Iöb 19
19
XIX.
1Yna yr attebodd Iöb, a dywedodd,
2 # 19:2 gyda golwg ar 18:2. Pa hŷd y cystuddiwch chwi fy enaid,
Ac y’m drylliwch ag ymadroddion?
3 # 19:3 =llawer gwaith Y ddengwaith hyn y’m gwaradwyddasoch,
Ac nid oedd cywilydd gennych o’m syfrdanu.
4Os, mewn gwirionedd, y bu i mi gyfeiliorni,
# 19:4 ni pherthyn i chwi Gyda myfi yr erys fy nghyfeiliornad.
5Os mewn gwirionedd yn fy erbyn y gwnewch ymfawrygu,
Ac argyhoeddi fy ngwaradwydd i’m herbyn;
6Gwybyddwch, yn awr, mai Duw a’m crymmodd,
Ac a roddes Ei rwyd o’m hamgylch;
7Wele, yr wyf fi yn gwaeddi (o achos) gormes, ond nid erglywir arnaf,
Llefain (am gymmorth) yr wyf, ond nid (oes) farn;
8Fy ffordd a argaeodd Efe fel nad elwyf drosodd,
Ac ar fy llwybrau tywyllwch a roddes Efe;
9Fy ngogoniant a ddïosgodd Efe oddi am danaf,
#
29:14. Ac fe ddug Efe ymaith goron fy mhen;
10Efe a’m dymchwelodd — a myned yr wyf fi —
Ac a ddadwreiddiodd fy ngobaith fel pren;
11Ac Efe a ennynodd Ei lid i’m herbyn,
Ac a’m cyfrifodd Iddo fel Ei elynion;
12Ynghŷd y daeth Ei gatrodau Ef,
A sarnasant eu ffyrdd yn fy erbyn,
A gwersyllasant o amgylch fy mhabell;
13Fy mrodyr a bellhâodd Efe oddi wrth fy ymyl,
A’r rhai a’m #19:13 oeddynt yn gofalu am danocydnabuont a lwyr ymddieithriasant oddi wrthyf;
14Fy nghyfneseifiaid a ballasant,
A’r rhai a #19:14 yn cael gofalu am danynt ganddo.gydnabuwyd gennyf a’m hanghofiasant;
15 # 19:15 gweision na aned yn y teulu. Preswylwŷr fy nhŷ a’m morwynion sy’n fy nghyfrif yn #19:15 megis nid meistr y tŷ.ddïeithr,
Estron wyf yn eu golwg hwynt;
16Ar fy ngwas y galwaf, ond nid ettyb efe,
Â’m genau ymbilio yr wyf âg ef;
17 # 19:17 amneidio â llygad fyddai gynt yn ddigon Fy anadl (sydd) ffieidd-dra i’m gwraig,
A drewllyd wyf i #19:17 y rhai a aned iddo o ordderchwragedd, neu ei ŵyrion.feibion fy nghorph;
18Plant hefyd a’m dirmygant,
Pan gyfodwyf hwy a lefarant i’m herbyn;
19Fy ffieiddio y mae fy holl gyfrinachwŷr,
A’r rhai a gerais a dröwyd yn fy erbyn;
20Wrth fy #19:20 eu hirder wedi diflannunghroen ac wrth fy nghnawd y glyn fy esgyrn,
A dïengais â #19:20 yr uchannedd yn unig sy’n ddifriw ynof. Dïareb — braidd y darfu am danaf.chroen fy nannedd.
21Trugarhêwch wrthyf!
Trugarhêwch wrthyf, chwychwi fy nghyfeillion,
Canys llaw Duw a’m tarawodd!
22Pa ham yr erlidiwch #19:22 digon ei gyflwr truenus fel na ddylent hwy ei wawdio hefyd.chwi fi fel (y mae) Duw,
Ac â’m cnawd ni’ch gorddigonir chwi?
23 # 19:23 Anobeithiol yw o’u tosturi hwynt: g. h. chwennychai am i oesoedd dyfodol ei gyfiawnhâu. O, ynte, nad ysgrifenid fy ngeiriau!
O nad mewn llyfr y darlunid hwy!
24O #19:24 Y mae’n dra thebygol fod plwm yn cael ei ddefnyddio yn glawr neu orchudd ar ben y morthwyl rhag ofn y rhoddid tarawiad rhy drwm i’r pin haiarn, — megis y mae ’r ordd yn awr yn cael ei gwneyd o bren. Y mae “dyffryn yr argraffnodau” ger llaw mynydd Sinai wedi ei orchuddio ag ysgrifeniadau, y rhai, fel y bernir, a wnaed gan yr Israeliaid yn eu crwydradau. Yn gyffelyb, y mae buddugoliaethau Darius yn awr i’w gweled wedi eu naddu ar y creigiau yn Behistun; a buddugoliaethau Sennacherib yn Bavian ger llaw ’r hen Arbela, ac yn Beyrout. Yn Beyrout hefyd y mae’r gair Rameses a geiriau ereill i’w gweled mewn llythyrenau Aiphtaidd; ac yn Thebes ym meddau ’r brenhinoedd y mae cerfnaddiadau cyffelyb. Dywed Herodotus ddarfod i Themistocles hefyd gerfio ar greigiau alwad ar yr Iöniaid i adael brenhin Persia. nad â phin haiarn ac â phlwm,
Dros byth, yn y graig yr ysgythrid hwy!
25 #
16:19. Eithr#19:25 Eithr gwell byth na hynny, — byw yw, a byw fydd hyd ddiwedd y byd yr Hwn a’m gweryd o bod camdybiaeth ynghylch fy niniweidrwydd, ac a wna ddïal drosof. myfi a wn fod fy Ngwaredwr yn fyw,
# 19:25 atteb i 18:21. Ac y diweddaf ar y ddaear y saif Efe;
26 # 19:26 fe ochel efe alw ei ysgerbwd yn “gorph” Ac ar ol fy nghroen, (a) difetha (o’r peth) hwn,
O’m cnawd y câf edrych ar Dduw,
27Yr Hwn, myfi a gâf edrych arno ar fy ochr,
A’m llygaid a’i gwelant Ef ac nid yn arall;
# 19:27 o hiraeth am y golwg hwn — Marw y mae f’ arennau yn fy mynwes!
28Dywedwch, ynte, “Pa ham yr erlidiwn ni ef,
A #19:28 sef, ei ddiniweidrwyddgwreiddyn y ddadl i’w gael ynddo?”
29Ofnwch am danoch rhag wyneb y #19:29 sef, cleddyf Duw.cleddyf,
— Canys angerdd (yw) cospedigaethau ’r cleddyf, —
Er mwyn i chwi ystyried (fod) barn.
Tans Gekies:
Iöb 19: CTB
Kleurmerk
Deel
Kopieer

Wil jy jou kleurmerke oor al jou toestelle gestoor hê? Teken in of teken aan
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.