yna yr attebodd Tsophar y Naamathiad, a dywedodd,
2Am hyn fy meddyliau sy’n rhoddi atteb i mi,
# 20:2 sef i lefaru. Ac o herwydd (hyn y mae) fy mrys ynof;
3 # 19:2. Cerydd gwaradwyddus i mi a glywais i,
Ac yspryd fy neall sy’n peri i mi atteb:
4A wyddost ti hyn?
Eriôed, Er pan osodwyd dyn ar y ddaear,
5Gorfoledd yr annuwiolion (sydd) fyr,
A llawenydd y drygionus ond am amrant:
6Ped esgynai ei ddyrchafiad hyd y nefoedd,
A’i ben hyd y cymmylau a gyrrhaeddai,
7 # 1 Bren. 14:10. Fel ei dòm ef am byth y distrywir ef,
Y rhai a’i gwelsant a ddywedant “Pa le (y mae) efe;”
8Fel breuddwyd yr eheda efe ymaith, ac ni cheir ef,
Ac efe a ffŷ fel gweledigaeth nos;
9Llygad a dremiodd arno, ond ni chwanega (wneuthur hynny),
A mwyach ni chenfydd ei le ef mo hono;
10Ei feibion ef, y gweiniaid a’u gorthrymmant,
A’u dwylaw hwy a roddant adref ei #20:10 h. y. y golud, ffrwyth ei ddrygioni.ddrygioni ef;
11Ei esgyrn oeddynt lawn o (nerth) ei ieuengctid,
Ond gydag ef yn y pridd y gorwedd (hynny);
12Er mai melus yn ei enau oedd drygioni,
Iddo ei guddio tàn ei dafod,
13Iddo ei arbed ac heb ei ado,
Eithr ei attal o fewn taflod ei enau,
14Ei fwyd yn ei ymysgaroedd a newidiwyd,
# 20:14 prif-loches y gwenwyn, yn ol barn yr hên oesoedd. (Plin.) Bustl aspiaid (sydd) o’i fewn ef;
15Cyfoeth a lyngcodd efe — ac a’i chwyda,
Allan o’i fòl y rhwyga Duw ef;
16Gwenwyn aspiaid a sugnodd efe,
Ei ladd ef y mae tafod gwiber;
17 # 20:17 arwyddion o lwyddiant a digonolrwydd Ni chaiff weled cornentydd,
Afonydd ffrydiawl o fêl ac ymenyn:
18Gan roddi adref (ffrwyth ei) lafur ni chaiff ei #20:18 — ei fwynhâulyngcu,
Yn ol y #20:18 adnod 15.cyfoeth (y mae) ei atdaliad, ac ni orfoledda (ynddo);
19Am iddo ddryllio, iddo adaw ’r gweiniaid,
Iddo anrheithio tŷ, — ond ni chaiff ei #20:19 sef iddo ei hunadeiladu;
20 # 20:20 canlyniadau ei ormes a’i chwant. Am na wybu efe am lonyddwch yn ei fòl,
Gyda ’i ddymuniad ni chaiff ddïangc;
21Nid oedd a weddilliwyd gan ei ysiad ef,
Gan hynny ni pharhâ ei wynfyd;
22Ynghyflawnder ei helaethrwydd cyfyng fydd arno,
Pob llaw ’r truenus arno a ddaw;
23A bydd, er mwyn llenwi ei fòl,
(Duw) a ddenfyn arno angerdd Ei lid,
Ac a wlawia arnynt â’u #20:23 llenwi ’r fath ddynion o anffawd &c.hymborth;
24 # 20:24 in Scyllam e Charybdi. Ffoi a wna efe rhag yr arfau haiarn,
Ei drywanu ef a wna ’r bwa pres,
25Fe dỳn efe ’(r saeth) allan — allan o’i gorph y daw hi,
Y gloyw-arf allan o’i fustl a aiff;
Arno echrysau (sydd)!
26Pob tywyllwch a ddirgel-gadwyd i’w (drysorau) cuddiedig,
# 20:26 tân Duw Ei fwytta ef a wna tân, nid chwythedig,
(Ac) ysu #20:26 ei deuluy neb a weddillir yn ei babell ef;
27 # 20:27 cyfeirir at 16:18, 19. Fe ddatguddia ’r nefoedd ei anwiredd ef,
A’r ddaear sy’n ymgodi yn ei erbyn;
28Fe ymfuda cynnydd ei dŷ,
Ei grafedig (olud), yn nydd Ei ddigofaint Ef:
29 # 20:29 diweddu a chasglu y mae Tsophar yn yr un modd ag y gwnaeth Bildad 18:21. Hon (yw) rhan dyn annuwiol gan yr Arglwydd,
A’r etifeddiaeth a ordeiniwyd iddo gan Dduw.

Tans Gekies:

Iöb 20: CTB

Kleurmerk

Deel

Kopieer

None

Wil jy jou kleurmerke oor al jou toestelle gestoor hê? Teken in of teken aan